Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogaeth gyfathrebu ar gyfer pobl fyddar

Mae pobl fyddar a thrwm eu clyw yn cyfathrebu gyda'i gilydd mewn nifer o agweddau o fywyd bob dydd. Yn aml bydd angen cymorth arnynt er mwyn cyfathrebu'n effeithiol gyda'i gilydd. Mae mynediad at wasanaethau 'cefnogaeth gyfathrebu' ar gael mewn gwahanol ffyrdd.

Ynghylch cefnogaeth gyfathrebu

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, mae'n rhaid trefnu cefnogaeth gyfathrebu ymlaen llaw. Efallai y bydd yn rhaid trefnu hyd at chwe wythnos ymlaen llaw.

Bydd angen i ddarparwyr gwasanaeth gwybod pa fath o gymorth cyfathrebu y bydd ei angen arnoch er mwyn defnyddio'u gwasanaethau. Dylech roi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib er mwyn iddynt allu trefnu'r cymorth iawn.

Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth drin gwybodaeth feddygol neu gyfreithiol - megis mewn ysbyty, mewn gorsaf heddlu neu mewn llys. Mae gan rai Gweithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol brofiad ychwanegol mewn rhai sefyllfaoedd.

Gall y wybodaeth angenrheidiol gynnwys:

  • hyd y sesiwn
  • gwybodaeth ddefnyddiol am y sesiwn megis diagnosis meddygol, sleidiau'r cyflwyniad neu agenda'r cyfarfod

Gall darparwyr gwasanaeth, awdurdodau lleol a swyddfeydd llywodraeth - er enghraifft Canolfan Byd Gwaith neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol - ddefnyddio cefnogaeth gyfathrebu drwy'r dulliau canlynol:

  • cyflogi Gweithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol mewnol
  • cysylltu ag asiantaethau neu unigolion sy'n cynnig cymorth cyfathrebu

Dylai fod gan ysbytai, meddygon ac 'asiantaethau cyfreithiol' (megis yr heddlu a'r llysoedd) system archebu a threfn arferol ar waith ar gyfer trefnu gwasanaethau dehongli.

Sut y trefnir cefnogaeth gyfathrebu

Enghreifftiau o gefnogaeth gyfathrebu mewn rhai sefyllfaoedd

Yn y feddygfa neu yn yr ysbyty

Mae gan bobl fyddar yr hawl i gael dehonglydd cymwys mewn apwyntiadau meddygol. Yn gyffredinol, ni ddylid defnyddio plant nac aelodau'r teulu fel dehonglwyr na chyfathrebwyr. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn addas i oedolyn, er enghraifft priod neu bartner, fod yn ddehonglydd.

Chwilio am waith ac wrth weithio

Mewn canolfan gwaith neu Ganolfan Byd Gwaith gall dehonglydd eich helpu i ysgrifennu ffurflenni cais a CVs. Gall dehonglydd gyfieithu gwybodaeth rhyngoch chi a'r Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl.

Gall y cynllun 'Mynediad at Waith' ddarparu cymorth i bobl anabl a chyflogwyr. Gelwir pobl sy'n darparu cefnogaeth gyfathrebu dan y cynllun hwn yn 'weithwyr cefnogaeth'.

Maent yn cyflwyno anfonebau i'r cyflogwr ar gyfer talu am y gwasanaethau a ddarparwyd a bydd y cyflogwr a'r gweithiwr yn arwyddo ffurflen hawlio i gael eu ffioedd yn ôl gan y cynllun. Dan amgylchiadau penodol, mae'n bosib y bydd disgwyl i'ch cyflogwr gyfrannu at gostau cefnogaeth gyfathrebu.

Yn y coleg neu'r brifysgol

Gall colegau gael arian ychwanegol i gwrdd ag anghenion dysgu ychwanegol myfyrwyr byddar neu drwm eu clyw. Gall hyn gynnwys darparu Gweithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol.

Gall Lwfansau Myfyrwyr Anabl helpu i dalu'r costau ychwanegol a allai wynebu myfyrwyr sydd am astudio cwrs addysg uwch, o ganlyniad uniongyrchol i anabledd. Gall y lwfansau helpu i dalu am gost cynorthwyydd anfeddygol personol megis dehonglydd neu ysgrifennwr nodiadau.

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn gofyn bod cyflogwyr a darparwyr nwyddau a gwasanaethau i'r cyhoedd yn gwneud addasiadau rhesymol i helpu pobl anabl gyda recriwtio a chyflogi, ac er mwyn eu galluogi i gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau.

Ar gyfer pobl fyddar, gall addasiadau rhesymol gynnwys darparu cymhorthion neu wasanaethau cyfathrebu, megis dehongli iaith arwyddion.

Cymwysterau ar gyfer Gweithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol

Dim ond Gweithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol cwbl gymwys y mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaeth yn eu defnyddio. Gallwch gael gwybodaeth am y mathau o gymwysterau, lefelau hyfforddiant, categorïau cofrestru a mwy ar wefan Signature (y Cyngor ar gyfer Datblygu Cyfathrebu â Phobl Fyddar, yn flaenorol). Mae gan y wefan hefyd gyfeirlyfr ar-lein o Weithwyr Gwasanaeth Iaith Proffesiynol cymwys.

Dysgu iaith arwyddion - dod o hyd i gwrs

Porwch drwy gronfa ddata o gyrsiau'r DU i ddysgu am gefnogaeth gyfathrebu ac ieithoedd - gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, darllen gwefusau a Makaton.

Darperir y gwasanaeth gan Careers Advice.

Allweddumynediad llywodraeth y DU