Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am broblemau gyda phalmentydd a chynnal a chadw strydoedd preifat

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros gynnal a chadw palmentydd, gan gynnwys sicrhau eu bod yn glir o rwystrau megis sgips neu sgaffaldau a'u bod yn ddiogel mewn tywydd rhewllyd. Ar y llaw arall, y perchnogion sy'n gyfrifol am gynnal a chadw stryd breifat, ond gallwch wneud cais i'r cyngor fabwysiadu'r ffordd.

Yr hyn y gall eich cyngor ei wneud

Eich cyngor sydd fel arfer yn gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd drwy sicrhau bod palmentydd yn glir o rwystrau y gellir baglu drostynt ac unrhyw ddiffygion eraill. Mae hyn yn cynnwys cael gwared â chwyn, adnewyddu slabiau sydd wedi malu neu wedi cael eu dwyn, graeanu pan fydd y tywydd yn rhewllyd a chlirio eira oddi ar balmentydd.

Ond nid yw'r cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw stryd breifat. Stryd breifat yw stryd nad yw'n cael ei chynnal a'i chadw gan y cyngor. Perchnogion y stryd, sef y sawl sy'n byw ar y stryd fel arfer, sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros strydoedd preifat. Fodd bynnag, os yw problem yn cael ei hystyried yn 'beryglus' (er enghraifft, twll dwfn yn ymddangos yn ddisymwth yn y ffordd) gall y cyngor drefnu i wneud y lle'n ddiogel drwy osod rhwystrau neu gau ffyrdd o amgylch y man peryglus. Er hyn, y perchennog/perchnogion fydd wedyn yn gyfrifol am drefnu bod y gwaith trwsio parhaol yn cael ei wneud.

Rhoi gwybod am balmentydd sydd wedi'u difrodi

Gall palmentydd neu lwybrau troed gael eu difrodi wrth i gwmnïau'r prif gyfleusterau, megis nwy neu ffôn, wneud gwaith gerllaw. Y cwmnïau hyn sy'n gyfrifol am ddarparu llwybr diogel i gerddwyr ac unrhyw draffig arall i basio. Hefyd, nhw sy'n gyfrifol am sicrhau bod y palmant yn cael ei adael mewn cyflwr da pan fydd y gwaith wedi dod i ben.

Gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol am balmentydd sydd wedi'u difrodi, wedi torri neu sydd ar goll drwy glicio ar y dolenni isod.

Mathau o rwystrau

Gall rhwystrau fod yn niwsans i gerddwyr a gallant fod yn un o'r canlynol:

  • sgip neu sgaffaldiau yn peri rhwystr ar y palmant
  • dim bariau o amgylch gwaith ar strydoedd/gwaith ffordd a gwaith adeiladu sy'n effeithio ar ddiogelwch cerddwyr
  • defnyddiau adeiladu sy'n blocio'r palmant
  • bwrdd hysbysebu yn blocio'r palmant

Os dowch ar draws unrhyw un o'r rhwystrau uchod ac y byddech yn hoffi rhoi gwybod amdano, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Gofyn am raeanu ffordd a chlirio eira

Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol raeanu palmentydd a chlirio eira mewn tywydd gaeafol. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cael y cyngor i fabwysiadu stryd breifat

Os ydych chi'n byw ar stryd breifat a'ch bod yn dymuno i'r cyngor ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei chynnal a'i chadw, gallwch wneud cais i'r cyngor fabwysiadu'r ffordd. Er mwyn i stryd fod yn gymwys i gael ei mabwysiadu bydd gofyn ei bod wedi'i hadeiladu i'r safonau teilwng a bennwyd gan y cyngor. Rhaid i berchennog neu berchnogion y stryd fod yn gyfrifol yn y lle cyntaf am y costau adeiladu fel bo'r stryd yn bodloni'r safonau cywir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU