Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhoi gwybod am broblem gyda thyllau mewn ffyrdd

Pan fydd arwynebau ffyrdd wedi cael eu herydu a phantau'n ffurfio yn sgîl hyn, crëir tyllau mewn ffyrdd. Gall tyllau mewn ffyrdd ffurfio'n sydyn a byddant yn beryglus ar y ffordd fawr gyhoeddus.

Problemau a achosir gan dyllau mewn ffyrdd

Penderfynir pa mor ddifrifol yw twll mewn ffordd ar sail y risg y mae'n ei beri i ddefnyddwyr ffordd. Mae'n anodd barnu hyn gan fod pob twll mewn ffordd yn gallu peri rhywfaint o risg.

Mae'r ffactorau a ystyrir yn cynnwys:

  • maint a dyfnder y twll
  • math o draffig, pa mor gyflym mae'r traffig yn teithio a faint ohono sydd
  • aliniad y ffordd
  • gwelededd
  • lleoliad y twll ac ystyried lled y ffordd

Gall tyllau mewn ffyrdd hefyd ymddangos ar balmentydd a llwybrau troed.

Os ydych yn bryderus am dwll mewn ffordd, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol. Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae gan eich cyngor gyfrifoldeb i gynnal a chadw ac atgyweirio arwynebau priffyrdd. Cofiwch roi manylion manwl gywir lle'n union mae'r twll yn y ffordd ac ai ar y ffordd ynteu ar y palmant y mae.

Rhoi gwybod am dyllau yn y ffordd

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU