Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O bryd i'w gilydd bydd angen cau ffyrdd a phriffyrdd rhag y cyhoedd oherwydd bod angen danfon nwyddau, am resymau iechyd a diogelwch neu oherwydd gwaith ffordd. Mae dyletswydd ar eich cyngor i'ch hysbysu am unrhywbeth a allai darfu ar eich siwrnai; a gallwch chi hefyd gysylltu â'ch cyngor lleol i gael gwybod am unrhyw ffyrdd sydd ar gau neu wyriadau.
Cyn cau ffyrdd rhaid i'r Awdurdod Priffyrdd roi Gorchymyn Rheoli Traffig. Y person sydd wedi gwneud cais am gau'r ffordd sy'n gyfrifol am unrhyw gost yn ymwneud â chau'r ffordd a gosod arwyddion yn rhoi gwybod am wyriadau. Rhaid rhoi o leiaf wyth wythnos o rybudd o flaen llaw a glynu wrth broses gyfreithiol ac ymgynghorol.
Mae cau ffyrdd mewn argyfwng hefyd yn bosib pan fydd perygl uniongyrchol i'r cyhoedd, megis ymsuddiant tir neu adeiladau peryglus.
Efallai bydd busnesau neu unigolion yn gwneud cais am gau ffordd er mwyn eu galluogi i gyflawni gwaith sydd angen ei wneud. Rhaid cydymffurfio â chyfnodau hysbysu er mwyn caniatáu i'r hysbysebion statudol gael eu cyhoeddi.
Am ragor o wybodaeth am gau ffyrdd a gwyriadau, cysylltwch ag adran priffyrdd eich cyngor lleol.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Cyhoeddir rhybuddion statudol mewn papurau newydd lleol yn rhoi gwybod i bobl am fwriadau i gau ffyrdd ac anfonir cylchlythyr i amrywiol sefydliadau megis Cynghorau Plwyf/Ardal, yr Heddlu, gwasanaethau brys eraill a chwmnïau bysiau.
Gallai eich cyngor hefyd roi gwybod i ddefnyddwyr ffordd am unrhyw beth a allai darfu ar eu siwrnai yn y dyfodol agos, drwy ddefnyddio arwyddion. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a allai effeithio ar eich siwrnai megis llwybrau gwyriadau neu faint o amser y mae gwaith ffordd yn debygol o bara.