Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd staff gwasanaethau parcio'r cyngor yn cynnal a chadw peiriannau tocynnau, yr arwyddion a'r rhwydwaith parcio ceir ar y stryd ac oddi arni. Byddant hefyd yn sicrhau bod llefydd parcio ar gael ac yn ddiogel i'w defnyddio bob amser, yn ogystal â delio ag ymholiadau.
Gallwch dalu'ch dirwy parcio car:
Efallai y bydd modd i chi dalu eich dirwy parcio ar-lein. I gael gwybod a yw'ch cyngor lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn ymwelwch â'u gwefan neu cysylltwch â hwy'n uniongyrchol.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn eich dirwy a bod gennych docyn dilys cysylltwch â'ch cyngor lleol. Os dymunwch apelio yn erbyn eich dirwy ar sail amgylchiadau arbennig neu oherwydd eich bod yn Ddeiliad Bathodyn Anabl, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.
Tra byddan nhw'n ystyried eich apêl, bydd y cyngor yn rhewi'r dyddiad olaf ar gyfer talu'r ddirwy hyd nes eu bod yn ymateb. Os nad yw eich dadl yn llwyddiannus bydd y cyngor yn disgwyl i chi dalu o fewn nifer penodol o ddyddiau wedi dyddiad eu hymateb hwy.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.