Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall gollyngiadau ar ffyrdd achosi damweiniau difrifol i bawb sy'n defnyddio'r ffordd fawr. Dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol amdanynt.
Os oes gennych fanylion am rywun sydd wedi achosi gollyngiad ar ffordd, gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am droseddwr, darparwch gymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys:
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am lanhau gollyngiadau ar ffordd. Os bydd digwyddiad yn cymryd lle y tu allan i oriau swyddfa arferol, gallai adran priffyrdd eich cyngor gynnal gwasanaeth wrth gefn y tu allan i'r oriau hynny er mwyn darparu gwasanaeth adeg argyfwng. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Gallai gollyngiadau olew a disel fod yn beryglus. Ar gyfer y rhain a sylweddau peryglus eraill, efallai y bydd angen i'r heddlu lleol a'r gwasanaeth tân fod yn bresennol ac mae'n bosib y bydd angen cau ffyrdd.
Mae gollyngiadau ar draffyrdd yn beryglus iawn a dylid rhoi gwybod amdanynt i linell wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd.