Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Eich cyngor sy'n gyfrifol am gynllunio, gosod a chynnal a chadw goleuadau stryd a goleuadau traffig. Mae hyn hefyd yn cynnwys goleuadau trefol, goleuadau ar lwybrau troed a bolardiau golau.
Rhoi gwybod i’ch cyngor lleol am broblem gyda golau stryd
Os ydych chi'n rhoi gwybod am broblem gyda goleuadau stryd, ceisiwch roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib am y broblem, er enghraifft, a yw'r golau wedi diffodd yn llwyr neu a yw ynghynn drwy'r dydd. Hefyd, rhowch y rhif ar golofn y lamp - os na allwch weld y rhif yna rhowch fanylion am ei leoliad neu rif tŷ cyferbyn.
Os ydych chi'n rhoi gwybod am golofn lamp sy'n gwyro neu sydd wedi'i ddifrodi, bydd arolygwr yn dod allan i asesu'r difrod ac yn penderfynu pryd fydd angen gwneud y gwaith atgyweirio.
Fel arfer, bydd eich cyngor hefyd yn darparu gwasanaeth ar gyfer sefyllfaoedd brys y tu allan i oriau arferol.
Bydd y ddolen uchod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae pob newid i oleuadau stryd, gan gynnwys ceisiadau am welliannau, yn cael eu hystyried gan y cyngor. Byddant yn pwyso a mesur gwahanol agweddau, gan gynnwys oedran a chyflwr y golau presennol yn ogystal â'r goleuni a ddaw o'r lamp.
I roi gwybod am broblem gyda goleuadau traffig, cysylltwch â'ch cyngor lleol a rhowch fanylion iddynt am leoliad y golau a beth yw'r broblem. Os yn bosib, dylech roi'r rhif ar flaen y goleuadau.