Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhwystrau a gwaith ffordd ar ffyrdd a phriffyrdd

Mae'n drosedd gosod rhwystr a allai darfu ar rediad traffig ar briffyrdd. Gellir diffinio rhwystrau fel gwrthrychau sydd wedi cael eu gosod yn anghyfreithlon ar briffordd neu sy'n tarfu arni.

Mathau o rwystrau

Dyma enghreifftiau o rwystrau:

  • sgipiau adeiladwyr
  • sgaffaldiau/palisau
  • defnyddiau adeiladwyr
  • gwaith dros dro gan gynnwys goleuadau traffig
  • canghennau coed sy'n disgyn dros y ffordd, cloddiau
  • mwd/malurion ar y ffordd
  • cymysgu concrid/mortar ar y briffordd
  • gwerthwyr/masnachwyr heb awdurdod
  • tresbasu ar ffiniau priffyrdd
  • dŵr yn arllwys i'r briffordd
  • blocio "hawliau tramwy"
  • planhigion a llwyni
  • arwyddion anghyfreithlon

Pan fydd gweithgaredd yn defnyddio rhan o ffordd gyhoeddus yn anghyfreithlon, er enghraifft, lle mae cwrt blaen garej yn gor-ymestyn i'r ffordd fawr gyhoeddus, caiff hyn ei gyfri fel tresbasu.

Os bydd person heb awdurdod cyfreithlon i wneud hynny yn rhwystro ceir rhag gyrru'n ddi-drafferth ar hyd ffordd fawr, maent yn euog o drosedd. Mewn achosion o'r fath, bydd gan y cyngor priffyrdd (sef eich cyngor lleol) bwerau cyfreithiol i'w gorfodi i symud. I roi gwybod am unrhyw rwystrau, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Rhwystrau a gwaith ar y ffordd

Er mwyn dod o hyd i waith ffordd sydd naill ai ar y gweill neu wedi'i drefnu, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU