Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cardiau parcio ar gyfer preswylwyr

Mae cael gafael ar, adnewyddu a diddymu cerdyn parcio preswyl yn amrywio o gyngor i gyngor felly dylech holi eich cyngor am fanylion.

Beth mae'r cerdyn parcio yn caniatáu i chi ei wneud

Bydd y cerdyn parcio yn gadael i chi barcio mewn llefydd sydd wedi'u neilltuo ar gyfer deiliaid y cerdyn.

Gwnewch yn siur:

  • bod eich cerdyn parcio yn ddilys
  • nad ydy'ch cerdyn parcio wedi dod i ben
  • bod rhif cofrestru'r cerbyd yn gywir
  • y defnyddir y cerdyn yn unol â'r amodau cyhoeddi

Gwneud cais am gerdyn parcio

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Pwy sy'n gymwys?

Bydd preswylwyr sy'n cadw ac yn defnyddio car, fan gyda phwysau di-lwyth heb fod yn fwy na 35cwt (1,778kg) neu feic modur yn llawn amser yn gymwys i dderbyn cerdyn parcio.

Ni chewch barcio mewn llefydd wedi eu neilltuo ar gyfer deiliaid cardiau parcio onid oes gennych chithau gerdyn parcio dilys ar gyfer yr ardal honno.

Os oes gennych fathodyn glas person anabl, fel arfer, cewch barcio mewn llefydd dwy awr cyn hired ac y dymunwch. Yn unol â'r cynllun bathodyn oren/glas cewch barcio am hyd at dair awr ar linellau melyn sengl neu ddwbl.

Cardiau parcio i ymwelwyr

Fel arfer, rhoddir cerdyn ar gyfer ymwelwyr yn ychwanegol at y cerdyn parcio ar gyfer preswylwyr.

Dim ond i rai sy'n galw yng nghyfeiriad deiliaid cardiau parcio y gellir rhoi cardiau ar gyfer ymwelwyr. Cyfrifoldeb y person sy'n byw yn y tw yw sicrhau ei fod yn cael y cerdyn parcio yn ôl pan fydd yr ymwelwyr yn ymadael. Rhaid i'r holl gardiau gael eu harddangos yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd.

Adnewyddu eich cerdyn parcio

Byddwch yn gyfrifol am adnewyddu eich cerdyn:

  • os yw oes eich cerdyn yn dod i ben - bydd cardiau ar gyfer ymwelwyr fel arfer yn ddilys am flwyddyn, a chardiau parcio ar gyfer preswylwyr yn ddilys am ddwy flynedd.
  • os byddwch yn newid eich cerbyd

Diddymu cerdyn parcio

Gellir diddymu neu gymryd cerdyn parcio yn ôl:

  • os gwelir nad yw cerdyn yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r canllawiau hyn
  • os canfyddir nad yw person yn gymwys i gael cerdyn bellach
  • os caiff y cerdyn ei newid neu ei hagru mewn unrhyw ffordd neu ei drosglwyddo i ddefnyddwyr heb awdurdod

Parcio mewn parth a reolir

Gellir disgrifio parth parcio fel cynllun rheoli parcio mewn stryd neu ardal lle trefnir y parcio er mwyn cynorthwyo preswylwyr i barcio eu cerbydau.

Golyga hyn mai mewn llefydd parcio dynodedig yn unig y caniateir parcio a bod gweddill y lle gwag ar ochr y palmant yn ddarostyngedig i gyfyngiadau'r llinell felen.

Nod parthau parcio a reolir yw annog pobl nad ydynt yn dod o'r ardal i beidio â pharcio yno am gyfnodau hir.

I gael gwybod mwy am barthau parcio a reolir yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU