Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Glanhau strydoedd

Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am sgubo strydoedd a chael gwared ar sbwriel. Yma fe gewch wybod sut mae sbwriel eich stryd yn cael ei glirio a sut i roi gwybod am unrhyw broblemau.

Y Cyngor - glanhau strydoedd

Eich cyngor lleol sy'n sgubo ffyrdd a llwybrau troed i helpu i gadw'r amgylchedd yn lân.

Os ydych chi'n teimlo bod angen glanhau eich stryd, cysylltwch â'r gwasanaethau glanhau neu wasanaeth yr amgylchedd neu'r adran gyfatebol yn eich cyngor lleol. Mae'r cyngor yn gyfrifol am lanhau tir cyhoeddus a ffyrdd 'A'. Cofiwch gofnodi enw ac amser eich galwad a holi pa gamau maen nhw'n bwriadu eu cymryd a phryd.

Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i glirio sbwriel a gwastraff oddi ar eu tir eu hunain ond nid am sbwriel y tu allan i'r tiroedd hynny.

Os oes sbwriel ar ddarn o dir preifat, y perchennog sy'n gyfrifol amdano. Mae Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn rhoi'r hawl i gynghorau ac i'r cyhoedd gymryd camau cyfreithiol i orfodi pobl eraill i glirio ardaloedd.

Os oes gennych chi bryderon am sbwriel neu os ydych chi am roi gwybod am broblem, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Gwastraff ar strydoedd a adewir ar ôl gan ddefnyddwyr cyffuriau

Gall gwastraff a adewir ar ôl gan ddefnyddwyr cyffuriau beri gofid a bod yn beryglus i iechyd y cyhoedd. Os ydych chi'n dod ar draws cyfarpar ar gyfer cymryd cyffuriau, rhaid i chi hysbysu'ch awdurdod lleol. Gallant drefnu i gael gwared ar nodwyddau, chwistrelli ac eitemau eraill sy'n ymwneud â chyffuriau.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Dodrefn stryd

Bydd eich awdurdod lleol yn darparu ac yn cynnal a chadw dodrefn stryd megis seddi, goleuadau addurn a raciau cadw beiciau. Mae'r eitemau hyn i'w gweld ledled eich ardal, ar strydoedd, ar balmentydd ac yng nghanol trefi a pharciau.

Os ydych chi'n poeni am gyflwr unrhyw ddodrefn stryd yn eich ardal, neu os ydych chi'n credu bod angen gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Cofiwch roi manylion am union leoliad a chyflwr yr eitem.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Anifeiliaid marw

Cyfrifoldeb eich cyngor fydd cael gwared ag unrhyw anifail y deuir o hyd iddo ar y ffordd fawr gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid gwyllt megis moch daear a llwynogod yn ogystal ag anifeiliaid anwes domestig megis cathod a chŵn. Ni fydd y cyngor yn symud anifail marw o eiddo preifat fel arfer. Fodd bynnag, mae'n bosib y gallant gynnig cyngor am sut y dylech symud y corff neu gallant godi tâl arnoch am gael gwared ag ef.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU