Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi cael eu dympio

Cynghorau lleol sy'n gyfrifol am symud cerbydau sydd wedi cael eu dympio, boed hynny ar dir preifat neu ar briffordd gyhoeddus. Fodd bynnag, fe allai'r drefn ar gyfer hyn amrywio o gyngor i gyngor. Gallwch hefyd weld sut mae gwaredu'ch cerbyd yn ddiogel ac yn gyfreithlon pan nad oes arnoch ei angen mwyach.

Yr hyn y gall eich cyngor lleol ei wneud

Rhoi gwybod am gerbyd sydd wedi cael ei ddympio

Os yw cerbyd wedi cael ei ddympio, rhowch wybod i'ch cyngor amdano

Mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch cyngor lleol am gerbydau sydd wedi cael eu dympio - fe allant fod yn beryglus neu efallai eu bod wedi cael eu defnyddio mewn trosedd. Nid yw bob amser yn hawdd dweud os yw cerbyd wedi cael ei adael. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd i mewn i'r cerbyd nac yn ei gyffwrdd. Os yw wedi cael ei ddefnyddio mewn trosedd, bydd angen i'r heddlu ymchwilio'r cerbyd. Fe allai hefyd gynnwys gwastraff peryglus ac fe allai beri risg o dân.

Gweld a yw'r cerbyd wedi cael ei ddympio

Gallwch edrych ar nifer o bethau i weld a yw cerbyd wedi cael ei ddympio cyn i chi gysylltu â'r cyngor lleol:

  • a oes gan y cerbyd deiar/s fflat neu a oes unrhyw un o'r olwynion ar goll
  • a oes sbwriel neu lawer o ddail dan y cerbyd - gallai hyn olygu nad yw wedi cael ei symud ers tro
  • a yw'r ffenestr flaen neu unrhyw un o'r ffenestri wedi torri
  • a oes platiau rhif ar y cerbyd
  • a yw'r cerbyd yn cynnwys eitemau gwastraff, fel teiars, hen bapurau newydd, neu sbwriel cyffredinol
  • a oes unrhyw rannau o'r cerbyd, megis y bympar, y seddi neu'r radio, wedi cael eu tynnu neu'u difrodi
  • a oes graffiti ar y cerbyd
  • a oes unrhyw weiars yn dod o'r dashfwrdd gan fod rhywun wedi cysylltu'r gwifrau tanio i danio'r car yn hytrach na'r allweddi

Dylech hefyd edrych a oes disg treth ar y cerbyd ac a yw'r dyddiad dod i ben wedi mynd heibio. Os yw'n bosib, dylech holi eich cymdogion neu fusnesau lleol a oes gan unrhyw un wybodaeth am bwy sy'n berchen ar y cerbyd.

Rhoi gwybod i'r cyngor am y cerbyd

Os ydych chi'n penderfynu bod y cerbyd wedi cael ei ddympio, dylech gysylltu â'r cyngor ar gyfer yr ardal lle mae'r cerbyd wedi'i adael. Bydd angen i chi ddarparu hynny o wybodaeth a allwch am y cerbyd.

Beth y gall y cyngor lleol ei wneud

Bydd y cyngor yn ymchwilio i weld a yw'r cerbyd wedi cael ei ddympio a bydd yn mynd ati i ganfod a yw wedi cael ei ddwyn neu wedi bod mewn damwain. Os yw'r cerbyd wedi cael ei adael ar ffordd, gan gynnwys ar ystadau a ffyrdd preifat, bydd y cyngor yn symud y cerbyd. Os yw'r cerbyd ar dir preifat, bydd y cyngor yn cyflwyno rhybudd symud 15 diwrnod i'r perchennog/deiliad.

Os nad oes gwerth i'r eiddo, gall y cyngor ei waredu ar unwaith. Os credir bod rhyw werth i'r cerbyd, bydd y cyngor yn anfon rhybudd dinistrio ysgrifenedig i'r perchennog. Os nad oes neb yn hawlio'r cerbyd gall y cyngor ei waredu.

Olrhain pwy yw perchennog cerbyd

Bydd y cyngor hefyd yn gweithio gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau i olrhain pwy yw perchennog y cerbyd ac i ddirwyo pobl sydd wedi dympio cerbyd. Mae rhai cynghorau wedi cael yr awdurdod i waredu cerbydau nad ydynt wedi'u trethu.


Mae gan yr heddlu'r grym i symud ar unwaith unrhyw gerbyd sy'n cael ei adael yn groes i orchmynion rheoli traffig lleol. Gallant hefyd symud cerbyd sy'n achosi rhwystr neu sy'n debygol o achosi perygl. Mae cynghorau Llundain yn meddu ar y grym hwn hefyd.

Gwaredu eich car neu gerbyd arall

Mae'n anghyfreithlon dympio cerbyd yn y stryd. Os ydych chi am waredu cerbyd, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Mae gan nifer o gynghorau lleol gynlluniau lle byddant yn mynd â'ch cerbyd am ffi. Gall y cyngor hefyd roi gwybodaeth i chi ynghylch sut mae gwaredu eich cerbyd yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd, rhaid i wneuthurwyr cerbydau ddarparu cyfleusterau ailgylchu yn rhad ac am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch cyfleuster ailgylchu agosaf sy'n ailgylchu eich math chi o gerbyd drwy chwilio ar-lein.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU