Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am gasglu a chael gwared ar wastraff yn eich ardal. Yma, cewch wybod pryd y cesglir eich biniau, sut i roi gwybod os na chaiff eich biniau eu casglu, beth y gellir ei ailgylchu a sut i gael gwared ar eitemau swmpus.
Fel arfer, caiff gwastraff o'ch cartref ei gasglu bob wythnos. Caiff gwastraff ar gyfer ei ailgylchu a gweddill y gwastraff ei gasglu ar wahân yn aml ac ar wahanol gyfnodau. Cysylltwch â'ch cyngor lleol os na chesglir sbwriel o'ch bin.
Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Mae'n ofynnol i gynghorau weithredu safleoedd gwaredu gwastraff cartrefi, lle gallwch gael gwared ar eich gwastraff cartref am ddim. Os byddwch yn mynd â'ch gwastraff i un o'r safleoedd hyn efallai y bydd angen prawf arnoch eich bod yn byw yn yr ardal cyn y gallwch gael gwared ar eich gwastraff. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod beth yw eu gofynion.
Nid yw rhai cynghorau'n darparu biniau sbwriel domestig i gartrefi. Gallwch gysylltu ag adran casglu gwastraff eich cyngor i weld a allwch chi drefnu i gael bin sbwriel. Os aiff eich bin ar goll neu os caiff ei ddwyn, dylech gysylltu â'ch cyngor yn syth. Bydd y cyngor yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi sicrhau na chaiff eich bin mo'i ddwyn.
Gellir ailgylchu bron i ddwy ran o dair o sbwriel cartref. Mae llawer o gynghorau lleol bellach yn casglu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu. Bydd rhai cynghorau'n darparu biniau ar wahân ar gyfer casglu gwastraff i'w ailgylchu. Cysylltwch â'ch cyngor lleol os hoffech wneud cais am fin ailgylchu.
Am ffi fechan, mae'n bosib trefnu casglu eitemau mwy megis dodrefn, oergelloedd a pheiriannau golchi o'ch cartref. Cysylltwch â'ch cyngor i gael rhestr o eitemau y gellir eu casglu ac i gael manylion am ffioedd. Os oes gennych lawer o eitemau mwy gallwch fynd â nhw i'ch safle mwynder dinesig lleol eich hun. Cysylltwch â gwasanaethau amgylcheddol neu adran rheoli gwastraff eich cyngor i gael gwybodaeth am y trefniadau yn eich ardal chi.