Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Glanhau graffiti a chael gwared ar bosteri anghyfreithlon

Mae paentio graffiti a gosod posteri heb ganiatâd yn anghyfreithlon, yn difetha eiddo cyhoeddus a phreifat a gall eu clirio fod yn gostus iawn. Os ydych yn gosod posteri neu sticeri hysbysebu heb ganiatâd rydych yn torri'r gyfraith. Gallwch roi gwybod i'ch cyngor am graffiti neu bosteri anghyfreithlon.

Dirwyon am graffiti a phosteri anghyfreithlon

Gellir disgrifio graffiti fel geiriau neu luniau sy'n cael eu hysgrifennu, eu paentio, eu chwistrellu neu'u crafu ar arwyneb unrhyw eiddo.

Mae posteri anghyfreithlon fel arfer yn hysbysebu neu'n hyrwyddo digwyddiadau ac fe gânt eu gosod heb ganiatâd perchennog yr eiddo. Gallant fod yn sticeri, yn arwyddion neu'n bosteri. Mae cynghorau'n rhoi pwys mawr ar fynd i'r afael â'r sawl sy'n gosod posteri heb ganiatâd - os ydych chi'n rhoi gwybod am bosteri a osodwyd heb ganiatâd, bydd eich cyngor yn gwneud ymholiadau i ganfod ffynhonnell yr hysbysebion ac yn cymryd camau os yw hynny'n bosib.

Mae paentio graffiti a gosod posteri heb ganiatâd yn droseddau ac fe allech gael eich dirywio'n drwm gan lys ynadon neu gael hysbysiad cosb benodedig hyd at £80 gan yr awdurdod lleol neu'r heddlu. Os gwelwch chi rywun yn paentio graffiti neu'n gosod posteri heb ganiatâd, dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol neu i'r heddlu.

Cyfrifoldeb dros lanhau graffiti a chael gwared ar bosteri anghyfreithlon

Eich cyngor lleol sydd fel arfer yn gyfrifol am lanhau graffiti a chael gwared ar bosteri anghyfreithlon oddi ar adeiladau cyhoeddus, dodrefn stryd neu gofebion.

Ysgwyddir cyfrifoldeb dros eitemau eraill megis blychau ffôn, llochesi bws a blychau trydan gan y cwmni sydd wedi'u gosod.

Serch hynny, mae gan yr awdurdod lleol bŵer i gyflwyno 'rhybudd i gael gwared ar anharddwch' i berchennog yr eiddo, sy'n golygu bod rhaid iddynt lanhau'r graffiti neu gael gwared ar bosteri anghyfreithlon cyn pen 28 diwrnod. Os nad ydynt yn gwneud hyn, gall yr awdurdod lleol wneud y gwaith ei hun a hawlio'r costau yn ôl.

Ni all eich cyngor lleol lanhau graffiti na chael gwared ar bosteri anghyfreithlon o dai preifat nac eiddo preifat arall heb ganiatâd y perchennog. Serch hynny, mae llawer ohonynt yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim neu am bris gostyngol er mwyn helpu i wneud y gwaith.

Rhoi gwybod i'ch cyngor am broblemau

Os yw graffiti neu bosteri anghyfreithlon yn effeithio arnoch chi neu eich bod yn gallu eu gweld ar eiddo gerllaw, gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol a gallant eich cynghori am y camau i'w cymryd i gael gwared ag ef.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a rhoi gwybod am broblemau graffiti neu bosteri anghyfreithlon.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU