Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gwared ar eitemau swmpus

Os oes raid i chi gael gwared ar hen oergell neu rewgell, dylid gwneud hyn yn ddiogel er mwyn atal damweiniau neu niwed i'r amgylchedd. Mae cymorth a chyngor ynghylch sut mae gwneud hyn, yn ogystal â chyngor am gael gwared ar eitemau eraill ar gael i berchnogion tai.

Gyda phwy y dylech gysylltu

Os ydych yn ddeiliad tŷ, mae'n rhaid i'ch awdurdod casglu gwastraff (cyngor unedol, bwrdeistrefol neu ddosbarth) ddarparu gwasanaeth casglu ar gyfer eitemau swmpus. Fodd bynnag, gallant godi tâl am y gwasanaeth hwn. Ar y llaw arall, gallwch fynd â'r eitemau i'ch safle amwynder sifil lleol i'w gwaredu a hynny'n ddi-dâl, a byddant yn sicrhau y ceir gwared â'r eitemau'n ddiogel. Helpwch eich awdurdod lleol drwy sicrhau bod yr eitem yn wag ac wedi'i glanhau cyn ei anfon i'r safleoedd gwaredu.

Os bydd masnachwyr lleol yn cynnig casglu a chael gwared ar eich eitemau swmpus, gallwch helpu'r amgylchedd trwy holi a ydynt yn bwriadu cael gwared arnynt yn unol â'r gyfraith. Os ydych yn dal yn ansicr, cysylltwch â swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd (08459 333111) neu â'ch cyngor.

Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd rhai masnachwyr neu elusennau lleol yn derbyn offer os ydynt yn gweithio'n iawn - eto, chwiliwch yn eich llyfr ffôn lleol i gael manylion neu chwiliwch am eich elusen leol ar wefan y Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn.

Cofiwch fod tipio sbwriel yn slei bach yn anghyfreithlon. Mae oergelloedd a rhewgelloedd sy'n cael eu dympio'n gallu bod yn beryglus iawn i blant bach neu anifeiliaid anwes a all gael eu brifo neu gael eu cau ynddynt.

Mae gwefan 'Junkk.com' yn ffordd wych o gael gwared ar eitemau nad oes eu hangen arnoch mwyach, ond a allai fod yr union beth y mae rhywun arall yn chwilio amdanynt.

Casgliadau ar gyfer eitemau swmpus

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU