Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n tipio gwastraff mewn man anghyfreithlon gallech wynebu dirwyon mawr iawn ac fe allai hyd yn oed arwain at garchar. Os gwelwch chi rywun yn tipio'n anghyfreithlon, rhowch wybod i'ch cyngor.
Ystyr tipio gwastraff yn anghyfreithlon yw gwaredu sbwriel neu eitemau mawr ar dir lle nad oes trwydded. Mae tipio anghyfreithlon yn gallu bod yn beryglus, mae'n llygru tir a dyfrffyrdd ac yn costio symiau sylweddol o arian i'w glirio - a threthdalwyr sy'n talu.
Mae dympio gwastraff domestig, diwydiannol a masnachol yn anghyfreithlon yn drosedd difrifol a all olygu dirwy o hyd at £20,000 (heb gyfyngiad os eir â'r achos i Lys y Goron) neu fe ellir hyd yn oed anfon troseddwr i'r carchar. Mae hefyd yn drosedd i ganiatáu tipio gwastraff yn anghyfreithlon. Mae'r cynghorau lleol yn ystyried bod y broblem hon yn ddifrifol iawn a byddan nhw fel arfer yn erlyn unrhyw un a gaiff ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon.
Bydd tipio anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â dympio gwastraff o gerbydau; yn y cyswllt hwn, gall y sawl sydd biau'r cerbyd hefyd gael ei erlyn, sy'n golygu bod modd i erlyniad ddigwydd pan nad oes ond modd adnabod y cerbyd, hynny yw heb allu adnabod y gyrrwr. Hefyd, mae gan yr heddlu'r grym i gymryd cerbydau a ddefnyddir ar gyfer tipio anghyfreithlon.
Mae eich cyngor lleol yn darparu safleoedd gwaredu gwastraff a chanolfannau ailgylchu lle gallwch waredu unrhyw nwyddau diangen yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
Cysylltwch â’ch cyngor yn uniongyrchol i roi gwybod am broblem dipio anghyfreithlon
Rhoi gwybod i'ch cyngor am dipio anghyfreithlon
Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol os ydych chi'n gweld rhywun yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon neu hysbysu'ch cyngor lleol os ydych yn dod ar draws gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon gan roi cymaint o fanylion ag sy'n bosib. Bydd y ddolen isod yn eich caniatáu i roi eich manylion ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.