Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Baw ci

Mae baw ci yn niwsans ac mae'n gysylltiedig â sawl clefyd yn cynnwys 'toxocara canis'. Dylai perchnogion cŵn godi baw eu cŵn wedi iddynt faeddu mewn mannau cyhoeddus - gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol am faw ci nad yw'n cael ei glirio.

Cwyno am faw ci

Rhoi gwybod am broblem faw ci

Cysylltwch â’ch cyngor yn uniongyrchol i roi gwybod am broblem faw ci

Gall cynghorau orchymyn perchnogion i glirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus megis:

  • parciau
  • tiroedd hamdden
  • meysydd chwarae i blant
  • meysydd chwaraeon
  • traethau ymwelwyr a phromenadau
  • safleoedd picnic
  • ardaloedd i gerddwyr
  • palmentydd
  • ochr ffyrdd
  • llwybrau troed
  • gwteri a lonydd cerbydau

Mae dyletswydd gyfreithiol ar eich cyngor i gadw'r ardaloedd hyn yn lân rhag baw ci. Os gwelwch gŵn yn baeddu yn yr ardaloedd hyn, rhowch wybod i'ch cyngor lleol. Holwch am drefn y cyngor a chadarnhewch eich cwyn mewn llythyr neu drwy lenwi ffurflen ar-lein. Os oes modd, rhowch fanylion megis enw a chyfeiriad y troseddwr, neu os nad ydych yn eu gwybod, disgrifiad o'r perchennog a'r ci.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cosbau

Gall pobl nad ydynt yn codi baw eu cŵn wedi iddynt faeddu gael dirwy o £50 yn y fan a'r lle. Os byddan nhw'n gwrthod talu'r ddirwy, gallan nhw gael eu herlyn ac mae'n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw ymddangos gerbron llys gyda dirwy o hyd at £1,000. Mae pobl ddall sy'n berchen ar gŵn wedi'u heithrio.

Toxocara canis

Llyngyren a geir mewn cŵn yw Toxocara canis. Ceir wyau'r llyngyr mewn baw ci a gall plant ifanc ddod i gysylltiad â nhw'n rhwydd. Mae hyn yn achosi anhwylderau ar y stumog, dolur gwddw, asthma a, mewn achosion prin, dallineb. Gall yr wyau aros yn fyw yn y pridd am sawl blwyddyn, ymhell ar ôl i'r baw ci ddiflannu.

Cyngor i berchnogion cŵn

Os bydd eich ci'n baeddu mewn man cyhoeddus, rhaid i chi godi'r baw dan Ddeddf Cŵn1996. Dylech gario rhaw faw bob tro, sef rhaw blastig arbennig, neu fag i gludo'r baw i fin ci. Os nad oes bin ci arbennig ar gael, ewch â'r baw adref a'i waredu yno.

Ni ddylai perchnogion cŵn adael i'w hanifeiliaid faeddu yn rhywle rhywle mewn ardaloedd cyhoeddus. Mae'n helpu i hyfforddi cŵn pan fônt yn fach i faeddu mewn mannau priodol. Os oes modd, dylech annog eich ci i ddefnyddio'ch gardd - gallwch wedyn naill ai gladdu'r baw neu ei roi i lawr y toiled. Peidiwch byth â rhoi baw ci mewn bagiau gwastraff gardd gwyrdd neu finiau sbwriel.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU