Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â niwsans sŵn

Os ydych yn cael anghydfod gyda'ch cymdogion yn ymwneud â sŵn, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol. Mynnwch gyngor ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am yr atebion ymarferol a chyfreithiol sydd ar gael i'ch helpu i ddatrys y broblem.

Problemau gyda sŵn yn y gymdogaeth

Os ydych yn cael problem gyda sŵn yn eich cymdogaeth, gall eich cyngor eich helpu. Mae mathau cyffredin o niwsans sŵn yn cynnwys:

  • cerddoriaeth uchel
  • tafarndai, clybiau neu bartïon uchel
  • cŵn sy'n cyfarth, yn nadu neu'n udo'n ddi-baid

Yn achos y rhan fwyaf o fathau o sŵn, yr un yw'r broses o ddatrys y broblem.

Siarad â'r sawl sy'n gyfrifol am y sŵn

Cyn cofrestru cwyn ffurfiol, mae'n syniad da ceisio siarad â phwy bynnag sy'n gyfrifol am y sŵn.

Os yw hyn yn codi ofn arnoch neu os hoffech ychydig o gefnogaeth, mae amrywiaeth o wasanaethau cyfryngu cymunedol ar gael. I gael cyngor ar gael gafael ar y gwasanaethau hyn, gweler 'Datrys anghydfod gyda chymydog: cyflwyniad’.

Rhoi gwybod am y niwsans sŵn i'ch cyngor

Mae dyletswydd ar eich cyngor i gymryd camau rhesymol i ymchwilio i gwynion yn ymwneud â sŵn

Os na allwch ddatrys y broblem, cysylltwch â'ch cyngor lleol. Fel arfer, adran iechyd yr amgylchedd fydd yn delio â materion yn ymwneud â sŵn a bydd yn rhoi cyngor ymarferol i chi.

Mae pob cyngor yn ymdrin â chwynion yn wahanol a dylai fod yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am ei weithdrefn gwyno.

Mae'n bwysig gwybod y ffeithiau. Cofnodwch o ble y mae'r sŵn yn dod, yr amser y mae'n digwydd a'r rhesymau drosto. Bydd rhai cynghorau lleol yn rhoi taflen cofnodi sŵn i chi nodi'r problemau.

Bydd y ddolen 'Rhoi gwybod am niwsans sŵn' yn mynd â chi i wefan eich awdurdod lleol lle cewch fwy o wybodaeth.

Sut mae eich cyngor yn delio â phroblemau parhaus yn ymwneud â sŵn

Y gosb fwyaf am beidio â chydymffurfio â gorchymyn atal yw £5,000 ar gyfer safle domestig

Caiff niwsans sŵn ei asesu ar sail y canlynol:

  • p'un a yw'r sŵn yn 'rhesymol', o ystyried yr ardal
  • pa mor aml y mae'r sŵn yn digwydd
  • faint o bobl y mae'r sŵn yn effeithio arnynt

Gwneir penderfyniadau fesul achos yn seiliedig ar sensitifrwydd person cyffredin.

Hysbysiadau atal

Os bydd eich cyngor yn penderfynu bod y sŵn yn niwsans statudol, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arno i roi hysbysiad atal. Mae hysbysiad atal yn nodi'r hyn sy'n ofynnol gan y sawl sy'n achosi'r niwsans. Er enghraifft, os mai cerddoriaeth uchel yw'r broblem, efallai y gofynnir iddo roi'r gorau i wneud y sŵn neu chwarae'r gerddoriaeth ar adegau penodol yn unig.

Gellir gohirio hysbysiad atal mewn perthynas â sŵn am saith diwrnod i roi amser i'r cyngor berswadio'r sawl sy'n achosi'r niwsans i roi'r gorau i wneud y sŵn. Os na fydd hynny'n llwyddo, rhaid cyflwyno hysbysiad atal ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd angen i'r cyngor brofi niwsans statudol os bydd gan safle drwydded adloniant cyhoeddus. Gall y cyngor gymryd camau yn erbyn safle sy'n gweithredu y tu allan i'w gytundeb trwyddedu.

I gael gwybod beth yw'r diffiniad o 'niwsans statudol' - a chamau eraill y gallwch eu cymryd os mai niwsans statudol ydyw - gweler 'Datrys anghydfod gyda chymydog: cyflwyniad’.

Cosbau am beidio â chydymffurfio â hysbysiad atal

Y gosb fwyaf posibl am beidio â chydymffurfio â gorchymyn atal yw £5,000 ar gyfer safleoedd domestig ac £20,000 ar gyfer safleoedd diwydiannol, masnach neu fusnes. Mewn achosion eithriadol, gellir erlyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol, os oes gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth.

Os na fyddwch yn fodlon ar ymateb eich cyngor

Os na fyddwch yn teimlo bod eich cyngor wedi ymchwilio'n briodol i'ch cwyn yn ymwneud â sŵn, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Dilynwch y ddolen 'Gwneud cwyn yn erbyn cyngor neu awdurdod lleol' am fwy o wybodaeth.

Os bydd rhywun yn gwneud cwyn yn eich erbyn chi

Os bydd rhywun yn gwneud cwyn yn eich erbyn chi, nid yw'n dilyn o reidrwydd y dyfernir eich bod yn achosi niwsans. Bydd cynghorau'n llunio barn ddiduedd a phroffesiynol ar b'un a ellir ystyried bod y sŵn yn rhesymol o dan yr amgylchiadau. Rhaid ymchwilio i gwynion cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad.

Sŵn masnachol a sŵn traffig

Caiff llygredd sŵn o safleoedd masnach a busnes (er enghraifft, peiriannau, tafarndai a chlybiau swnllyd) ei drin mewn modd tebyg i sŵn o safleoedd domestig.

Os ydych yn cael problemau gyda sŵn traffig ar y ffordd neu reilffyrdd, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant insiwleiddio rhag sŵn gan eich cyngor lleol. Gallwch gael mwy o wybodaeth yn yr adran 'Llygredd sŵn trafnidiaeth'.

Sŵn o safleoedd diwydiannol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio sŵn (yn ogystal ag arogleuon, mwg, golau a phryfed) o ffatrïoedd a safleoedd gwastraff mawr. Rhaid i'r safleoedd hyn gydymffurfio ag amodau sŵn penodol a llunio cynllun rheoli sŵn.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw cofnod o unrhyw gynlluniau monitro a rheoli sŵn a gyflwynir gan weithredwyr.

Mae awdurdodau lleol yn rheoleiddio llygredd o bob math arall o ffatri. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â'ch cyngor lleol.

Mapiau sŵn

Ar wefan Noise Mapping England, ceir mapiau rhyngweithiol ar gyfer dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr. Gallwch chwilio yn ôl cod post a gweld meysydd awyr. Gallwch hefyd lawrlwytho mapiau ar gyfer y prif gysylltiadau trafnidiaeth rhwng dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU