Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llygredd sŵn trafnidiaeth

Gall sŵn gormodol o awyrennau, traffig ffordd a rheilffyrdd effeithio ar ansawdd bywyd. Mynnwch wybod am reoliadau i reoli llygredd sŵn, beth y gallwch ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â sŵn a sut i ddod o hyd i fap sŵn.

Cerbydau ffordd

Saith deg pedwar desibel (dB(A)) yw'r lefelau sŵn ar gyfer ceir a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf o geir yn cynhyrchu lefelau is.

Caniateir i gerbydau oddi ar y ffordd a cherbydau diesel chwistrellu uniongyrchol fod 1 dB(A) yn uwch. Gellir cyfuno'r lwfansau hyn, fel bod y terfyn ar gyfer cerbyd oddi ar y ffordd sydd â motor diesel chwistrellu uniongyrchol yn 76 dB(A).

Mae'n anghyfreithlon addasu'r system wacáu i wneud cerbyd yn fwy swnllyd ar ôl iddo gael ei 'gymeradwyo yn ôl math' (cadarnhau ei fod yn cyrraedd safonau amgylcheddol a safonau diogelwch). Gall yr heddlu hefyd gymryd camau os nad yw distewydd eich cerbyd yn gweithio neu os byddwch yn gyrru mewn ffordd sy'n creu gormod o sŵn.

Sŵn traffig ffordd

Nid oes terfynau cyfreithiol penodol ar gyfer sŵn ffordd. Fodd bynnag, efallai y caiff lefelau sŵn eu hystyried wrth gynllunio i adeiladu:

  • ffyrdd newydd
  • tai a swyddfeydd ger ffyrdd

Gall rhwystrau sŵn neu inswleiddio rhag sŵn, fel ffenestri gwydr dwbl, leihau'r broblem. Os bydd y sŵn o ffyrdd newydd yn fwy na therfynau penodol mewn tai sy'n bodoli eisoes, efallai y gallech gael grant inswleiddio rhag sŵn fel deiliad cartref. Mae'r rhain ar gael drwy eich awdurdod priffyrdd lleol - gallwch gael ei fanylion gan eich cyngor lleol.

Yn Lloegr, mae'r Asiantaeth Briffyrdd yn rhoi arwyneb newydd ar ffyrdd sy'n bodoli eisoes gan ddefnyddio deunyddiau sŵn isel. Mae hefyd yn gweithio i leihau sŵn mewn lleoedd sydd â'r problemau mwyaf difrifol - er enghraifft, drwy fesurau i leihau effeithiau sŵn mewn eido cyfagos. I weld pa ardaloedd sydd wedi'u dewis fel y rhai lle y mae mewn angen dybryd i leihau sŵn, gweler 'Atebion i gwestiynau seneddol' o dan 'Cynlluniau ffyrdd'.

Cynlluniau ffyrdd newydd arfaethedig

Caiff cynlluniau ffyrdd newydd eu cyhoeddi ar y cam cynllunio. Os byddwch yn poeni am gynllun ffordd, cysylltwch â'ch awdurdod priffyrdd - gallwch gael ei fanylion cyswllt gan eich cyngor lleol.

Ar gyfer Cymru a Lloegr, mae ystod o lyfrynnau yn egluro'r Cod Iawndal Tir.

Mae Llyfryn 1 yn egluro'r broses gyffredinol - darllenwch hwn yn gyntaf.

Mae Llyfryn 5 yn egluro'r gwaith lleihau sŵn y gallech fod ag hawl iddo.

Mae awdurdodau priffyrdd yn asesu sŵn wrth gynllunio cynllun ffordd newydd i weld a fydd yn fwy swnllyd yn eich eiddo unwaith y bydd y ffordd newydd ar agor.

Os yw eich eiddo o fewn 300 metr i ffordd newydd, efallai y cynigir pecyn inswleiddio rhag sŵn i chi. Gall hyn gynnwys:

  • ffenestri gwydr dwbl
  • system awyru
  • llenni Fenis

Ceir mwy o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i apelio, yn llyfryn 5.

Gallwch hefyd hawlio iawndal os yw ffordd newydd wedi effeithio ar eich tŷ.

Sŵn rheilffyrdd

Efallai y bydd lefelau sŵn uchel yn effeithio ar bobl sy'n byw'n agos at reilffyrdd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reolaethau cyfreithiol oni fydd y sŵn yn cael ei achosi gan reilffordd newydd sy'n effeithio ar eich eiddo. Yn yr achos hwn, efallai y gallech gael grant inswleiddio rhag sŵn.

Os bydd trenau penodol yn achosi problem i chi, siaradwch â'r cwmni sy'n gyfrifol am y trenau hynny. Gallwch gael gwybodaeth am weithredwyr trenau ar wefan National Rail neu drwy ffonio llinell gymorth 24 awr Network Rail ar 08457 114 141.

Sŵn awyrennau

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn rheoleiddio sŵn yn y meysydd awyr hyn yn y DU:

  • Birmingham
  • Caeredin
  • Gatwick, Llundain
  • Glasgow
  • Heathrow, Llundain
  • Luton, Llundain
  • Manceinion
  • Stansted, Llundain

Ceir cyfyngiadau mwy llym ym meysydd awyr Dinas Llundain a Dinas Belfast, gan eu bod yn agos at ddinasoedd mawr.

Mae terfynau sŵn hefyd yn amrywio yn dibynnu a ydynt ar gyfer teithiau yn ystod y dydd neu gyda'r nos.

Er mwyn lleihau sŵn, mae'r canlynol yn wir am draffig awyr:

  • dylai hedfan uwchben yr ardaloedd sydd â'r boblogaeth leiaf wrth gychwyn hedfan pan fo'n ymarferol
  • mae cyfyngiadau arno o ran hedfan gyda'r nos (e.e. gwaharddiad rhannol ar hedfan gyda'r nos neu gael gwared â'r awyrennau mwyaf swnllyd yn gyfan gwbl)
  • mae'n cynnig cynlluniau grantiau i osod inswleiddio rhag sŵn mewn cartrefi yr effeithir arnynt (cysylltwch â'r maes awyr sy'n effeithio arnoch - mae gan wefan y BAA fanylion cyswllt meysydd awyr)

Mae gan wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil wybodaeth a chyngor, gan gynnwys taflen ffeithiau ar sŵn awyrennau.

Sut i gwyno am sŵn awyrennau

Os hoffech gwyno am sŵn ac awyrennau sy'n hedfan yn isel, dylech:

  • gysylltu â'r maes awyr dan sylw - ceir manylion meysydd awyr ar wefan y BAA
  • rhoi gwybod i'r Awdurdod Hedfan Sifil

Awyrennau milwrol

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i awyrennau milwrol. Gallwch gwyno am sŵn gormodol awyrennau milwrol neu'r ffaith eu bod yn hedfan yn isel drwy wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mapiau sŵn

Ar wefan Noise Mapping England, ceir mapiau sŵn rhyngweithiol ar gyfer dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr. Gallwch chwilio yn ôl cod post a gweld meysydd awyr. Gallwch hefyd lawrlwytho mapiau sŵn ar gyfer y prif gysylltiadau trafnidiaeth rhwng dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU