Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostegu traffig

Defnyddir dyfeisiau gostegu traffig er mwyn gwella diogelwch ar ffyrdd a gwella'r amgylchedd lleol. Maent yn gweithio drwy reoli cyflymder i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol.

Y dyfeisiadau y gellir eu defnyddio ar ffyrdd

Mae'r mesurau'n cynnwys:

  • twmpathau ffordd
  • ponciau arafu
  • rhwystrau ymwthiol
  • rhwystrau igam-ogam
  • stribedi rymblo
  • ynysoedd traffig

Pwy sy'n penderfynu a oes angen gostegu traffig?

Yr awdurdodau ffyrdd neu briffyrdd fydd yn penderfynu a oes angen gostegu traffig ar ffordd ac, os felly, pa fesurau fyddai'r mwyaf addas. Bydd natur problem benodol sy'n ymwneud â thraffig yn pennu lleoliad, math a maint y mesurau gostegu traffig. Bydd y rhain yn cael eu dewis fel arfer ar ôl trafod gyda swyddogion ym maes diogelwch ar y ffordd, preswylwyr lleol a'r gwasanaethau brys.

Sut alla i ofyn am fesurau gostegu traffig yn fy ardal i?

Mae angen i chi gysylltu â'ch awdurdod priffyrdd neu ffyrdd lleol. Dylai eich cyngor lleol allu eich rhoi chi mewn cysylltiad â hwy. Dylech egluro pam mae angen gostegu traffig ac efallai y bydd yr awdurdod wedyn yn cynnal astudiaeth annibynnol i asesu'r broblem.

Pwy sy'n gosod nodweddion gostegu traffig?

Yn Lloegr

Yr Asiantaeth Priffyrdd sy'n gyfrifol am osod mesurau gostegu traffig ar (brif) gefnffyrdd.

Mae gan awdurdodau priffyrdd lleol y pwerau i adeiladu nodweddion gostegu traffig ar ffyrdd lleol.

Yn yr Alban

Llywodraeth yr Alban sy'n gyfrifol am osod mesurau gostegu traffig ar (brif) gefnffyrdd.

Mae gan awdurdodau ffyrdd lleol y pwerau i adeiladu nodweddion gostegu traffig ar ffyrdd lleol.

Yng Nghymru

Yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am osod mesurau gostegu traffig ar (brif) gefnffyrdd.

Mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn gyfrifol am ostegu traffig yn lleol.

Yng Ngogledd Iwerddon

Gwasanaeth Ffyrdd Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am ostegu traffig. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar eu taflen ar ostegu traffig.

Pa mor effeithiol yw gostegu traffig?

Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn cyhoeddi canlyniadau ymchwil i ostegu traffig yn ei Daflenni Cyngor am Draffig.

Sut mae cwyno am nodwedd gostegu traffig?

Dylech gysylltu â'ch awdurdod ffyrdd neu briffyrdd lleol. Dylai eich cyngor lleol allu rhoi eu manylion cyswllt i chi.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU