Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tâl atal tagfeydd

Un ffordd o leihau tagfeydd traffig yw codi tâl ar yrwyr am ddefnyddio ffyrdd. Mae gan Llundain ganolog a Durham gynlluniau o'r fath ar waith yn barod, ac mae trefi a dinasoedd eraill yn ystyried eu cyflwyno.

Tâl Atal Tagfeydd Llundain ganolog

Sut mae Tâl Atal Tagfeydd Llundain ganolog yn gweithio

Mae Tâl Atal Tagfeydd Llundain ganolog yn cael ei redeg gan Transport for London (TfL). Fe'i gweithredir o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.00 am a 6.00 pm, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.

Dyma’r gost ddyddiol:

  • £10 os byddwch yn talu cyn hanner nos ar y diwrnod yr ydych yn bwriadu teithio
  • £12 os byddwch yn talu cyn hanner nos ar y diwrnod talu canlynol – drwy ddefnyddio’r ganolfan alw neu’r wefan yn unig
  • 9 os ydych wedi cofrestru ar gyfer y system talu wedi’i hawtomeiddio Congestion Charging Auto Pay

Y parth lle codir tâl

Mae'r parth y mae'n rhaid talu i deithio ynddo yn cynnwys canol Llundain. Ni chodir tâl arnoch bellach am yrru yn yr ‘estyniad deheuol’.

Mae'r parthau lle gweithredir y tâl atal tagfeydd wedi eu nodi'n glir, ac mae arwyddion i'w gweld ar yr holl ffyrdd sy'n arwain at y parthau hynny a'r ffyrdd sy'n mynd oddi wrthynt. Ar wefan TfL gellir gweld manylion ardaloedd y tâl atal tagfeydd a'r amseroedd pan fydd y tâl yn weithredol.

Taliadau cosb

Y gosb am beidio â thalu Tâl Atal Tagfeydd Llundain yw £120, ond bydd hyn yn cael ei ostwng i £60 os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod. Os na fyddwch yn talu'r gosb ariannol o fewn 28 diwrnod bydd yn codi i £180.

Arian i ffwrdd ac eithriadau

Nid oes rhaid i bob gyrrwr dalu Tâl Atal Tagfeydd Llundain. Caiff rhai pobl a rhai mathau o gerbydau eu heithrio rhag gorfod talu, neu gallant gael disgownt. Gallech fod yn gymwys i gael disgownt:

  • os oes gennych Fathodyn Glas
  • os ydych chi'n byw o fewn parth y tâl atal tagfeydd
  • os ydych chi'n gyrru cerbyd sy'n defnyddio tanwydd amgen neu sy'n cael ei yrru gan drydan
  • os ydych chi'n gyrru cerbyd gyda naw neu fwy o seddi
  • os ydych chi'n gyrru cerbyd cludo i'r garej
  • os ydych chi'n cynrychioli sefydliad achrededig ar gyfer cerbydau sydd wedi torri i lawr

Ni fyddwch yn cael disgownt ac yn cael eich eithrio'n awtomatig. Mae angen i chi gofrestru â TfL i'w cael.

Gwneud cais am ad-daliad

Os byddwch chi’n talu Tâl Atal Tagfeydd Llundain am flwyddyn ymlaen llaw, ac yna'n gwerthu'ch cerbyd, gallwch hawlio ad-daliad ar gyfer y dyddiau na wnaethoch eu defnyddio.

Cynllun codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yn Durham

Yn 2001, cyflwynodd Durham gynllun codi tâl am ddefnyddio ffyrdd er mwyn rheoli traffig ar strydoedd gorynys Durham.

Gweithredir y tâl o £2 rhwng 10.00 am a 4.00 pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Rhaid i yrwyr dalu'r tâl yn y peiriant talu cyn gadael yr ardal. Mae'r peiriant talu hefyd yn derbyn trwyddedau eithrio ar gyfer preswylwyr, trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau argyfwng.

Gall gyrwyr anabl archebu trwydded ymlaen llaw drwy gysylltu â Siop barcio'r NCP ar 0191 384 6633, gyhyd â'u bod wedi trefnu man parcio ymlaen llaw.

Y gosb am beidio â thalu'r tâl yw £30.

Gellir cael manylion pellach ar wefan Cyngor Sir Durham.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU