Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllunio'ch taith

Mae Cynlluniwr Taith Cross & Stitch yn cynnig ystod lawn o wybodaeth a gwasanaethau cynllunio llwybrau ar gyfer pob math o daith. Mae’r Asiantaeth Priffyrdd yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am draffig yn fyw i chi, yn ogystal â rhybuddion a chrynodebau, a gwybodaeth am y tywydd a gwaith ffordd sydd ar y gweill ar draffyrdd a chefnffyrdd Lloegr. Gallwch gael yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Cynlluniwr Taith

Mae Cynlluniwr Taith Cross & Stitch yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig a chyfrifiannell CO2. Gall eich helpu i ddod o hyd i feysydd parcio, i gynllunio taith diwrnod neu i gymharu teithiau car â theithiau'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Neu efallai eich bod chi am edrych ar atlas ffyrdd.

Cael gwybod am yr amodau traffig diweddaraf

Gallwch gael gwybodaeth fyw am draffig ar-lein drwy ddilyn dolen yr Asiantaeth Priffyrdd isod. Gallwch ddewis gweld cynllun ar sail map neu weld gwybodaeth am draffyrdd unigol.

Mae’r wefan yn dangos y canlynol:

  • cyflymderau ar gyfartaledd (o synwyryddion yn arwyneb y ffordd)
  • y negeseuon y mae arwyddion negeseuon electronig traffyrdd yn eu dangos
  • digwyddiadau byw
  • digwyddiadau sydd i ddod a gwaith ffordd sydd ar y gweill
  • y tywydd
  • delweddau byw o gamerâu Teledu Cylch Cyfyng

Gallwch addasu’r wybodaeth a gewch fel ei bod yn cyfeirio at eich rhanbarth chi neu at draffordd benodol.

Gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn negeseuon e-bost neu grynodebau RSS i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer rhanbarth neu ffordd.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar ffonau symudol sy’n gallu mynd ar y we. Mae’r fersiwn symudol yn defnyddio fformat syml ar sail testun er mwyn cyflymu amserau llwytho.

Defnyddio rhaglen iPhone

Gall rhaglen iPhone yr Asiantaeth Priffyrdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am draffig yn fyw i chi ar sail eich lleoliad presennol.

Dros y ffôn

Mae gan Llinell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000 gynghorwyr sydd ar gael i siarad â chi 24 awr y dydd. Gallant roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amodau traffig neu ddigwyddiadau. Gallwch hefyd ffonio er mwyn rhoi gwybod am faterion megis malurion ar y draffordd.

Mae gwasanaeth ffôn awtomataidd Traffic England ar 08700 660 115 yn darparu gwybodaeth amser real am draffig. Mae’n gweithio drwy roi gorchmynion gan ddefnyddio’r bysellbad a’r llais, ac mae’n rhoi manylion am y canlynol:

  • gwybodaeth am draffig ar sail y ffordd, y rhanbarth, y dyddiad neu’r amser
  • digwyddiadau sydd i ddod a fydd yn cael effaith ar draffig

Gwasanaethau testun ar y teledu

Mae’r prif wasanaethau testun ar y teledu i gyd yn cynnwys gwybodaeth am draffig. Edrychwch ar y canlynol:

  • Ceefax
  • BBCi
  • Teletext

Edrych ar ragolygon y tywydd

Gallwch edrych am rybuddion am dywydd garw sy’n debygol o effeithio ar rwydwaith ffyrdd Lloegr ar hafan gwefan yr Asiantaeth Priffyrdd.

Dangosir gwybodaeth am rybuddion o lifogydd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ar gyfer rhagolygon cyffredin, gallwch ddefnyddio gwefan y Swyddfa Dywydd.

Gall y tywydd gael effaith sylweddol ar hyd eich taith – y mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi fynd ar hyd ffordd arall, cychwyn yn gynt neu weithiau peidio â theithio o gwbl. I gael awgrymiadau ynghylch gyrru mewn tywydd garw, gweler ‘Diogelwch mewn tywydd eithafol’.

Cofiwch

Er mwyn cynllunio taith ddiogel, gwnewch y canlynol:

  • cymerwch seibiant o 15 munud am bob dwy awr o yrru
  • sicrhewch fod eich cerbyd yn addas i fod ar y ffordd a bod ganddo deiar sbâr mewn cyflwr da
  • ewch ag eitemau gyda chi y gallwch eu defnyddio mewn argyfwng, rhag ofn y bydd y tywydd yn boeth iawn neu’n oer iawn (e.e. dŵr, dillad cynnes, diod boeth)
  • sicrhewch fod digon o danwydd yn eich cerbyd cyn i chi gychwyn
  • peidiwch â chychwyn ar daith hir os ydych eisoes wedi blino

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU