Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tanysgrifio i gael y newyddion traffig diweddaraf drwy hysbysiadau e-bost neu grynodebau RSS

Gallwch danysgrifio i gael hysbysiadau e-bost neu grynodebau RSS gan yr Asiantaeth Priffyrdd er mwyn cael y newyddion traffig diweddaraf ar gyfer Lloegr. Gallwch ddewis cael gwybodaeth am waith ffordd sydd ar y gweill, tagfeydd a phethau eraill sy'n ymwneud â thraffig, naill ai ar gyfer ardal neu ffordd benodol.

Newyddion traffig sydd ar gael drwy hysbysiadau e-bost a chrynodebau RSS

Gallwch danysgrifio i gael y newyddion traffig diweddaraf ar gyfer traffyrdd a phrif ffyrdd ‘A’ Lloegr sydd ar rwydwaith yr Asiantaeth Priffyrdd. Gallwch ddewis cael gwybodaeth ar gyfer ardal gyfan neu ar gyfer traffordd benodol drwy hysbysiad e-bost neu grynodeb RSS (Really Simple Syndication). Yna cewch newyddion am ddigwyddiadau ar gyfer yr ardal neu’r draffordd honno, gan gynnwys:

  • gwaith ffordd sydd ar y gweill
  • gwaith ffordd brys
  • tagfeydd
  • oedi
  • damweiniau

I weld pa ffyrdd sydd ar rwydwaith yr Asiantaeth Priffyrdd, gallwch lwytho map o’r rhwydwaith i lawr.

Newyddion traffig ar gyfer Cymru, yr Alban neu Lundain

Dim ond gwybodaeth am draffig ar ffyrdd sy’n cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Priffyrdd (traffyrdd a phrif ffyrdd ‘A’) y mae’r crynodebau RSS a’r hysbysiadau e-bost yn ei rhoi. Nid oes modd cael gwybodaeth am draffig yng Nghymru, yr Alban na Llundain (y tu mewn i'r M25).

Dilynwch y dolenni isod i gael newyddion traffig ar gyfer Cymru, yr Alban a Llundain.

Tanysgrifio i gael hysbysiadau e-bost am newyddion traffig

Pan fyddwch yn tanysgrifio i gael newyddion traffig dros e-bost gallwch ddewis:

  • pa mor aml rydych chi’n dymuno cael newyddion traffig dros e-bost
  • am ba ardaloedd a ffyrdd yr hoffech gael gwybodaeth

Tanysgrifio i grynodebau RSS am newyddion traffig

Gallwch hefyd danysgrifio i gael newyddion traffig drwy ddefnyddio crynodebau RSS. Bydd y crynodebau RSS yn cael eu diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd yn dod i law. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi aros am hysbysiad e-bost na mynd i wefan er mwyn cael y newyddion traffig diweddaraf.

Gallwch weld y crynodebau yn eich porwr neu gopïo'r ddolen i ddarllenydd newyddion. Ewch i ‘Help ag RSS’ er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio crynodebau RSS.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU