Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Talu treth dagfa Llundain

Gallwch dalu treth dagfa Llundain ar-lein hyd at 90 diwrnod cyn eich bod yn gyrru ym mharth y dreth dagfa - gallwch dalu'n ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol, neu'n flynyddol

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Os byddwch yn gyrru yng nghanol Llundain rhwng 7.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ag eithrio ar wyliau cyhoeddus), bydd rhaid i chi dalu £10 o dreth dagfa y diwrnod.

I dalu eich treth dagfa ar-lein, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • y dyddiad(au) y dymunwch dalu amdanynt
  • manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd

Bydd cofrestru ar gyfer Cerdyn Trac Cyflym yn helpu i gyflymu taliadau'r dyfodol.

Mae sawl ffordd arall o dalu'r dreth dagfa. Gallwch anfon neges destun, neu dalu mewn rhai siopau, gorsafoedd petrol a meysydd parcio. Fel arall, gallwch dalu mewn ciosgau Rhyngrwyd BT, drwy'r post neu dros y ffôn.

I dalu'r dreth dagfa ar-lein, cliciwch y ddolen isod.

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU