Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall amodau traffig newid yn ystod eich taith. Po fwyaf o wybodaeth sydd gennych, yr hawsaf y gallwch newid eich llwybr os bydd angen. Yma, cewch wybod sut mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn fyw, ac osgoi tagfeydd ar draffyrdd a chefnffyrdd Lloegr.
Os ydych chi’n bwriadu teithio yng Nghymru neu yn yr Alban, mae gwybodaeth fanwl am draffig a theithiau ar gael ar wefannau Traffig Cymru a Traffic Scotland.
Mae sawl ffordd o gadw llygad ar yr amodau traffig a'r amodau ffordd ar-lein neu drwy ddefnyddio ffôn symudol. I gael rhagor o fanylion ynghylch cael gwybodaeth cyn i chi fynd, gweler ‘Cynllunio'ch taith’.
Nid yn unig y mae Cynlluniwr Taith Cross & Stitch yn cynllunio eich llwybr, ond mae hefyd yn cynnwys newyddion byw am draffig, a gall ddod o hyd i’r maes parcio agosaf atoch.
Unrhyw bryd y byddwch yn stopio i gael seibiant, gallech hefyd gael diweddariadau traffig drwy:
Anfonir crynodebau uniongyrchol gan Ganolfan Rheoli Traffig Genedlaethol Lloegr i’r Mannau Gwybodaeth er mwyn rhoi’r manylion diweddaraf i chi am draffig a hyd siwrneiau.
Mae Mannau Gwybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd yn darparu gwybodaeth fyw am draffig ar sgriniau mawr mewn lleoliadau cyhoeddus (megis ardaloedd gwasanaethau ffordd a chanolfannau siopa) ar a gerllaw y rhwydwaith traffyrdd yn Lloegr.
Gallant eich helpu i wneud y canlynol:
Dilynwch y ddolen isod i lwytho map oddi ar y we sy’n dangos lleoliad yr holl Fannau Gwybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd yn Lloegr.
Ceir bron i 3,000 o arwyddion negeseuon electronig o amgylch rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Lloegr.
Fe gelwir yr arwyddion yn swyddogol yn ‘arwyddion negeseuon amrywiol’, oherwydd gallant newid y neges a ddangosir yn ôl yr amodau. Rydynt yn dangos er enghraifft:
Os bydd y draffordd ar gau am unrhyw reswm, bydd yr Asiantaeth Priffyrdd yn gwneud ei gorau glas i ddargyfeirio gyrwyr ar lwybr arall.
Fel rheol, bydd dargyfeiriadau sydd wedi’u cynllunio yn cael llawer o gyhoeddusrwydd ymlaen llaw, a bydd cyfarwyddiadau clir ar arwyddion negeseuon electronig ac ar arwyddion ar ochr y ffordd.
O ganlyniad i ddargyfeiriadau annisgwyl, a achosir fel arfer gan ddamweiniau traffig, weithiau gofynnir i chi adael y ffordd heb fod llwybr arall clir wedi'i farcio.
Mae’r Asiantaeth Priffyrdd ac awdurdodau lleol yn ceisio darparu llwybrau eraill sydd wedi'u marcio’n glir o amgylch traffyrdd a chefnffyrdd, er mwyn eu defnyddio yn ystod dargyfeiriadau annisgwyl. Mae amryw eisoes yn eu lle. Defnyddir blychau melyn â symbolau du arnynt i farcio'r ffyrdd. Dilynwch y symbolau, a byddant yn eich arwain yn ôl i'r draffordd neu'r ffordd yr oeddech yn teithio arni.
Mae’n bwysig i chi wybod eich lleoliad os:
Os byddwch yn ffonio gan ddefnyddio’r ffôn argyfwng ar ochr y ffordd, caiff eich lleoliad ei drosglwyddo’n awtomatig i’r ganolfan reoli. Ond os byddwch yn ffonio oddi ar unrhyw ffôn arall, bydd angen i chi ddweud wrthynt ble rydych chi.
Os ydych chi'n gwybod beth yw enw’r draffordd ac i ba gyfeiriad roeddech yn teithio (pa ochr i'r lôn), gallwch ddyfynnu'r rhif ar y pyst marcio bach glas ar ochr y ffordd i ganfod eich union leoliad.
Os na allwch weld postyn marcio neu os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch, chwiliwch am arwydd lleoliad mawr glas i yrwyr.
Bydd rhoi gwybod am broblemau, megis malurion ar y ffordd, yn helpu i leihau oedi a risgiau i yrwyr eraill. I roi gwybod am broblem, ffoniwch linell Wybodaeth 24 awr yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000.