Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth Gwybodaeth am Draffig Cenedlaethol Lloegr

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth am Draffig Cenedlaethol (NTIS) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am draffig i bobl sy'n defnyddio traffyrdd a phrif ffyrdd A yn Lloegr.

Rôl y Gwasanaeth Gwybodaeth am Draffig Cenedlaethol

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth am Draffig Cenedlaethol (NTIS) yn helpu'r Asiantaeth Priffyrdd i weithredu'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn effeithiol. Mae'n gwneud hyn drwy gasglu gwybodaeth yn gyflym am y sefyllfa draffig ar y rhwydwaith a throi hynny'n wybodaeth ddefnyddiol.

Gall staff yr Asiantaeth Priffyrdd yn y Ganolfan Gweithrediadau Traffig Genedlaethol (NTOC) ddefnyddio'r wybodaeth hon i ymateb i ddigwyddiadau, damweiniau a llifau traffig. Er enghraifft drwy ddangos arwyddion gwyriadau traffig. Gallant hefyd drosglwyddo gwybodaeth amser real am draffig i'r cyfryngau newyddion i deithwyr, sefydliadau a defnyddwyr ffyrdd drwy:

  • arwyddion negeseuon electronig wrth ymyl y ffordd
  • gwefannau Traffic England a Cross & Stitch
  • dyfeisiau symudol
  • ffrydiau data a all gael eu hailddefnyddio'n hawdd, megis gwybodaeth am draffig ar fapiau Google

Yr NTOC a chanolfannau rheoli rhanbarthol

Mae'r NTOC yn cael gwybodaeth gan y saith canolfan reoli ranbarthol yn Lloegr. Ymhlith tasgau'r canolfannau hyn mae:

  • derbyn galwadau o ffonau argyfwng wrth ymyl y ffordd
  • anfon Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd i ddigwyddiadau
  • penderfynu ar lwybrau amgen
  • gosod arwyddion ffyrdd electronig ar gyfer eu rhanbarth

Mae swyddogion yr heddlu a staff o blith contractwyr cynnal a chadw yr Asiantaeth Priffyrdd hefyd wedi'u lleoli mewn rhai Canolfannau Rheoli Rhanbarthol.

Sut y cesglir data ar draffig

Yn ogystal â defnyddio gwybodaeth a roddir gan Ganolfannau Rheoli Rhanbarthol a Swyddogion Traffig ar y ffyrdd, mae'r NTOC yn casglu data gan y canlynol:

  • cyfarpar monitro llif traffig
  • camerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig
  • yr heddlu, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill

Cyfarpar monitro llif traffig

Mae cyfarpar monitro llif traffig yn cynnwys:

  • gorsafoedd monitro traffig sy'n cael eu gweithredu drwy ynni'r haul
  • y system Canfod Digwyddiadau ar y Draffordd a Signalau Awtomatig (MIDAS)

Mae 1,500 o orsafoedd monitro traffig sy'n cael eu gweithredu drwy ynni'r haul ledled Lloegr. Maent yn mesur llif a chyflymder cyfartalog traffig ac yn anfon y data hwn yn ôl i'r NTOC bob pum munud.

Defnyddir MIDAS i ganfod ciwiau ar y rhannau prysuraf o draffyrdd. Pan fydd yn gweld bod ciw, mae hefyd yn rhybuddio gyrwyr drwy ddangos arwyddion negeseuon electronig uwchlaw ffyrdd.

Camerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig

Mae tua 1,100 o gamerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig mewn tua 500 o leoliadau yn Lloegr. Fe'u defnyddir i fonitro cyflymder cyfartalog, sy'n helpu'r NTOC i ganfod tagfeydd yn gyflym.

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o gamerâu a osodir ar brif ffyrdd a sut y caiff y data ei ddefnyddio, gweler 'Camerâu ar draffyrdd a chefnffyrdd'.

Yr heddlu ac awdurdodau lleol

Mae'r NTOC yn cadw mewn cysylltiad agos â'r heddlu ar draws y rhwydwaith a hefyd â 116 o awdurdodau lleol. Mae hyn yn sicrhau bod yr Asiantaeth Priffyrdd yn ymwybodol o ddigwyddiadau a gwaith ffordd a allai effeithio ar amseroedd teithio.

Sefydliadau eraill sy'n cyfrannu at ddata NTOC

Mae'r NTOC yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau eraill sy'n creu llif traffig. Mae hyn yn helpu'r Asiantaeth Priffyrdd i gynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr a all achosi tagfeydd. Ymhlith y sefydliadau mae porthladdoedd, meysydd awyr, lleoliadau adloniant, clybiau pêl-droed a chanolfannau siopa.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor ar ddiogelwch ar y ffyrdd

Dysgwch sut i aros yn ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU