Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth i chi yrru ar hyd draffyrdd a chefnffyrdd yn Lloegr, mae’n bosib y bydd amryw o gamerâu yn tynnu llun o’ch car a systemau teledu cylch cyfyng yn ei ffilmio. Yma cewch wybod am y gwahanol fathau o gamerâu, ar gyfer beth y cânt eu defnyddio, a beth sy'n digwydd i'r delweddau.
Defnyddir y camerâu hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae’r traffig yn symud. Bydd y Canolfannau Rheoli Traffig Rhanbarthol a Chenedlaethol yn Lloegr yn defnyddio'r wybodaeth hon i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau a thagfeydd ac i sicrhau bod y traffig yn dal i symud.
Mae camerâu CCTV yr Asiantaeth Priffyrdd yn monitro llif y traffig ar fannau allweddol ar y rhwydwaith, a hynny 24 awr y dydd, bob dydd.
Defnyddir yr wybodaeth i wneud y canlynol:
Caiff yr heddlu wneud cais am gael gweld y delweddau er mwyn gorfodi'r gyfraith.
Mae’r delweddau a ddarlledir ar wefan yr Asiantaeth Priffyrdd yn bodloni’r safonau diogelu data cyfredol. Nid ydynt yn dangos manylion personol megis gwybodaeth a allai ddatgelu pwy yw’r modurwyr na phlatiau rhif y ceir.
Gellir adnabod y camerâu hyn yn ôl eu casyn gwyrdd llachar, ac ar hyn o bryd fe’u defnyddir mewn oddeutu 500 o safleoedd ar hyd a lled Lloegr. Maent yn gweithio fesul pâr i helpu’r Ganolfan Rheoli Traffig Genedlaethol (NTCC) i fonitro amseroedd teithio. Bydd un camera yn tynnu llun o’r plât rhif wrth i'r car yrru heibio. Bydd y camera nesaf yn darllen y plât rhif ac yn nodi’r amser a gymerodd eich car i deithio rhwng y ddau gamera.
Caiff y data ei gasglu’n awtomatig a’i anfon i’r Ganolfan Rheoli Traffig Genedlaethol bob pum munud. Nid yw'r platiau rhif yn cael eu cofnodi ac ni fydd staff y Ganolfan Rheoli Traffig Genedlaethol fyth yn eu gweld.
Gosodir y camerâu hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn gyrru'n gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder. Fel arfer, caiff yr wybodaeth ei phrosesu gan bartneriaethau camerâu diogelwch lleol, awdurdodau lleol, yr heddlu a’r llysoedd. Os cewch eich dal yn goryrru ar y camerâu hyn, bydd yr heddlu’n anfon ‘Hysbysiad o'r bwriad i erlyn’ atoch.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rheolau ar gyfer camerâu diogelwch a beth sy'n digwydd os cewch eich dal yn goryrru, dilynwch y ddolen isod.
Mae’r rhain yn mesur y cyflymder rhwng dau bwynt er mwyn gwneud yn siŵr nad yw gyrwyr yn gyrru'n gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder cyfartalog. Byddant yn cael eu gosod yn aml ger gwaith ffordd sylweddol lle mae cyfyngiadau cyflymder dros dro ar waith.
Bydd y camerâu hyn yn mesur cyflymder cerbydau wrth iddynt basio un lle. Byddant yn cael eu gosod yn aml ger gwaith ffordd sylweddol neu mewn ardaloedd ar y rhwydwaith lle ceir hanes o ddamweiniau.
Fel rheol, caiff camerâu gorfodi digidol eu defnyddio i orfodi cyfyngiadau cyflymder newidiol a ddangosir ar arwyddion uwchben rhai traffyrdd. Bydd y cyfyngiadau cyflymer hyn yn newid mewn ymateb i’r amodau traffig. Os bydd gyrwyr yn cadw atynt, maent yn gwella llif y traffig ac yn lleihau amseroedd teithio.