Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli tagfeydd ar y draffordd

Mae Traffyrdd a Reolir a Thraffyrdd Rheoledig yn ddau gynllun tebyg sy'n rheoli tagfeydd ar rai o ffyrdd prysuraf Lloegr ar hyn o bryd. Yma, cewch wybod ble maent, sut maent yn gweithio a beth sy’n eu gwneud yn wahanol i’r systemau rheoli ffordd arferol. Gallwch hyd yn oed roi cynnig ar efelychiad (simulation).

Beth yw Traffyrdd a Reolir

System electronig o reoli traffig yw Traffordd a Reolir, sy’n cynnwys agor y llain galed fel lôn ychwanegol i yrwyr pan fo angen. Mae’r system yn defnyddio arwyddion negeseuon electronig i osod cyfyngiadau cyflymder amrywiol ac i agor neu gau lonydd.

Sut mae Traffordd a Reolir yn wahanol i draffordd arferol

Mae gan Draffordd a Reolir y nodweddion canlynol:

  • pontydd arwyddion ysgafn uwchben y draffordd i gario camerâu Teledu Cylch Cyfyng a signalau ac arwyddion electronig
  • signalau penodol i bob lôn yn dangos cyfyngiadau cyflymder ac a yw lôn ar agor ai peidio
  • arwyddion gwybodaeth i yrwyr, i rybuddio gyrwyr am ddigwyddiadau neu dagfeydd o’u blaenau
  • camerâu diogelwch digidol i orfodi cyfyngiadau cyflymder
  • arwyddion i mewn ac allan i ddangos i yrwyr pryd maent yn mynd i mewn i ardal Traffordd a Reolir a phryd maent yn ei gadael
  • llochesi argyfwng gyda ffonau argyfwng, wedi’u lleoli bob tua 800 metr (mannau yw’r rhain lle gallwch stopio mewn argyfwng pan fo’r llain galed yn cael ei defnyddio)
  • camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn dangos ardal y Draffordd a Reolir yn llwyr, fel y gall gweithredwyr weld y llain galed a sylwi ar unrhyw ddigwyddiadau traffig yn gyflym
  • synwyryddion wedi’u claddu yn arwyneb y ffordd

Sut mae Traffordd a Reolir yn gweithio mewn amodau arferol

Pan fo amodau’r traffig yn arferol, bydd yr arwyddion yn wag a bydd rheolau arferol gyrru ar y draffordd yn berthnasol.

Beth fydd yn digwydd pan fydd tagfeydd yn dechrau cronni

Pan fydd tagfeydd yn cronni neu pan fydd digwyddiad megis gwrthdrawiad, bydd y canlynol yn digwydd:

  • bydd synwyryddion dan y ffordd yn nodi traffig sy'n symud yn arafach
  • bydd y system gyfrifiadurol yn cyfrifo’r cyflymder mwyaf priodol ar gyfer y traffig
  • bydd y cyfyngiad cyflymder newydd yn ymddangos ar y signalau uwchben y draffordd
  • bydd croes goch yn ymddangos uwchben y llain galed i ddangos na ddylid ei defnyddio oni bai fod argyfwng neu fod cerbyd yn torri lawr

Bydd hyn yn lleihau cyflymder ac yn llyfnhau llif y traffig, gan beri llai o yrru ‘stopio a chychwyn’. Bydd hefyd yn lleihau’r angen i yrwyr basio’i gilydd, oherwydd bydd yr un cyfyngiad cyflymder yn cael ei ddangos uwchben pob lôn.

Beth fydd yn digwydd gyda thagfeydd difrifol

Os bydd tagfeydd yn parhau i gronni, bydd y synwyryddion yn rhoi gwybod i’r gweithredwr yng nghanolfan reoli ranbarthol yr Asiantaeth Priffyrdd. Gall y gweithredwr agor y llain galed i yrwyr mewn munudau (ar ôl edrych ar y Teledu Cylch Cyfyng i wneud yn siŵr bod y llain galed yn glir ac yn ddiogel).

Pan gaiff y llain galed ei hagor, bydd y canlynol yn digwydd:

  • bydd neges yn ymddangos ar yr arwyddion uwchben y draffordd yn rhoi gwybod i yrwyr y gallant ddefnyddio’r llain galed
  • bydd cyfyngiad cyflymder yn ymddangos ar y llain galed (yr un cyfyngiad cyflymder â’r un fydd yn cael ei arddangos uwchben y lonydd eraill)

Arwyddion uwchben Traffyrdd a Reolir

Am ragor o wybodaeth am arwyddion electronig a ddefnyddir uwchben y lonydd ar Draffyrdd a Reolir, gweler ‘Arwyddion electronig uwchben traffyrdd’.

Diogelwch ar Draffyrdd a Reolir

Lle y defnyddir system Traffordd a Reolir, ceir llochesi argyfwng gyda ffonau argyfwng sydd wedi'u cysylltu â'r ganolfan reoli ranbarthol. Mae’r mannau hyn ar gyfer gyrwyr y mae eu cerbydau wedi torri lawr neu y mae arnynt angen stopio mewn argyfwng yn unig – yn union fel y llain galed ar draffordd arferol.

Os bydd digwyddiad megis gwrthdrawiad, gall lôn unigol gael ei chau mewn munudau fel na all traffig fynd arni. Golyga hyn y gall cerbydau argyfwng gyrraedd y man yn gyflym gan darfu cyn lleied â phosib ar ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Ardal Traffordd a Reolir: yr M42 a chroesffyrdd Birmingham

Y rhan gyntaf o draffordd i gael ei newid yn Draffordd a Reolir oedd yr M42 rhwng cyffyrdd 3A a 7 ger Birmingham.

Mae’r rhan hon nawr yn cael ei hehangu i gynnwys rhannau eraill o'r draffordd sy'n croesi o amgylch Birmingham (yn yr ardal a elwir yn Focs Birmingham). Pan fydd y gwaith ar ben, bydd hyn yn cynnwys:

  • ardaloedd helaethach o gyfyngiadau cyflymder amrywiol o amgylch y Draffordd a Reolir o’r M42, yr M40 a’r M6 – bydd y rhain yn gwella llif y traffig, yn enwedig lle bydd traffyrdd yn cyfuno
  • system Traffordd a Reolir gyflawn ar gyffyrdd 4 i 5 ac 8 i 10 yr M6

Mae gwaith hefyd wedi dechrau i ehangu’r Draffordd a Reolir ar yr M42, ar gyffordd 5. Bydd hyn yn golygu y gall y llain galed gael ei defnyddio fel lôn ychwanegol, nid yn unig ar y brif draffordd, ond ar y gyffordd hefyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am hyn ar wefan yr Asiantaeth Priffyrdd.

Gallwch hefyd lawrlwytho adroddiad ar werthusiadau o brosiect Traffyrdd a Reolir yr M42 (o’r enw Rheoli Traffig yn Weithredol (ATM)).

Profi Traffordd a Reolir

I gael blas ar y nodweddion y gallech eu profi ar ran o Draffordd a Reolir, dilynwch y ddolen isod.

Eich ymateb

Os ydych chi wedi defnyddio rhan o Draffordd a Reolir, byddai’r Asiantaeth Priffyrdd yn hoff o gael gwybod beth oeddech chi’n ei feddwl ohoni. Dilynwch y ddolen isod i lenwi ffurflen ymateb.

Beth yw Traffyrdd Rheoledig

Mae gan Draffyrdd Rheoledig holl nodweddion Traffyrdd a Reolir heblaw'r cyfleuster i agor y llain galed fel lôn ychwanegol i yrwyr, felly nid oes arnynt angen llochesi argyfwng.

Os bydd eich cerbyd yn torri lawr ar Draffordd Reoledig dylech ddilyn y rheolau diogelwch arferol ar gyfer torri lawr ar y draffordd.

Y Draffordd Reoledig gyntaf – yr M25

Rhan Orllewinol yr M25 oedd y Draffordd Reoledig gyntaf yn Lloegr. Mae ganddi system reoli digwyddiadau a chyfyngiadau cyflymder amrywiol er 1995. Mae’r system wedi cael ei huwchraddio wrth i gyfanswm y traffig barhau i dyfu.

Mae’r Asiantaeth Priffyrdd wedi cynhyrchu taflen sy’n egluro’n fanwl sut mae’r rhan o’r M25 sy’n Draffordd Reoledig yn gweithio. Gallwch ei llwytho oddi ar y we isod.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor ar ddiogelwch ar y ffyrdd

Dysgwch sut i aros yn ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU