Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Traffyrdd (253-273)

Mae llawer iawn o Reolau eraill sy’n berthnasol i yrru ar y draffordd, un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol: Rheolau 46, 57, 83-126, 130-134, 139, 144, 146-151, 160, 161, 219, 221-222, 225, 226-237, 274-278, 280, a 281-290.

Cyffredinol

253

Cerbydau sy’n cael eu gwahardd. RHAID i gerddwyr neu ddeiliaid trwyddedau dros dro i yrru ceir a beiciau modur BEIDIO â defnyddio traffyrdd. Hefyd RHAID i feicwyr modur ar feiciau dan 50 cc, seiclwyr, pobl ar gefn ceffylau, rhai cerbydau araf penodol a’r rheiny sy’n cario llwythi enfawr (oni bai drwy ganiatâd arbennig) BEIDIO â defnyddio traffyrdd. Mae cerbydau amaethyddol a chadeiriau olwyn/sgwteri symudedd â phŵer hefyd wedi’u gwahardd rhag cael eu defnyddio ar draffyrdd (gweler Rheolau 36 i 46).

[Cyfreithiau HA 1980 adrannau 16, 17 ac atodlen 4, MT(E&W)R rheoliadau 3(d), 4 a 11, MT(E&W)(A)R, R(S)A adrannau 7, 8 ac atodlen 3, RTRA adrannau 17(2) a (3), a MT(S)R rheoliad 10]

254

Fel arfer mae traffig ar draffyrdd yn teithio’n gyflymach nag ar ffyrdd eraill, felly mae gennych lai o amser i ymateb. Mae’n hynod bwysig defnyddio eich drychau yn gynt ac edrych lawer iawn ymhellach o’ch blaen nag a wnaech ar ffyrdd eraill.

Arwyddion traffyrdd

255

Defnyddir arwyddion traffyrdd (gweler 'Signalau goleuadau sy’n rheoli traffig') i’ch rhybuddio am berygl sydd o’ch blaen. Er enghraifft, gallai fod digwyddiad, niwl, llwyth wedi’i ollwng neu weithwyr ar y ffordd na fyddech yn gallu eu gweld yn syth.

256

Mae arwyddion sydd wedi eu lleoli ar y llain ganol yn berthnasol i bob lôn. Ar rannau prysur iawn, gall yr arwyddion fod uwchben gydag arwydd ar wahân i bob lôn.

257

Goleuadau ambr yn fflachio. Rhybudd yw’r rhain am berygl o’ch blaen. Gall yr arwyddion ddangos cyfyngiad cyflymder dros dro, lonydd wedi cau neu neges megis 'Niwl'. Addaswch eich cyflymder a gwyliwch am y perygl nes i chi fynd heibio i arwydd nad yw’n fflachio neu un sy’n dweud bod popeth yn iawn eto, a’ch bod yn siŵr ei bod yn ddiogel cyflymu eto.

258

Goleuadau coch yn fflachio. Os oes goleuadau coch yn fflachio ar yr arwyddion uwchben eich lôn chi a bod ‘X’ coch wedi’i arddangos, RHAID I CHI BEIDIO â mynd heibio i’r arwydd yn y lôn honno. Os oes goleuadau coch yn fflachio ar arwydd ar y llain ganol neu ar ochr y ffordd, RHAID I CHI BEIDIO â mynd heibio i’r arwydd mewn unrhyw lôn.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 38]

Gyrru ar y draffordd

259

Ymuno â’r draffordd. Wrth ymuno â’r draffordd, byddwch fel arfer yn dod ati o ffordd ar y chwith (slipffordd) neu o draffordd gyffiniol. Dylech

  • roi blaenoriaeth i draffig sydd ar y draffordd yn barod
  • gwylio’r traffig ar y draffordd a chyfateb eich cyflymder â gweddill y traffig i ffitio’n ddiogel i lif y traffig yn y lôn chwith
  • peidio â chroesi llinellau gwyn di-dor sy’n gwahanu lonydd na defnyddio’r llain galed
  • aros ar y slipffordd os bydd yn parhau fel lôn ychwanegol ar y draffordd
  • aros yn y lôn chwith yn ddigon hir i addasu i gyflymder y traffig cyn dechrau ystyried pasio

Ar y draffordd

260

Pan fyddwch yn gallu gweld ymhell o’ch blaen a bod yr amodau ar y ffordd yn dda, dylech

  • yrru ar gyflymder cyson braf yr ydych chi a’ch cerbyd yn gallu dygymod ag ef yn ddiogel ac sydd o fewn y cyfyngiad cyflymder (gweler Rheolau 126)
  • cadw pellter diogel oddi wrth y cerbyd o’ch blaen a chynyddu’r bwlch ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd, neu mewn niwl (gweler Rheolau 126 a 235)

261

RHAID I CHI BEIDIO â mynd yn gyflymach na 70 mya (112 km/awr) neu’r cyfyngiad cyflymder uchaf a ganiateir i’ch cerbyd (gweler Rheol 124). Os oes cyfyngiad cyflymder is mewn grym, yn barhaol neu dros dro, gerllaw gwaith ar y ffordd er enghraifft, RHAID I CHI BEIDIO â mynd yn gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder is. Ar rai traffyrdd, mae arwyddion traffordd gorfodol (sy’n dangos y cyflymder mewn cylch coch) yn cael eu defnyddio i amrywio’r cyfyngiad cyflymder uchaf er mwyn gwella llif y traffig. RHAID I CHI BEIDIO â mynd yn gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder hwn.

[Cyfraith RTRA adrannau 17, 86, 89 ac atodlen 6]

262

Gall undonedd gyrru ar draffordd wneud i chi deimlo’n gysglyd. I leihau’r risg, dilynwch gyngor Rheol 91.

263

RHAID I CHI BEIDIO â bacio, croesi’r llain ganol na gyrru yn erbyn llif y traffig. Os ydych wedi mynd heibio’ch allanfa, neu wedi cymryd y ffordd anghywir, daliwch i fynd tan yr allanfa nesaf.

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 6, 8 a 10 a MT(S)R rheoliadau 4, 5, 7 a 9]

Disgyblaeth lonydd

264

Dylech bob amser yrru yn y lôn chwith pan fo’r ffordd o’ch blaen yn glir. Os ydych chi’n pasio nifer o gerbydau sy’n teithio’n arafach na chi, dylech fynd yn ôl i’r lôn ar y chwith cyn gynted â phosib ar ôl eu pasio’n ddiogel. Dylai cerbydau araf neu gerbydau y cyfyngir ar eu cyflymder bob amser deithio yn lôn chwith y draffordd oni bai eu bod yn pasio cerbyd arall. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru ar y llain galed ac eithrio mewn argyfwng neu os cewch gyfarwyddyd i wneud hynny gan yr heddlu, swyddogion traffig yr Awdurdod Priffyrdd neu arwyddion.

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 5, 9 a 16(1)(a), MT(S)R rheoliadau 4, 8 a 14(1)(a), a RTA 1988, adrannau 35 a 186, fel y’i dywygiwyd gan TMA 2004 adran 6.]

265

RHAID PEIDIO â defnyddio lôn dde traffordd sydd â thair neu fwy o lonydd (ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig) os ydych yn gyrru

  • unrhyw gerbyd sy’n tynnu ôl-gerbyd
  • cerbyd nwyddau sy’n pwyso dros 3.5 tunnell ond llai na 7.5 tunnell wedi’i lwytho, ac sy’n gorfod cael dyfais i gyfyngu ar gyflymder
  • cerbyd nwyddau sy’n pwyso dros 7.5 tunnell wedi’i lwytho
  • cerbyd teithwyr sy’n pwyso dros 7.5 tunnell fetrig wedi’i lwytho sydd wedi’i adeiladu neu wedi’i addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ogystal â’r gyrrwr
  • cerbyd teithwyr sy’n pwyso llai na 7.5 tunnell fetrig wedi’i lwytho, sydd wedi’i adeiladu neu wedi’i addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ogystal â’r gyrrwr, ac sy’n gorfod cael dyfais i gyfyngu ar gyflymder

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliad 12, MT(E&W)AR (2004), MT(S)R rheoliad 11 a MT(S)AR (2004)]

266

Wrth agosáu at gyffordd. Edrychwch ymhell o’ch blaen am unrhyw arwyddion. Gall arwyddion cyfeirio gael eu gosod uwchben y ffordd. Os oes angen i chi newid lonydd, dylech wneud hynny mewn da bryd. Wrth rai cyffyrdd gall lôn arwain yn uniongyrchol oddi ar y draffordd. Ni ddylech fynd i’r lôn honno oni bai eich bod am fynd i’r cyfeiriad sy’n cael ei ddangos ar yr arwyddion uwchben.

Pasio

267

Peidiwch â phasio oni bai eich bod yn siŵr ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Rhaid i chi basio ar y dde yn unig. Dylech

  • edrych yn eich drychau
  • cymryd amser i farnu pob cyflymder yn iawn
  • gwneud yn siŵr fod y lôn y byddwch yn ymuno â hi yn ddigon clir o’ch blaen a’r tu ôl
  • cymryd cipolwg sydyn i fan y smotyn dall i gadarnhau safle cerbyd a allai fod wedi diflannu o’ch golwg yn y drych
  • cofio y gallai traffig fod yn dod o’r tu ôl i chi yn gyflym iawn. Edrychwch yn ofalus ym mhob drych. Gwyliwch am feiciau modur. Pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny, rhowch arwydd mewn da bryd, yna symudwch allan
  • gwneud yn siŵr na fyddwch yn torri mewn ar draws y cerbyd yr ydych newydd ei basio
  • bod yn hynod ofalus yn y nos ac mewn gwelededd gwael pan fydd yn fwy anodd barnu cyflymder a phellter

268

Peidiwch â phasio ar y chwith na symud i lôn ar y chwith i chi i basio. Mewn tagfeydd, lle mae lonydd traffig nesaf at ei gilydd yn symud ar gyflymder tebyg, weithiau mae’r traffig yn y lôn chwith yn gallu symud yn gyflymach na thraffig ar y dde. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch ddal i gydsymud â’ch traffig yn eich lôn chi hyd yn oed os yw hyn yn golygu mynd heibio i draffig yn y lôn ar y dde. Peidiwch â gwau o’r naill lôn i’r llall er mwyn pasio.

269

Llain galed. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio’r llain galed i basio. Mewn ardaloedd lle mae Cynllun Rheoli Traffig Gweithredol mewn grym, gellir defnyddio’r llain galed fel lôn redeg. Byddwch yn gwybod pan fyddwch yn gallu defnyddio’r llain galed oherwydd bydd arwydd uwchben pob lôn sydd ar agor yn dangos y cyfyngiad cyflymder, yn cynnwys y llain galed. Os oes croes goch neu arwydd du uwchben y llain galed, RHAID I CHI BEIDIO â gyrru ar y llain galed heblaw mewn argyfwng neu os ydych wedi torri lawr. Mae llochesi argyfwng wedi’u creu yn yr ardaloedd hyn i’w defnyddio mewn argyfwng neu os ydych wedi torri lawr.

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 5, 5A a 9, MT(S)R rheoliadau 4 a 8]

Rheol 269: Arwydd ar gantri uwchben llain galed yn dangos croes goch

Stopio

270

RHAID I CHI BEIDIO â stopio ar y ffordd, y llain galed, ar slipffordd, llain ganol nac ymyl ffordd ac eithrio mewn argyfwng, neu lle dywedir wrthych am wneud hynny gan yr heddlu, swyddogion traffig mewn lifrau yr Asiantaeth Priffyrdd, arwydd argyfwng neu gan arwydd golau coch yn fflachio. Peidiwch â stopio ar y llain galed naill ai i wneud neu i dderbyn galwadau ar ffôn symudol.

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 5A, 7, 9, 10 a 16,MT(S)R rheoliadau 6(1), 8, 9 a 14, PRA 2002 adran 41 ac atodlen 5(8), a RTA 1988 adrannau 35 a 163 fel y’i diwygiwyd gan TMA 2004, adran 6]

271

RHAID I CHI BEIDIO â chodi neb na rhoi neb i lawr, na cherdded ar draffordd, ac eithrio mewn argyfwng.

[Cyfreithiau RTRA adran 17 a MT(E&W)R rheoliad 15]

Gadael y draffordd

272

Oni bai bod arwyddion yn dangos bod lôn yn arwain yn uniongyrchol oddi ar y draffordd, fel arfer byddwch yn gadael y draffordd ar hyd slipffordd ar y chwith i chi. Dylech

  • wylio am arwyddion sy’n rhoi gwybod i chi eich bod yn agosáu at eich allanfa
  • symud i’r lôn chwith ymhell cyn cyrraedd eich allanfa
  • rhoi arwydd i’r chwith mewn da bryd ac arafu ar y slipffordd fel bo angen

273

Wrth adael y draffordd neu ddefnyddio lôn gyswllt rhwng traffyrdd, gall eich cyflymder fod yn uwch na’r hyn feddyliech chi - gall 50 mya deimlo fel 30 mya. Edrychwch ar eich cloc cyflymder ac addaswch eich cyflymder yn ôl y galw. Mae gan rai slipffyrdd a ffyrdd cyswllt droadau cas a bydd angen i chi arafu.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU