Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O dan amgylchiadau arferol. Y ffordd fwyaf diogel o frecio yw gwneud hynny’n gynnar ac yn ysgafn. Dylech frecio’n gadarnach wrth i chi ddechrau stopio. Codwch y pwysau oddi ar y brêc ychydig cyn i’r cerbyd stopio i osgoi stopio’n herciog.
Mewn argyfwng. Breciwch ar unwaith. Ceisiwch osgoi brecio mor arw fel bod eich olwynion yn cloi. Os yw’r olwynion yn cloi, gallech chi golli rheolaeth.
Sgidio. Mae’r car yn sgidio fel arfer am fod y gyrrwr yn brecio, yn cyflymu neu’n llywio’n rhy arw neu’n gyrru’n rhy gyflym ar gyfer cyflwr y ffordd. I ddod allan o sgid, tynnwch eich troed yn llwyr oddi ar bedal brêc neu oddi ar y sbardun. Trowch yr olwyn lywio i gyfeiriad y sgid. Er enghraifft, os yw cefn y cerbyd yn sgidio i’r dde, llywiwch i’r dde ar unwaith er mwyn ei unioni.
System frecio gwrth-gloi (ABS). Os oes brêcs gwrth-gloi wedi’u gosod ar eich cerbyd, dylech ddilyn y cyngor a roddir yn llawlyfr y cerbyd. Fodd bynnag, mewn argyfwng, pwyswch ar y brêc troed yn gadarn; peidiwch â thynnu’r pwysau oddi arno hyd nes bo’r cerbyd wedi arafu i’r cyflymder dymunol. Dylai’r system frecio gwrth-gloi sicrhau eich bod yn gallu cadw rheolaeth dros y llyw, ond peidiwch â rhagdybio bod cerbyd gyda system frecio gwrth-gloi yn gallu stopio’n gynt.
Brêcs y mae dŵr wedi effeithio arnynt. Os ydych wedi gyrru drwy ddŵr dwfn, mae’n bosibl na fydd eich brêcs mor effeithiol. Profwch nhw ar y cyfle diogel cyntaf a ddaw drwy wasgu’n ysgafn ar bedal y brêc i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio. Os nad ydynt yn hollol effeithiol, gwasgwch yn ysgafn arnynt tra’n gyrru’n araf. Bydd hyn yn help i’w sychu.
Hwylio mynd. Mae hyn yn golygu cerbyd sy’n teithio mewn niwtral neu gyda phedal y cydiwr wedi’i wasgu i lawr. Mae gan y gyrrwr lai o reolaeth oherwydd
Y gyrrwr a’r Amgylchedd. RHAID I CHI BEIDIO â gadael cerbyd wedi’i barcio heb neb yn gofalu amdano gyda’r injan yn dal i droi na gadael injan cerbyd yn troi yn ddiangen tra bo’r cerbyd hwnnw yn sefyll yn ei unfan ar ffordd gyhoeddus. Yn gyffredinol, os yw cerbyd yn sefyll yn ei unfan ac yn debygol o aros am fwy na rhai munudau, dylech ddefnyddio’r brêc parcio a diffodd yr injan er mwyn lleihau gollyngiadau a llygredd sŵn. Fodd bynnag, gallwch adael yr injan i droi os yw’r cerbyd yn sefyll yn ei unfan mewn traffig neu er mwyn dod o hyd i nam ar y cerbyd.
[Cyfraith CUR rheoliadau 98 a 107]
|
Ardaloedd adeiledig* |
Ffyrdd sengl |
Ffyrdd deuol |
Traffyrdd |
---|---|---|---|---|
Mathau o gerbyd |
MYA (km/awr) |
MYA (km/awr) |
MYA (km/awr) |
MYA (km/awr) |
Ceir a beiciau modur |
30 (48) |
60 (96) |
70 (112) |
70 (112) |
Ceir sy’n tynnu carafannau neu ôl-gerbydau |
30 (48) |
50 (80) |
60 (96) |
60 (96) |
Bysiau, bysiau moethus a bysiau mini |
30 (48) |
50 (80) |
60 (96) |
70 (112) |
Cerbydau nwyddau |
30 (48) |
50 (80) |
60 (96) |
70 (112) ** |
Cerbydau nwyddau |
30 (48) |
40 (64) |
50 (80) |
60 (96) |
*Mae’r cyfyngiad 30 mya fel arfer yn berthnasol i’r holl draffig ar yr holl fyrdd â goleuadau
** 60 mya (96 km/awr) os yw’n gerbyd cymalog neu’n tynnu ôl gerbyd
RHAID I CHI BEIDIO â mynd yn gyflymach na’r cyfyngiadau cyflymder uchaf ar gyfer y ffordd a’ch cerbyd (gweler y tabl ar dudalen 40). Os oes goleuadau stryd ar ochr y ffordd yna, fel arfer, mae cyfyngiad cyflymder o 30 mya (48 km/awr) mewn grym, oni nodir yn wahanol.
[Cyfraith RTRA adrannau 81, 86, 89 ac atodlen 6]
Y cyfyngiad cyflymder yw’r uchafswm absoliwt ac nid yw’n golygu ei bod yn ddiogel gyrru ar y cyflymder hwnnw beth bynnag fo’r amgylchiadau. Mae gyrru’n rhy gyflym i’r ffordd a’r amodau traffig yn beryglus. Dylech bob amser leihau eich cyflymder
Gyrrwch ar gyflymder fydd yn caniatáu i chi stopio’n rhwydd o fewn y pellter y gallwch weld ei fod yn glir. Dylech
Os oed rhaid i chi stopio mewn twnnel, dylech adael 5 metr o fwlch rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen.
Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd
Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.