Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gofynion goleuo (113-116)

113

RHAID i chi

  • wneud yn siŵr fod y goleuadau ochr a goleuadau’r plât cofrestru yn y cefn ymlaen rhwng machlud haul a’r wawr
  • defnyddio prif oleuadau yn y nos, heblaw ar ffordd lle mae’r goleuadau stryd wedi’u cynnau. Fel arfer, ffyrdd yw’r rhain gyda chyfyngiad cyflymder o 30 mya (48 km/awr) oni nodir yn wahanol
  • defnyddio prif oleuadau pan fydd y gwelededd wedi dirywio’n ddifrifol (gweler Rheol 226)

Diffinnir y nos (yn y tywyllwch) fel y cyfnod rhwng hanner awr ar ôl machlud haul a hanner awr cyn iddo wawrio.

[Cyfreithiau RVLR rheoliadau 3, 24, a 25 (Yn yr Alban - RTRA 1984 adran 82 (fel y’i diwygiwyd gan NRSWA, paragraff 59 atodlen 8))]

114

RHAID I CHI BEIDIO â

  • defnyddio unrhyw oleuadau mewn ffordd a fyddai’n dallu neu’n achosi anghysur i ddefnyddwyr eraill y ffordd, gan gynnwys cerddwyr, seiclwyr a phobl ar gefn ceffylau
  • defnyddio goleuadau niwl yn y pen blaen neu ar y cefn oni bai bod y gwelededd wedi’i leihau’n ddifrifol. RHAID i chi eu diffodd pan fydd y gwelededd yn gwella er mwyn osgoi dallu defnyddwyr eraill y ffordd (gweler Rheol 226)

Mewn ciwiau o draffig sydd wedi stopio’n stond, dylai gyrwyr ddefnyddio’r brêc parcio, ac ar ôl i’r traffig y tu ôl stopio, dylent godi eu troed oddi ar y brêc troed i ddiffodd goleuadau brecio’r cerbyd. Bydd hyn yn lleihau goleuadau llachar yn llygaid defnyddwyr y ffordd hyd nes y bydd y traffig yn ailddechrau symud.

[Cyfraith RVLR rheoliad 27]

115

Dylech hefyd

  • ddefnyddio goleuadau wedi’u dipio, neu dim-dip os yw ar gael, yn ystod y nos mewn ardaloedd adeiledig ac mewn tywydd cymylog yn ystod y dydd, i wneud yn siŵr fod modd eich gweld
  • cadw’ch prif oleuadau wedi’u dipio wrth basio nes eich bod ochr yn ochr â’r cerbyd arall ac yna newid i’r prif olau os oes rhaid, oni bai bod hynny’n dallu defnyddwyr ffordd sy’n dod tuag atoch
  • arafu ac, os oes rhaid, stopio, os ydych yn cael eich dallu gan brif oleuadau traffig sy’n dod tuag atoch

116

Goleuadau rhybuddio am beryglon. Gallwch ddefnyddio’r rhain pan fydd eich cerbyd yn sefyll yn ei unfan, i rybuddio ei fod yn atal y traffig dros dro. Peidiwch byth â’u defnyddio fel esgus i barcio’n beryglus neu’n anghyfreithlon. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio goleuadau rhybudd wrth yrru neu wrth i chi gael eich towio oni bai eich bod ar draffordd neu ffordd ddeuol ddiamod a bod angen i chi rybuddio gyrwyr y tu ôl i chi fod yna berygl neu rwystr o’ch blaen. Dim ond yn ddigon hir i sicrhau bod rhywun wedi gweld eich rhybudd y dylech eu defnyddio.

[Cyfraith RVLR rheoliad 27]

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU