Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Rhoi Arwyddion (103-112)

103

Mae rhoi arwydd yn rhybuddio a rhoi gwybod i bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd, yn cynnwys cerddwyr, am yr hyn yr ydych yn bwriadu’i wneud (gweler 'Arwyddion i ddefnyddwyr eraill y ffordd'). Dylech wneud y canlynol bob tro

  • rhoi arwyddion clir mewn da bryd, ar ôl gwneud yn siŵr nad yw’n gamarweiniol rhoi arwydd ar yr adeg honno
  • rhoi arwyddion i hysbysu defnyddwyr eraill y ffordd cyn newid cwrs neu gyfeiriad, stopio neu gychwyn
  • canslo arwyddion ar ôl eu defnyddio
  • gwneud yn siŵr na fydd eich arwyddion yn drysu pobl eraill. Er enghraifft, os oes ffordd yn troi i’r ochr a’ch bod chi am stopio yn nes ymlaen, peidiwch â rhoi arwydd hyd nes eich bod wedi pasio’r troad. Os ydych yn rhoi arwydd cyn y troad, fe allai hynny roi’r argraff eich bod yn bwriadu troi i’r ffordd. Bydd goleuadau eich brêcs yn rhybuddio traffig y tu ôl i chi eich bod yn arafu
  • defnyddio arwydd braich i bwysleisio neu atgyfnerthu eich arwydd os bydd angen. Cofiwch nad yw rhoi arwydd yn golygu eich bod yn cael blaenoriaeth

104

Hefyd dylech

  • wylio am arwyddion sy’n cael eu rhoi gan ddefnyddwyr eraill y ffordd a dim ond pan ydych yn fodlon ei bod yn saff i chi wneud hynny y dylech fynd ymlaen
  • bod yn ymwybodol y gall cyfeiriwr ar gerbyd arall fod heb gael ei ddiffodd

105

RHAID i chi ufuddhau i arwyddion a roddir gan swyddogion yr heddlu, swyddogion a wardeiniaid traffig (gweler tudalennau 104-105) ac arwyddion sy’n cael eu defnyddio gan reolwyr croesfannau ysgol.

[Cyfreithiau RTRA adran 28, RTA 1988 adran 35, TMA 2004 adran 6, a FTWO erthygl 3]

106

Trefniadau stopio’r heddlu. Os yw’r heddlu am stopio eich cerbyd, byddant yn tynnu eich sylw, lle bo’n posibl, drwy

  • fflachio goleuadau glas neu brif oleuadau neu drwy ganu seiren neu gorn, fel arfer o’r tu ôl i chi
  • eich cyfarwyddo i dynnu i’r ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r cyfeiriwr chwith

RHAID i chi wedyn dynnu i mewn a stopio cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny. Yna, diffoddwch yr injan.

[Cyfraith RTA 1988 adran 163]

Trefniadau stopio eraill

107

Mae gan Swyddogion yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) bwerau i stopio cerbydau ar bob ffordd, gan gynnwys traffyrdd a chefnffyrdd, yng Nghymru a Lloegr. Byddant yn tynnu eich sylw drwy fflachio goleuadau ambr

  • naill ai o’r tu blaen i chi yn gofyn i chi eu dilyn a stopio mewn man diogel
  • neu o’r tu ôl yn eich cyfarwyddo i dynnu i’r ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r cyfeiriwr chwith.

Mae’n drosedd i beidio â chydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. RHAID i chi ufuddhau i unrhyw arwyddion a roddir (gweler 'Arwyddion gan bersonau ag awdurdod').

[Cyfreithiau RTA 1988, adran 67, a PRA 2002, adran 41 ac atodlen 5(8)]

108

Mae gan Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd bwerau i stopio cerbydau ar y rhan fwyaf o draffyrdd a rhai ffyrdd dosbarth ‘A’ yn Lloegr yn unig. Os yw swyddogion traffig mewn lifrai’r Asiantaeth Priffyrdd am stopio eich cerbyd am resymau diogelwch (e.e. oherwydd llwyth anniogel), byddant yn tynnu eich sylw, lle bo’n bosibl, drwy

  • fflachio goleuadau ambr, fel arfer o’r tu ôl
  • eich cyfarwyddo i dynnu i’r ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r cyfeiriwr chwith

RHAID i chi wedyn dynnu i mewn a stopio cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud hynny. Yna, diffoddwch yr injan. Mae’n drosedd i beidio â chydymffurfio â’u cyfarwyddiadau (gweler 'Arwyddion gan bersonau ag awdurdod').

[Cyfraith RTA1988, adrannau 35 a163 fel y’i diwygiwyd gan TMA 2004, adran 6]

109

Signalau goleuadau traffig ac arwyddion traffig. RHAID ufuddhau i’r holl signalau goleuadau traffig (gweler 'Signalau goleuadau sy’n rheoli traffig') ac arwyddion traffig sy’n rhoi gorchmynion, yn cynnwys arwyddion a signalau dros dro (gweler 'Arwyddion traffig sy’n rhoi gorchmynion', 'Arwyddion rhybudd', 'Arwyddion ffordd'). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod, yn deall ac yn gweithredu ar bob arwydd traffig a gwybodaeth arall a marciau ar y ffordd (gweler 'Arwyddion traffig sy’n rhoi gorchmynion', 'Arwyddion rhybudd', 'Arwyddion ffordd', 'Arwyddion gwybodaeth', 'Marciau ar y ffordd', 'Marciau ar gerbydau').

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10, 15, 16, 25, 26, 27, 28, 29, 36, 38 a 40]

110

Fflachio prif oleuadau. Dim ond i roi gwybod i ddefnyddwyr eraill y ffordd eich bod yno y dylech fflachio’ch prif oleuadau. Peidiwch â fflachio’ch prif oleuadau i gyfleu unrhyw neges arall nac i herio defnyddwyr eraill y ffordd.

111

Peidiwch â rhagdybio bod rhywun yn fflachio eu golau yn wahoddiad i chi fynd yn eich blaen. Penderfynwch drosoch eich hun yna gyrrwch ymlaen yn ddiogel.

112

Y corn. Dim ond pan fydd eich cerbyd yn symud a bod angen i chi rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd eich bod yno y dylech ddefnyddio’r corn. Peidiwch byth â chanu eich corn yn ymosodol. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio eich corn

  • pan ydych yn sefyll yn eich unfan ar y ffordd
  • wrth yrru drwy ardal adeiledig rhwng 11.30 pm a 7.00 am ac eithrio pan fydd defnyddiwr arall y ffordd yn peri perygl.

[Cyfraith CUR rheoliad 99]

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU