Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.
Mae’r rhestr isod i’w gweld ar ffurf byrfoddau ledled y Rheolau. Nid yw wedi’i bwriadu i fod yn arweiniad cynhwysfawr ond, yn hytrach, fel canllaw i rai o bwyntiau pwysig y gyfraith. I gael union eiriad y gyfraith, dylid cyfeirio at y gwahanol Ddeddfau a’r Rheoliadau (fel y’u diwygiwyd) a nodir yn y Rheolau. Rhestrir y byrfoddau ar y dudalen ganlynol.
Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn berthnasol i bob ffordd ar hyd a lled Prydain Fawr, er bod rhai eithriadau. Y diffiniad o ffordd yng Nghymru a Lloegr yw ‘unrhyw ffordd fawr ac unrhyw ffordd arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddi gan gynnwys pontydd y bydd ffordd yn mynd drostynt’ (RTA 1988 adran 192(1)). Yn yr Alban ceir diffiniad tebyg sydd wedi ei ehangu i gynnwys unrhyw ffordd lle mae gan y cyhoedd hawl tramwy (R(S)A 1984 adran 151(1)).
Mae’n bwysig nodi fod cyfeiriadau at ‘ffordd’, felly, yn gyffredinol yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffyl a llwybrau beiciau a llawer iawn o ffyrdd a rhodfeydd ar dir preifat (yn cynnwys llawer iawn o feysydd parcio). Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gyfraith yn berthnasol iddynt a gallai fod rheolau ychwanegol ar gyfer llwybrau neu ffyrdd arbennig. Mae rhai troseddau gyrru difrifol, yn cynnwys yfed a gyrru, yn berthnasol i bob man cyhoeddus, er enghraifft meysydd parcio cyhoeddus.
Gallwch weld deddfau a rheoliadau ers 1988 ar wefan deddfwriaeth y DU. Dim ond yn eu fformat print gwreiddiol y mae deddfau a rheoliadau cyn 1988 ar gael ond fe ellir gael copïau ohonynt gan y Llyfrfa. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â wefan y Llyfrfa.
Ddeddf Cleifion Cronig a Phobl Anabl 1970 [CSDPA]
Gorchymyn Swyddogaethau Wardeiniaid Traffig 1970 [FTWO]
Deddf Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1974 [GL(GP)A]
Deddf Priffyrdd 1835 neu 1980 (fel a nodir) [HA]
Rheoliadau Beiciau Modur (Helmedau Amddiffyn) 1980 [MC(PH)R]
Rheoliadau Traffig ar Draffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982 [MT(E&W)R]
Rheoliadau Diwygiedig Traffig ar Draffyrdd (Cymru a Lloegr) [MT(E&W)(A)R]
Rheoliadau Beiciau (Gwneuthuriad a Defnydd) 1983 [PCUR]
Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981 [PPVA]
Deddf Traffig y Ffyrdd 1984, 1988 neu 1991 (fel a nodir) [RTA]
Deddf Rheoliad Traffig y Ffyrdd 1984 [RTRA]
Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 [CUR]
Deddf Ffyrdd (Yr Alban) 1984 [R(S)A]
* Ceir ddedfwriaeth benodol sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau sy’n gyfystyr â mannau gwaith. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r dolenni isod:
Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd
Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.