Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cosbau

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Y senedd sydd yn gosod y cosbau uchaf ar gyfer troseddau traffig. Mae difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y gosb uchaf. Y llysoedd sydd i benderfynu pa gosb i’w rhoi yn unol â’r amgylchiadau.

Mae’r tabl cosbau ar dudalen 126 yn dangos rhai o’r prif droseddau a’r cosbau cysylltiedig. Ceir amrediad eang o droseddau eraill, mwy penodol, nad ydynt, er mwyn symlrwydd, yn cael eu dangos yma. Disgrifir y pwyntiau cosb a’r system wahardd isod.

Pwyntiau cosb a gwahardd

Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag dilyn arferion moduro anniogel. Gallwch gael pwyntiau cosb am rai troseddau nad ydynt yn ymwneud â moduro e.e. methu â thrwsio nam ar y cerbyd. RHAID i’r llys orchymyn i bwyntiau gael eu harnodi ar y drwydded yn unol â’r nifer penodedig neu’r ystod a bennwyd gan y Senedd. Mae casglu pwyntiau’n rhybuddio gyrwyr a beicwyr modur bod perygl iddynt gael eu gwahardd os byddant yn cyflawni rhagor o droseddau.

[Cyfraith RTOA adrannau 44 a 45]

RHAID i yrrwr neu feiciwr modur sy’n casglu 12 neu ragor o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o dair blynedd gael ei wahardd. Cyfnod byrraf y gwaharddiad fydd chwe mis, neu’n hirach os yw’r gyrrwr neu’r beiciwr modur wedi’i wahardd o’r blaen.

[Cyfraith RTOA adran 35]

Am bob trosedd sy’n cario pwyntiau cosb, mae gan y llys rym dewisol i orchymyn bod deiliad y drwydded yn cael ei wahardd. Gall hyn fod am unrhyw gyfnod sy’n briodol ym marn y llys ond, gan amlaf, bydd yn para rhwng wythnos ac ychydig fisoedd.

Yn achos troseddau difrifol, megis gyrru’n beryglus ac yfed a gyrru RHAID i’r llys orchymyn gwahardd. Y cyfnod byrraf yw 12 mis, ond i’r rheini sy’n aildroseddu neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd yfed a gyrru o fewn cyfnod o 10 mlynedd yn arwain at isafswm o dair blynedd o waharddiad.

[Cyfraith RTOA adran 34]

Nodir os gwelwch yn dda mai cosbau uchaf yw'r cosbau y rhestrir dan 'Carchar', 'Dirwy' a 'Gwahardd'.

Trosedd

Carchar

Dirwy

Gwahardd

Pwyntiau Cosb

*Achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus

14 mlynedd

Diderfyn

Gorfodol - 2 flynedd o leiaf

3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad)

*Gyrru’n beryglus

2 flynedd

Diderfyn

Gorfodol

3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad)

*Achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad y ddiod neu gyffuriau

14 mlynedd

Diderfyn

Gorfodol - 2 flynedd o leiaf

3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad)

Gyrru’n ddiofal neu heb ystyriaeth

-

£5,000

Dewisol

3-9

Gyrru a chithau’n anabl i wneud hynny oherwydd y ddiod neu gyffuriau neu oherwydd gormodedd o alcohol; neu fethu â rhoi sbesimen i’w ddadansoddi

6 mis

£5,000

Gorfodol

3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad)

Peidio â stopio ar ôl damwain neu beidio â rhoi gwybod am ddamwain

6 mis

£5,000

Dewisol

5-10

Gyrru ar ôl cael eich gwahardd

6 mis (12 mis yn yr Alban)

£5,000

Dewisol

6

Gyrru ar ôl i drwydded gael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl am resymau meddygol

6 mis

£5,000

Dewisol

3-6

Gyrru heb yswiriant

£5,000

Dewisol

6-8

Defnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus

-

LGV £5,000

PCV £5,000

Arall £2,500

Yn ôl disgresiwn ym mhob achos

3 ym mhob achos

Peidio â rheoli cerbyd yn gywir neu gael golwg llawn o'r ffordd a'r traffig sydd o'ch blaen, neu ddefnyddio ffôn symudol sy’n cael ei ddal â llaw wrth yrru

-

£1,000 (£2,500 am PCV neu gerbyd nwyddau)

Dewisol

3

Gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â’r drwydded

-

£1,000

Dewisol

3-6

Goryrru

-

£1,000 (£2,500 am droseddau ar y draffordd)

Dewisol

3-6 neu 3 (cosb benodedig)

Troseddau goleuadau traffig

-

£1,000

Dewisol

3

Dim tystysgrif MOT

-

£1,000

-

Troseddau gwregysau diogelwch

-

£500

-

Beicio’n beryglus

-

£2,500

-

Beicio’n ddiofal

-

£1,000

-

Beicio ar y palmant

-

£500

-

Peidio ag enwi gyrrwr cerbyd

-

£1,000

Dewisol

6

* Pan fydd llys yn gwahardd person ar ôl ei euogfarnu am un o’r troseddau hyn, rhaid iddo orchymyn ail brawf estynedig. Hefyd, mae gan y llysoedd ddisgresiwn i orchymyn ail brawf am unrhyw drosedd arall sy’n dwyn pwyntiau cosb; yn achos gwaharddiad gorfodol rhaid sefyll ail brawf estynedig, a phrawf arferol pan nad yw’r gwaharddiad yn orfodol.

Ar ben hynny, mewn rhai achosion difrifol, RHAID i’r llys (yn ogystal â phennu cyfnod gwahardd penodedig) orchymyn bod y troseddwr yn cael ei wahardd nes bydd yn pasio prawf gyrru. Mewn achosion eraill, mae gan y llys rym dewisol i orchymyn gwaharddiad o’r fath. Gall y prawf fod yn brawf o hyd arferol neu’n brawf estynedig, yn dibynnu ar natur y drosedd.

[Cyfraith RTOA adran 36]

Gyrwyr newydd. Mae rheolau arbennig, fel a nodir isod, mewn grym am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad pasio’r prawf gyrru cyntaf ar gyfer

  • gyrwyr a beicwyr modur o’r DU, UE/AEE, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu Gibraltar a basiodd eu prawf gyrru cyntaf yn unrhyw un o’r gwyledydd hynny
  • gyrwyr a beicwyr modur o wledydd tramor eraill sy’n gorfod pasio prawf gyrru y DU i gael trwydded y DU, ac yn yr achos hwnnw y prawf gyrru DU a ystyrir fel eu prawf gyrru cyntaf; a
  • gyrwyr a beicwyr modur o wledydd tramor eraill sydd wedi cyfnewid (heb orfod sefyll prawf) eu trwydded wreiddiol am drwydded y DU ac wedyn wedi pasio prawf gyrru yn y DU i yrru math arall o gerbyd, ac yn yr achos hwnnw y prawf gyrru DU a ystyrir fel eu prawf gyrru cyntaf. Er enghraifft, bydd y rheolau arbennig yn berthnasol i yrrwr a gyfnewidiodd trwydded (car) o wlad dramor am drwydded (car) y DU ac sydd wedyn yn pasio prawf gyrru i yrru math arall o gerbyd (e.e. cerbyd nwyddau mawr – HGV)

Os yw person sy’n destun y rheolau arbennig yn casglu chwech neu fwy o bwyntiau cosb cyn diwedd y cyfnod dwy flynedd (gan gynnwys unrhyw bwyntiau a gafwyd cyn pasio’r prawf), caiff y drwydded ei diddymu’n awtomatig. I adennill y drwydded, rhaid iddynt ailymgeisio am drwydded dros dro a dim ond hawliau dysgwr sydd ganddynt i yrru hyd nes eu bod yn pasio prawf gyrru pellach (gweler hefyd 'Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd').

[Cyfraith RT(ND)A]

Nodyn. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydynt yn talu am eu troseddau drwy gosb benodedig. Nid yw’r rheolau arbennig yn effeithio ar yrwyr yn y grŵp cyntaf (y DU, UE/AEE ayb.) sydd â thrwydded lawn ar gyfer un math o gerbyd yn barod ac wedyn yn pasio prawf i yrru math arall o gerbyd.

Canlyniadau eraill troseddu

Lle ceir trosedd y mae modd ei chosbi drwy garcharu, gall y cerbyd a gafodd ei ddefnyddio i gyflawni’r drosedd gael ei atafaelu.

[CyfraithPCC(S)A, adran 143]

Yn ychwanegol at y cosbau y gall llys benderfynu eu dyfarnu, mae cost yswiriant yn debygol o godi’n sylweddol yn dilyn euogfarn am drosedd yrru ddifrifol. Y rheswm am hyn yw bod cwmnïau yswiriant yn credu bod gyrwyr o’r fath yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.

Rhaid i’r mathau canlynol o yrwyr fodloni Cangen Feddygol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad oes ganddynt broblem alcohol:

  • gyrwyr sy’n cael eu gwahardd yn sgil yfed a gyrru ddwywaith o fewn 10 mlynedd
  • gyrwyr sy’n cael eu gwahardd unwaith os ydynt dros ddwywaith a hanner dros y cyfyngiad cyfreithiol
  • gyrwyr sy’n gwrthod rhoi sbesimen

Hefyd efallai y bydd yn rhaid iddynt brofi eu bod nhw’n abl i yrru cyn y caiff eu trwydded ei dychwelyd ar ddiwedd y cyfnod gwahardd. Gall camddefnyddio mynych ar gyffuriau neu alcohol arwain at dynnu trwydded gyrrwr oddi arno.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU