Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynnal a chadw cerbyd, diogelwch a diogelu

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Cynnal a chadw cerbyd

Cymerwch ofal arbennig fod y goleuadau, y brêcs, y llywio, system yr egsôst, gwregysau diogelwch, di-niwlwyr, sychwyr a golchwyr ffenestri i gyd yn gweithio. Hefyd

  • RHAID i oleuadau, cyfeirwyr, adlewyrchyddion a phlatiau rhif gael eu cadw’n lân ac yn glir
  • RHAID i’r ffenestr flaen a phob ffenestr arall gael ei chadw’n lân ac yn rhydd o unrhyw beth a allai eich rhwystro rhag gweld
  • RHAID addasu’r goleuadau’n gywir fel nad ydynt yn dallu defnyddwyr eraill y ffordd. Rhaid rhoi sylw arbennig i hyn pan fydd y cerbyd wedi’i lwytho’n drwm
  • RHAID i allyriannau’r egsôst BEIDIO â bod yn uwch na’r lefelau penodedig
  • gwnewch yn siŵr fod eich sedd, eich gwregys diogelwch, yr atalydd pen a’r drychau wedi’u haddasu’n gywir cyn i chi yrru
  • gwnewch yn siŵr fod bagiau ac ati yn cael eu cadw’n ddiogel

[Cyfreithiau RVLR 1989 rheoliadau 23 a 27 a CUR 1986, rheoliadau 30 a 61]

Dangosyddion rhybuddio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall ystyr yr holl ddangosyddion rhybuddio ar ddangosfwrdd y cerbyd. Peidiwch ag anwybyddu arwyddion rhybuddio. Gallent ddangos bod nam peryglus yn datblygu.

  • Wrth droi’r allwedd danio, bydd goleuadau rhybuddio yn ymddangos ond byddant yn diffodd pan fydd yr injan yn tanio (ac eithrio golau rhybuddio y brêc llaw). Os na fyddant yn diffodd neu os dônt ymlaen tra’r ydych yn gyrru, stopiwch ac edrychwch i weld beth yw’r broblem oherwydd gallai fod gennych nam difrifol
  • Os daw’r golau gwefru ymlaen tra’r ydych yn gyrru, gallai olygu nad yw’r batri yn cael ei wefru. Rhaid ymchwilio i hyn hefyd cyn gynted â phosibl i osgoi colli pŵer i’r goleuadau a systemau trydanol eraill

Ffenestri wedi’u tintio. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio cerbyd gyda sgrin wynt neu wydr mewn unrhyw ffenestr flaen, y naill ochr i’r gyrrwr a’r llall, sydd wedi’u tintio’n dywyll iawn. Os gosodwyd tint ar ffenestri pan gynhyrchwyd y cerbyd yna mae’n cydymffurfio a’r safonau Trawsyrru Golau Gweledol (Visual Light Transmittance). Nid oes cyfyngiadau VLT ar gyfer y sgrin wynt ôl na ffenestri teithwyr yn y seddi ôl.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 42 a CUR rheoliad 32]

Teiars. RHAID i olwynion gael eu pwmpio i’r lefel gywir yn ôl manyleb gwneuthurwr y cerbyd ar gyfer y llwyth sy’n cael ei gario. Cyfeiriwch at lawlyfr y cerbyd neu’r data amdano. Dylent hefyd fod yn rhydd o rai toriadau a namau eraill.

RHAID i geir, faniau ysgafn ac ôl-gerbydau ysgafn fod â thrwch gwadn o 1.6 mm o leiaf ar draws tri chwarter canol lled y gwadn ac o gwmpas y teiar i gyd.

RHAID i feiciau modur, cerbydau mawr a cherbydau sy’n cario teithwyr fod â thrwch gwadn o 1 mm o leiaf ar draws tri chwarter lled y gwadn ac mewn bandyn di-dor o gwmpas y teiar i gyd.

Dylai fod gan fopedau wadn gweladwy.

Cofiwch y gall rhai namau ar y cerbyd arwain at bwyntiau cosb.

[Cyfraith CUR rheoliad 27]

Os bydd teiar yn byrstio tra’r ydych yn gyrru, ceisiwch gadw rheolaeth ar eich cerbyd. Gafaelwch yn y llyw yn dynn gan adael i’r cerbyd arafu a stopio ohono’i hun ar ochr y ffordd.

Os oes gennych deiar fflat, stopiwch cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Dim ond os gallwch wneud hynny heb eich rhoi’ch hun nac eraill mewn perygl y dylech newid teiar - fel arall galwch am wasanaeth torri lawr.

Gwasgedd teiars. Gwiriwch yn wythnosol. Gwnewch hyn cyn eich siwrnai, pan fydd y teiar yn oer. Gall teiars cynnes neu boeth roi darlleniad camarweiniol.

Bydd teiars sydd heb eu pwmpio’n ddigonol neu sydd wedi’u pwmpio’n ormodol yn effeithio’n andwyol ar eich brêcs a’r llywio. Gall traul eithriadol neu anwastad gael ei achosi gan namau yn y systemau brecio neu hongiad neu gan olwynion sydd allan ohoni. Gwnewch yn siŵr fod y diffygion hyn yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl.

Lefelau hylif. Gwiriwch y lefelau hylif yn eich cerbyd o leiaf unwaith yr wythnos. Gall lefel hylif brecio isel wneud i’r brêcs fethu a gallech gael gwrthdrawiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa oleuadau sy’n rhybuddio am lefelau hylif isel os oes rhai ar eich cerbyd.

Cyn y gaeaf. Gwnewch yn siŵr fod y batri’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda a bod deunydd gwrthrewi addas yn eich rheiddiadur a photel y ffenestr flaen.

Problemau eraill. Os yw eich cerbyd

  • yn tynnu tua’r ochr wrth frecio, y peth mwyaf tebygol yw bod nam ar y brêc neu nad yw’r teiars wedi’u pwmpio’n iawn. Dylech ymgynghori â modurdy neu fecanig ar unwaith
  • yn dal i fownsio ar ôl gwasgu i lawr ar y pen blaen neu’r cefn, mae’r sioc laddwyr wedi treulio. Gall sioc laddwyr sydd wedi treulio effeithio’n ddifrifol ar gerbyd a dylai rhai newydd gael eu gosod
  • ag unrhyw aroglau anarferol arno megis rwber yn llosgi, petrol, neu losgi trydanol dylech geisio gweld beth sy’n achosi’r aroglau ar unwaith. Gwyliwch rhag cael tân

Injan yn gorboethi neu ar dân. Dŵr sy’n oeri’r rhan fwyaf o injans. Os bydd eich injan yn gorboethi, dylech aros nes bydd wedi oeri’n naturiol. Dim ond wedyn y dylech dynnu caead y llestr dal oerydd ac ychwanegu dŵr neu oerydd arall.

Os aiff eich cerbyd ar dân, dylech gael pawb allan o’r cerbyd yn gyflym ac i le diogel. Peidiwch â cheisio diffodd tân yn yr injan, oherwydd gallai agor y bonet wneud i’r tân chwyddo’n fflamau. Galwch y frigâd dân.

Gorsafoedd petrol/tanc tanwydd/gollyngiadau tanwydd. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw danwydd yn gollwng ar gwrt blaen y garej wrth lenwi tanc eich cerbyd neu unrhyw ganiau tanwydd rydych yn eu cario. Dylech ddweud wrth weithiwr yn yr orsaf betrol yn syth os oes unrhyw danwydd wedi gollwng. Mae disel sydd wedi gollwng yn beryglus i ddefnyddwyr ffordd eraill, yn enwedig beicwyr modur, oherwydd mae’n lleihau’n sylweddol faint o grip sydd rhwng y teiars ac arwyneb y ffordd. Gwnewch yn hollol siŵr nad oes dim tanwydd wedi gollwng a sicrhewch hefyd

  • nad ydych yn gorlenwi eich tanc tanwydd
  • bod caead eich tanc tanwydd wedi’i gau’n ddiogel
  • nad yw’r sêl yn y cap wedi rhwygo, wedi treulio neu ar goll
  • nad oes difrod gweledol i’r cap na’r tanc tanwydd

Os ydych yn gosod cap tanwydd dros dro, dylai ffurfio sêl dda.

Peidiwch byth ag ysmygu na defnyddio ffôn symudol ar gwrt gorsafoedd petrol gan fod hynny’n creu perygl mawr o dân a gallai achosi ffrwydrad.

Diogelu cerbydau

Pan fyddwch yn gadael eich cerbyd dylech

  • dynnu’r allwedd o’r injan a chloi’r llyw
  • cloi’r car, hyd yn oed os mai am ychydig funudau yn unig yr ydych yn ei adael
  • cau’r ffenestri’n dynn
  • peidio byth â gadael plant nac anifeiliaid mewn car diawyr
  • mynd ag unrhywbeth sydd yn y cerbyd gyda chi, neu eu cloi yn y gist. Cofiwch, hyd y gŵyr lleidr, gallai rhywbeth gwerthfawr fod mewn bag plastig
  • peidiwch byth â gadael dogfennau’r cerbyd yn y car

I ddiogelu eich cerbyd ymhellach dylech osod dyfais atal lladrad, megis lawrm neu lonyddwr. Os ydych yn prynu car newydd, mae’n syniad da mynnu gwybod faint o nodweddion diogelu sydd wedi’u hymgorffori ynddo. Ystyriwch gael y rhif cofrestru wedi’i engrafu ar holl ffenestri’r car. Mae hon yn ffordd rad ac effeithiol o atal lladron proffesiynol.

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU