Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth cyntaf ar y ffordd

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Os digwydd rhywbeth, gallwch wneud nifer o bethau i helpu, hyd yn oed os nad ydych wedi cael unrhyw hyfforddiant.

1. Deliwch â pherygl

Gwrthdrawiadau pellach a thân yw’r prif beryglon yn dilyn gwrthdrawiad. Ewch at unrhyw gerbyd sy’n rhan o’r digwyddiad gyda gofal. Diffoddwch bob injan ac, os yn bosibl, rhybuddiwch draffig arall. Stopiwch unrhyw un rhag ysmygu.

2. Ceisiwch gymorth gan eraill

Ceisiwch gael cymorth gan bobl sydd gerllaw. Gofynnwch i rywun alw’r gwasanaethau brys priodol cyn gynted â phosibl. Bydd angen iddynt wybod union leoliad y digwyddiad a’r nifer o gerbydau fu’n gysylltiedig â hi.

3. Helpwch y rhai oedd yn y digwyddiad

PEIDIWCH â symud pobl sydd wedi’u hanafu ac sy’n dal yn eu cerbydau oni bai bod posibilrwydd o berygl pellach iddynt. PEIDIWCH â thynnu helmed beiciwr modur oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Cofiwch y gallai’r person sydd wedi’i anafu fod yn dioddef o sioc. PEIDIWCH â rhoi unrhyw beth i’w yfed na’i fwyta iddynt. CEISIWCH ei gadw’n gynnes ac mor gyfforddus ag y gallwch, ond gan osgoi unrhyw symud diangen. CEISIWCH gysuro’r claf mewn ffordd hyderus a cheisiwch beidio â’i adael ar ei ben ei hun neu i grwydro allan i lwybr traffig arall.

4. Darparwch ofal brys

Cofiwch y llythrennau DR A B C:

D am Danger - gwnewch yn siŵr nad ydych mewn perygl
R am Response - ceisiwch gael y person i ymateb drwy ofyn cwestiynau iddo ac ysgwyd ei ysgwyddau’n dyner
A am Airway - dylid cadw’r bibell wynt yn glir ac yn agored. Rhowch un llaw ar dalcen y person, dau fys o dan ei ên a gwyrwch ei ben yn ôl yn dyner
B am Breathing - dylid sicrhau bod y person yn anadlu’n normal. Ar ôl sicrhau bod y bibell wynt yn agored, sefwch am ddeg eiliad i weld a yw’n anadlu
C am Compressions - os nad yw’n anadlu’n normal, dylech ddechrau gywasgu ei frest er mwyn cynnal y cylchrediad; rhowch eich dwy law yng nghanol ei frest a gwthiwch i lawr 4-5cm ar gyfradd o 100 y funud. Efallai mai dim ond un law fydd angen i chi ei defnyddio ar blentyn. Pwyswch ar y frest 30 o weithiau. Yna, gwyrwch y pen yn ôl yn dyner, pinsiwch ffroenau’r person sydd wedi’i anafu a rhowch eich ceg dros ei geg. Rhowch ddau anadliad, bob un yn para un eiliad (peidiwch ag anadlu mor gryf i blentyn bach).

Os yw’r claf yn anymwybodol ond yn anadlu, rhowch ef yn yr ystum adferol (recovery position) hyd nes bydd cymorth neddygol yn cyrraedd

Gwaedu

Y peth cyntaf ddylech chi ei wneud yw sicrhau nad oes dim byd yn y clwyf, megis gwydr. Os nad oes dim byd yn sownd yn y clwyf, pwyswch yn gadarn dros y clwyf. Byddwch yn ofalus nad ydych yn pwyso ar y gwrthrych - ceisiwch roi padin bob ochr iddo. Glynwch bad dros y clwyf a’i ddal yno gyda rhwymyn neu ddarn o ddefnydd. Defnyddiwch y defnydd glanaf sydd wrth law. Os yw braich neu goes yn gwaedu, ond nid yw wedi torri, codwch ef yn uwch na lefel y galon i leihau llif y gwaed. Os yw cylchrediad y gwaed yn cael ei gyfyngu am fwy na chyfnod byr iawn, gall arwain at anafiadau tymor hir.

Llosgiadau

Ceisiwch dynnu’r gwres o losgiad drwy ei drochi mewn dŵr glân ac oer neu mewn hylif diwenwyn tebyg am o leiaf 10 munud. Peidiwch â cheisio tynnu unrhyw beth sy’n glynu wrth y fan sydd wedi llosgi.

5. Byddwch yn barod

Dylech gario pecyn cymorth cyntaf bob amser. Gallech arbed bywyd drwy ddysgu cymorth brys a chymorth cyntaf gan gymdeithas gymwysedig, megis y gwasanaeth ambiwlans lleol:


• Cymdeithas a Brigâd Ambiwlans Sant Ioan
• Cymdeithas Ambiwlans Sant Andreas
• y Groes Goch Brydeinig


neu unrhyw gorff cymwysedig addas (gweler 'Gwybodaeth arall' am fanylion cyswllt).

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU