Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Ar ôl i chi basio’r prawf gyrru byddwch yn gallu gyrru ar eich pen eich hun. Bydd hyn yn esgor ar lawer o gyfleoedd, ond rhaid i chi aros yn ddiogel. Er eich bod wedi profi bod gennych chi’r sgiliau angenrheidiol i yrru’n ddiogel, ychydig iawn o brofiad sydd gan y rhan fwyaf o yrwyr sydd newydd basio. Mae angen i chi barhau i loywi eich sgiliau, yn enwedig rhagweld symudiadau defnyddwyr eraill y ffordd er mwyn osgoi gwrthdrawiadau. Mae cymaint ag un gyrrwr newydd ym mhob pump yn cael rhyw fath o wrthdrawiad yn ystod eu blwyddyn gyntaf y tu ôl i’r llyw. Mae’r cod hwn yn rhoi cyngor i’ch helpu drwy’r deuddeg mis cyntaf ar ôl pasio’r prawf (pan ydych fwyaf agored i niwed) mor ddiogel â phosib.

  • Mae llawer o’r gwrthdrawiadau gwaethaf yn digwydd yn y nos. Mae’r cyfnod rhwng hanner nos a 6am yn adeg o risg uchel i yrwyr newydd. Ceisiwch osgoi gyrru ar yr adeg honno oni bai ei fod yn angenrheidiol
  • Os ydych chi’n cario teithwyr, chi sy’n gyfrifol am eu diogelwch. Peidiwch â gadael iddynt dynnu eich sylw na’ch annog i gymryd risg. Dywedwch wrth y teithwyr bod rhaid i chi ganolbwyntio os ydynt am gyrraedd pen y daith yn ddiogel
  • Peidiwch byth â dangos eich hun na cheisio cystadlu gyda gyrwyr eraill, yn enwedig os ydyn nhw’n gyrru’n wael
  • Peidiwch â gyrru os ydych chi wedi yfed alcohol neu wedi cymryd cyffuriau. Mae hyd yn oed meddyginiaethau dros-y-cownter yn gallu effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel - darllenwch y label i weld a allai effeithio ar eich gyrru
  • Gwnewch yn siŵr bod pob un yn y car yn gwisgo gwregys diogelwch drwy’r amser
  • Pwyllwch - mae llawer o wrthdrawiadau difrifol yn digwydd oherwydd bod y gyrrwr yn colli rheolaeth, yn enwedig ar gorneli
  • Nid oes gan y rhan fwyaf o yrwyr newydd brofiad o yrru ceir pwerus neu gyflym. Oni bai eich bod wedi dysgu gyrru mewn cerbyd o’r fath, dylech fagu digon o brofiad o yrru ar eich pen eich hun cyn gyrru car mwy pwerus
  • Mae gyrru heb yswiriant yn drosedd. Gweler 'Dogfennau cerbydau modur a’r gofynion o ran gyrwyr sy’n dysgu' am wybodaeth ar fathau o warchodaeth yswiriant

COFIWCH dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd, os ydych chi’n cael chwe phwynt cosb ar eich trwydded cyn pen dwy flynedd o basio eich prawf gyrru cyntaf, yna bydd eich trwydded yn cael ei diddymu. Bydd gofyn i chi basio’r profion theori ac ymarferol eto i gael eich trwydded lawn yn ôl.

Dylech ystyried gael rhagor o hyfforddiant, er enghraifft Pass Plus sy’n eich helpu i leihau’r perygl o fod mewn gwrthdrawiad, ac fe all hefyd arbed arian i chi ar eich yswiriant.

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU