Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dogfennau cerbydau modur a’r gofynion o ran gyrwyr sy’n dysgu

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Dogfennau

Trwydded yrru. RHAID bod gennych drwydded yrru ddilys ar gyfer y categori o gerbyd modur yr ydych yn ei yrru. RHAID i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os newidiwch eich enw neu’ch cyfeiriad.

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 87 a 99(4)]

Gall deiliaid trwyddedau o wledydd o’r tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd, sydd bellach yn byw yn y DU, ddim ond cael gyrru ar y drwydded honno am uchafswm o 12 mis o’r dyddiad y maent yn dod yn breswylwyr yn y wlad hon.

Er mwyn sicrhau bod ganddynt hawl barhaus i yrru

  • rhaid cael trwydded Brydeinig dros dro a phasio prawf/profion gyrru cyn i’r cyfnod o 12 mis ddod i ben, neu
  • yn achos gyrrwr sy’n dal trwydded o wlad gymwys yn ôl y gyfraith at ddibenion cyfnewid trwydded, dylai’r gyrrwr gyfnewid y drwydded am un Brydeinig

Tystysgrif MOT. Fel arfer, RHAID i geir a beiciau modur basio prawf MOT dair blynedd o ddyddiad cyntaf eu cofrestru a bob blwyddyn ar ôl hynny. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru cerbyd modur heb dystysgrif MOT pan ddylai fod un gennych. Fel eithriad, gallwch yrru i apwyntiad prawf a drefnwyd ymlaen llaw neu i fodurdy ar gyfer gwaith atgyweirio sy’n ofynnol fel rhan o’r prawf. Gall gyrru cerbyd modur nad yw’n addas i’r ffordd fawr wneud eich yswiriant yn annilys.

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 45, 47, 49 a 53]

Yswiriant. RHAID bod gennych bolisi yswiriant dilys er mwyn defnyddio cerbyd modur ar y ffordd. RHAID iddo eich gwarchod chi os ydych yn peri anaf neu ddifrod i drydydd parti wrth ddefnyddio’r cerbyd modur hwnnw. Cyn gyrru unrhyw gerbyd modur, gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei yswirio i’r pwrpas hwn ar eich cyfer, neu fod eich yswiriant chi eich hun yn eich yswirio’n ddigonol. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru cerbyd modur heb yswiriant. Hefyd dylech fod yn ymwybodol mewn digwyddiadau gyda thraffig ar y ffordd, hyd yn oed os nad chi sydd ar fai, y gall cwmnïau yswiriant eich dal yn atebol beth bynnag.

[Cyfraith RTA 1988 adran 143]

Bellach, gall gyrwyr heb yswiriant gael eu dal yn awtomatig gan gamerâu ar ochr y ffordd. Yn ogystal â’r cosbau a restrir ar dudalen 126 o ran gyrru heb yswiriant, bellach gall yr heddlu ddal gafael ar y cerbyd, ei gymryd oddi ar y troseddwr a’i ddinistrio.

[Cyfraith RTA 1988, adrannau 165a a 165b]

Nodir isod y mathau yswiriant sydd ar gael:

Yswiriant Trydydd Parti - fel arfer hwn yw’r math rhataf o yswiriant, a dyma’r lefel isaf o warcheidwaeth sy’n ofynnol dan y gyfraith. Mae’n gwarchod unrhyw un y gallech chi eu hanafu neu unrhyw eiddo y gallech chi ei ddifrodi. Nid yw’n cynnwys unrhyw ddifrod i’ch cerbyd modur nac anaf i chi’ch hun.

Yswiriant Trydydd Parti, Tân a Lladrad - yn debyg iawn i yswiriant trydydd parti, ond mae hwn hefyd yn eich gwarchod os yw’ch cerbyd yn cael ei ddwyn neu’n cael ei ddifrodi gan dân.

Yswiriant Cynhwysfawr - dyma’r math drutaf o yswiriant ond hwn yw’r un gorau. Yn ogystal â gwarchod eiddo a phobl eraill yn erbyn anaf neu ddifrod, mae hwn hefyd yn cynnwys unrhyw ddifrod i’ch cerbyd modur chi’ch hun, hyd at werth y cerbyd hwnnw ar y farchnad, ac unrhyw anaf personol i chi.

Tystysgrif gofrestru. Cyhoeddir dogfennau cofrestru (fe’u gelwir hefyd yn ddogfennau cofrestru cysoni) ar gyfer pob cerbyd a ddefnyddir ar y ffordd. Maent yn eu disgrifio (gwneuthuriad, model, ac ati) ac yn rhoi manylion am y ceidwad cofrestredig. RHAID i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe cyn gynted â phosib pan fyddwch yn prynu neu’n gwerthu cerbyd modur, neu os newidiwch eich enw neu’ch cyfeiriad. O ran tysystgrifau cofrestru a gyhoeddir ar ôl 27 Mawrth 1997, mae’r prynwr a’r gwerthwr yn gyfrifol am gwblhau’r tystysgrifau cofrestru. Y gwerthwr sy’n gyfrifol am eu gyrru ymlaen at y DVLA. Caiff y drefn ei hegluro ar gefn y tystysgrifau cofrestru.

[Cyfraith RV(R&L)R rheoliadau 21, 22, 23 a 24]

Treth Cerbyd. RHAID arddangos disg Treth Cerbyd dilys drwy’r amser ar bob cerbyd modur sy’n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffyrdd cyhoeddus. RHAID arddangos disg treth bob amser ar gerbydau modur sydd hyd yn oed wedi’u heithrio rhag treth.

[Cyfraith VERA adrannau 29 a 33]

Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS). Hysbysiad yw hwn i roi gwybod i DVLA nad yw cerbyd modur yn cael ei ddefnyddio ar y ffordd. Os mai chi yw ceidwad y cerbyd ac rydych yn dymuno cadw’r cerbyd modur heb dreth ac oddi ar ffordd gyhoeddus, RHAID i chi ddatgan HOS - mae’n drosedd peidio â gwneud hynny. Yna, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth ffordd ar gyfer y cerbyd hwnnw am gyfnod o 12 mis. Ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, bydd gofyn i chi anfon datganiad arall os yw’r cerbyd yn dal i gael ei gadw oddi ar ffordd gyhoeddus. Bydd yr HOS yn dod i ben os ydych yn gwerthu’r cerbyd, yna bydd y perchennog newydd yn dod yn gyfrifol amdano yn syth.

[Cyfraith RV(RL)R 2002, rheoliad 26 atodlen 4]

Cyflwyno dogfennau. RHAID i chi allu cyflwyno’ch trwydded yrru a phapur manylion y drwydded, tystysgrif yswiriant ddilys ac (os yw’n briodol) tystysgrif MOT ddilys pan ofynnir amdanynt gan swyddog heddlu. Os na allwch wneud hyn, mae’n bosibl y gofynnir i chi fynd â nhw i swyddfa heddlu o fewn saith diwrnod.

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 164 a 165]

Gyrwyr sy’n dysgu

RHAID i yrwyr sy’n dysgu gyrru car ddal trwydded dros dro ddilys. RHAID iddynt gael eu goruchwylio gan rywun sy’n o leiaf 21 oed ac sydd â thrwydded UE/EEA lawn ar gyfer y math hwnnw o gerbyd (awtomatig neu gêrs llaw), wedi’i dal am o leiaf dair blynedd.

[Cyfreithiau MV(DL)R rheoliad 16 a RTA 1988 adran 87]

Cerbydau. RHAID i unrhyw gerbyd a yrrir gan ddysgwyr ddangos platiau L coch. Yng Nghymru, gellir defnyddio un ai blatiau D coch, platiau L coch neu’r ddau. RHAID i’r platiau gydymffurfio â’r fanyleb gyfreithiol a RHAID iddynt fod i’w gweld yn glir gan bobl eraill o’r tu blaen i’r cerbyd a’r tu ôl iddo. Dylid tynnu’r platiau neu’u cuddio pan na fydd y cerbyd yn cael ei yrru gan ddysgwr (ac eithrio ar gerbydau ysgolion gyrru).

[Cyfraith MV(DL)R rheoliad 16 a atodlen 4]

RHAID i chi basio prawf theori (os gofynnir am un) ac yna prawf gyrru ymarferol ar gyfer y categori o gerbyd yr ydych am ei yrru cyn gyrru heb gwmni.

[Cyfraith MV(DL)R rheoliad 40]

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU