Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.
Os mai trwydded beic modur dros dro sydd gennych, RHAID i chi gwblhau cwrs Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol (HSG) yn llwyddiannus. Yna, gallwch fynd ar y ffordd gyhoeddus, gyda phlatiau D neu L, neu’r ddau (y tu allan i Gymru rhaid defnyddio platiau L), am hyd at ddwy flynedd. I gael eich trwydded beic modur lawn, RHAID i chi basio prawf theori beiciau modur ac yna, brawf ymarferol.
[Cyfraith MV(DL)R rheoliadau 16 a 68]
Os oes gennych drwydded car lawn cewch yrru beiciau modur hyd at 125 cc ac allbwn pŵer 11 kW gyda phlatiau D neu L (platiau L y tu allan i Gymru), ar ffyrdd cyhoeddus, ond RHAID yn gyntaf i chi gwblhau cwrs HSG yn foddhaol os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
[Cyfraith MV(DL)R rheoliad 43]
Os oes gennych drwydded moped lawn a’ch bod am gael hawl lawn i yrru beic modur, bydd gofyn i chi sefyll prawf theori beiciau modur os na wnaethoch sefyll prawf theori ar wahân pan gawsoch eich trwydded moped. Yna, RHAID i chi basio prawf ymarferol ar feic modur. Sylwch: os cwblhawyd HSG gennych ar gyfer y drwydded moped lawn, nid oes angen ei ailadrodd. Fodd bynnag, os gwnaethoch sefyll y prawf moped cyn 1/12/90, bydd rhaid cwblhau HSG cyn gyrru beic modur fel dysgwr.
[Cyfraith MV(DL)R rheoliadau 42(1) a 69(1)]
Trwydded beic modur ysgafn (A1): rydych yn sefyll prawf ar feic modur rhwng 75 a 125 cc. Os pasiwch chi’r prawf cewch yrru beic modur hyd at 125 cc ac allbwn pŵer hyd at 11 kW.
Trwydded beic modur safonol (A): os yw’ch cerbyd prawf rhwng 120 a 125 cc ac yn gallu mynd yn gyflymach na 100 kya, rhoddir trwydded safonol (A) i chi. Yna, cewch eich cyfyngu i feiciau modur hyd at 25 kW am ddwy flynedd. Ar ôl dwy flynedd, cewch yrru peiriant o unrhyw faint.
Mae Mynediad Uniongyrchol neu fynediad wedi’i gyflymu yn galluogi beicwyr dros 21 oed, neu rai sy’n cyrraedd 21 cyn i’w cyfyngiad dwy flynedd ddod i ben, i yrru beiciau modur mwy yn gynt. Er mwyn cael trwydded i wneud hyn, rhaid iddynt
I ymarfer, gallwch yrru beiciau modur mwy gyda phlatiau D neu L (platiau L y tu allan i Gymru) ar ffyrdd cyhoeddus, ond dim ond yng nghwmni hyfforddwr cydnabyddedig ar feic modur arall sydd â chysylltiad radio â chi.
RHAID I CHI BEIDIO â chludo teithiwr piliwn na thynnu ôl-gerbyd nes byddwch wedi pasio’ch prawf.
[Cyfraith MV(DL)R rheoliad 16]
RHAID I faint injan moped fod yn llai na 50 cc, ni all bwyso mwy na 250 kg ac ni all ei gyflymder uchaf fod yn fwy na 31 mya (50 km/awr). Ers mis Mehefin 2003, mae cyflymder pob moped a gymeradwywyd yn ôl math gan y GE wedi’i gyfyngu i 28 mya (45 km/awr).
[Cyfraith RTA 1988 (fel y’i diwygiwyd) adran 108]
I yrru moped, RHAID i ddysgwyr
RHAID yn gyntaf i chi basio’r prawf theori ar gyfer beiciau modur ac yna’r prawf moped ymarferol i gael eich trwydded moped lawn. Os oeddech wedi pasio eich prawf gyrru cyn 1 Chwefror 2001, rydych yn gymwys i yrru moped heb blatiau D neu L (platiau L y tu allan i Gymru), er mai’r argymhelliad yw eich bod yn cwblhau HSG cyn gyrru ar y ffordd. Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru ar ôl y dyddiad hwn RHAID i chi gwblhau HSG cyn gyrru moped ar y ffordd.
[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 97(e) a 101 a MV(DL)R rheoliadau 38(4) a 43]
Nodyn. I feicwyr modur a gyrwyr mopedau sy’n dymuno gyrru peiriant mwy, mae’r canlynol yn eich eithrio rhag gorfod sefyll y prawf theori beiciau modur
[Cyfraith MV(DL)R rheoliad 42]
Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd
Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.