Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllun Pass Plus ar gyfer gyrwyr ceir

Mae’r cynllun Pass Plus wedi ei anelu at yrwyr newydd er mwyn eu helpu i fod yn yrwyr gwell. I ymuno â Pass Plus, bydd angen i chi ddod o hyd i hyfforddwr gyrru cymeradwy i'ch hyfforddi chi. Bydd eich hyfforddwr gyrru cymeradwy yn eich helpu i gwblhau'r chwe modiwl hyfforddi er mwyn pasio'r cwrs hyfforddi.

Ynglŷn â Pass Plus

Cwrs hyfforddi sefydledig wedi’i anelu at yrwyr newydd yw Pass Plus. Cynlluniwyd y cwrs gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) gyda chymorth yswirwyr a’r diwydiant hyfforddiant gyrru.

Mae ystadegau’n dangos ei bod yn fwy tebygol i yrwyr newydd gael damwain yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl pasio’r prawf gyrru. Mae hyn o ganlyniad i ddiffyg profiad gyrru.

Bydd Pass Plus yn adeiladu ar eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Bydd yn eich dysgu sut i ragweld pob math o beryglon, cynllunio ar eu cyfer ac ymdopi â nhw, i’ch helpu i fagu hyder wrth yrru.

Pwy all ddilyn cwrs Pass Plus

Gallwch ddilyn cwrs Pass Plus ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, fe’i anelir yn bennaf at yrwyr newydd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt basio’r prawf gyrru.

Modiwlau Pass Plus

Mae Pass Plus yn cynnwys chwe modiwl ynghylch gyrru mewn amgylchiadau gwahanol:

  • yn y dref
  • ymhob tywydd
  • ar ffyrdd gwledig
  • fin nos
  • ar ffyrdd deuol
  • ar draffyrdd

Cost cwrs Pass Plus

Bydd ffioedd eich cwrs Pass Plus yn amrywio gan ddibynnu ar lle byddwch yn byw, ar yr hyfforddwr neu’r ysgol yrru y byddwch yn ei ddewis, ac ar faint y bydd eich hyfforddi’n ei gymryd. Bydd y cwrs yn cymryd o leiaf chwe awr.

Gall pob awdurdod lleol yng Nghymru, a rhai awdurdodau lleol yn Lloegr a’r Alban, gynnig cymorth gyda ffioedd cwrs Pass Plus i chi.

Gwneud cais am gwrs Pass Plus a dewis hyfforddwr

I ymuno â Pass Plus, bydd angen i chi ddewis hyfforddwr gyrru cymeradwy i'ch hyfforddi chi. Mae’n rhaid i’r hyfforddwr gyrru cymeradwy fod wedi’i gofrestru â DSA fel hyfforddwr Pass Plus, ac mae'n rhaid iddo hefyd gael 'bathodyn gwyrdd' hyfforddwr gyrru cymeradwy.

Pan fyddwch yn dewis hyfforddwr gyrru cymeradwy addas, edrychwch yn gyntaf i weld a yw eich awdurdod lleol yn cefnogi Pass Plus.

Os yw yn cefnogi Pass Plus, bydd fel arfer yn eich helpu â chostau’r cwrs os byddwch yn dewis hyfforddwr gyrru cymeradwy Pass Plus o restr eich awdurdod lleol.

Os nad yw’n cefnogi Pass Plus, bydd angen i chi ddewis hyfforddwr Pass Plus drwy ofyn i'r hyfforddwr gyrru cymeradwy a fuodd yn eich dysgu i yrru. Gallech hefyd ofyn i ysgol yrru leol, neu edrych mewn cyhoeddiadau masnachol lleol, mewn hysbysebion papurau newydd lleol ac ar wefannau. Nid yw DSA yn darparu rhestr o hyfforddwyr.

Gallwch weld a yw hyfforddwr gyrru cymeradwy yn hyfforddwr Pass Plus cofrestredig drwy ffonio Adran Pass Plus DSA ar 0115 936 6504. Bydd ar DSA angen enw’r hyfforddwr a’i rif hyfforddwr gyrru cymeradwy er mwyn gallu cadarnhau hynny.

Sut y cewch eich hyfforddi

Arweiniad i Ddisgyblion Pass Plus

Ar ddechrau’r cwrs, bydd eich hyfforddwr yn rhoi copi o ‘Arweiniad i Ddisgyblion Pass Plus’ i chi. Bydd hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch pob agwedd ar Pass Plus.

Hyd y cwrs

Bydd hyfforddiant Pass Plus yn cymryd o leiaf chwe awr, ond gall gymryd mwy o amser os bydd eich hyfforddwr yn meddwl bod hynny'n angenrheidiol.

Y sesiynau hyfforddi

Mae Pass Plus yn gwrs ymarferol a dylai pob modiwl fod yn sesiwn ymarferol. Fodd bynnag, gallai amgylchiadau lleol ac amser o’r flwyddyn olygu y byddai’n rhaid i rai modiwlau gael eu rhoi fel sesiynau theori. Gallai sesiwn theori gael ei rhoi os nad oes traffordd ger llaw. Yn gyffredinol, dylai o leiaf pum awr a hanner o’r chwe awr gael ei dreulio yn y car.

Ni fydd yn rhaid i chi sefyll prawf ar ddiwedd y cwrs ond fe gewch eich asesu drwy gydol y modiwlau.

Cofnodi cynnydd

Bydd eich hyfforddwr yn llenwi ffurflen cofnodi hyfforddiant y byddwch chi’n ei llofnodi ac yn ei dyddio pan fyddwch yn cyrraedd y safon ofynnol ym mhob modiwl. Er mwyn pasio’r cwrs, bydd angen i chi gyrraedd safon foddhaol ym mhob un o fodiwlau’r cwrs. Cewch gofnod cynnydd i’ch helpu i gadw golwg ar eich cynnydd drwy gydol y cwrs.

Ar ddiwedd yr hyfforddiant

Ar ôl i chi gwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus, bydd eich tystysgrif Pass Plus y cael ei hanfon atoch er mwyn i chi allu hawlio'ch disgownt ar eich polisi yswiriant car.

Dylech hefyd ystyried gweithio tuag at eich Prawf Gyrru Safon Uwch. Byddai pasio’r prawf hwn yn mynd â’ch sgiliau gyrru at lefel uwch, a byddai'n rhoi mwy o fuddion ariannol i chi.

Ymholiadau ynghylch Pass Plus

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch Pass Plus, mae croeso i chi gysylltu ag adran Pass Plus DSA.

Ffôn
0115 936 6504

E-bost
passplus@dsa.gsi.gov.uk

Post
Tîm Pass Plus / Pass Plus Team
DSA
112 Upper Parliament Street
Nottingham
NG1 6LP

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Arbed tanwydd – lleihau allyriadau

Cael gwybod sut y gall gweithredoedd fel gyrru’n esmwyth arbed tanwydd i chi a lleihau allyriadau

Allweddumynediad llywodraeth y DU