Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio disgownt yswiriant car ar ôl cwblhau Pass Plus

Ar ôl i chi lwyddo i orffen eich cwrs hyfforddiant Pass Plus byddwch yn cael tystysgrif Pass Plus gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Byddwch yn gallu defnyddio'r dystysgrif hon i hawlio eich disgownt ar eich yswiriant cerbyd.

Pam mae eich tystysgrif Pass Plus yn bwysig

Mae eich tystysgrif Pass Plus yn brawf ysgrifenedig eich bod wedi pasio'r cwrs Pass Plus. Ar ôl i chi ei chael, efallai y byddwch yn gallu hawlio eich disgownt ar eich polisi yswiriant car modur.

Gwneud yn siŵr y cewch ddisgownt ar eich yswiriant car

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn eich cynghori i chwilio am y disgowntiau sydd ar gael gan gwmnïau yswiriant i yrwyr sydd wedi cwblhau eu cwrs Pass Plus.

Bydd y swm y gallwch ei arbed yn dibynnu ar y cwmni yswiriant y byddwch yn ei ddewis.

Mae yswirwyr sy'n cefnogi Pass Plus yn cynnig disgownt ar y tri phrif fath o yswiriant cerbyd.

  • cynhwysfawr
  • trydydd parti, tân a lladrad
  • trydydd parti yn unig

Os nad oes gennych chi gar ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn gallu gohirio'r disgownt am hyd at ddwy flynedd, ond byddai angen i chi gadarnhau hyn gyda'ch cwmni yswiriant.

Os oeddech chi wedi pasio eich prawf gyrru ymarferol dros flwyddyn yn ôl, gwnewch yn siŵr y byddwch yn gymwys i gael y disgownt gan eich cwmni yswiriant cyn dilyn y cwrs.

Dylech chwilio i weld pa gwmni sy'n cynnig y disgownt gorau i chi. Gallech arbed mwy o arian ar eich yswiriant na faint roeddech chi wedi'i dalu am eich cwrs Pass Plus, sy'n golygu eich bod yn cael eich hyfforddiant am ddim i bob pwrpas.

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r cwmni yswiriant, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod disgownt Pass Plus ar gael i chi.

Cwmnïau yswiriant sy'n cynnig disgownt

Mae'r cwmnïau yswiriant canlynol yn cynnig manteision yswiriant cerbyd i yrwyr ceir sydd wedi pasio Pass Plus:

  • 4Counties Insurance
  • AA Insurance
  • Adrian Flux Insurance Services
  • Churchill Insurance
  • CIS
  • Click4Gap (rhowch y cod 'PASSPLUS10GAP')
  • Direct Line
  • Endsleigh
  • i-Kube
  • Privilege
  • Royal and Sun Alliance
  • Swinton Car Insurance
  • Young Marmalade

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Arbed tanwydd – lleihau allyriadau

Cael gwybod sut y gall gweithredoedd fel gyrru’n esmwyth arbed tanwydd i chi a lleihau allyriadau

Allweddumynediad llywodraeth y DU