Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sgiliau gyrru a beicio uwch

Mae mwy i yrru neu feicio'n ddiogel na dim ond llwyddo yn eich prawf gyrru neu feicio. Gallwch ddilyn mwy o hyfforddiant sy'n arwain at brawf uwch. Mynnwch wybod am y cyrsiau a'r profion gwahanol sydd ar gael, a sut i'w trefnu.

Gyrwyr ceir: Cynllun Pass Plus

Pass Plus

Bydd Pass Plus yn meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol

Gallwch ddilyn cwrs Pass Plus unrhyw bryd ar ôl llwyddo yn eich prawf gyrru ymarferol. Fodd bynnag, mae wedi'i anelu'n bennaf at yrwyr newydd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl llwyddo yn eu prawf gyrru.

Gall y cwrs eich helpu i wneud y canlynol:

  • magu mwy o hyder ar y ffyrdd
  • meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol
  • dysgu sut i ragweld pob math o beryglon, cynllunio ar eu cyfer ac ymdrin â nhw

Sefyll prawf gyrru uwch

Prawf gyrru uwch

Os ydych am wella eich sgiliau gyrru ymhellach, gallwch sefyll prawf gyrru uwch

Os ydych am wella eich sgiliau gyrru ymhellach, gallwch sefyll prawf gyrru uwch.

Mae nifer o sefydliadau'n cynnig prawf uwch. Dylent allu cynnig hyfforddiant a chyngor i chi ar y ffordd orau o baratoi.

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi cymeradwyo'r profion gyrru uwch y mae'r sefydliadau hyn yn eu cynnig ac yn eu monitro.

British School of Motoring

RAC Building
2610 Quadrant
Aztec West Business Park
Bristol
BS32 4TR
Ffôn: 0845 851 9571

DIAmond Advanced Motorists

Leon House
233 High Street
Croydon
CR0 9XT
Ffôn: 020 8686 8010

Sefydliad Modurwyr Uwch / Institute of Advanced Motorists

510 Chiswick High Road
London
W4 5RG
Ffôn: 020 8996 9600

Gyrwyr a Beicwyr Uwch RoSPA / RoSPA Advanced Drivers and Riders

RoSPA Advanced Drivers and Riders
28 Calthorpe Road
Edgbaston
Birmingham
B15 1RP
Ffôn: 0121 248 2099

Gyrwyr beiciau modur: cynllun beicwyr gwell

Cynllun beicwyr gwell

Caiff y cynllun beicwyr gwell ei deilwra i'ch anghenion - byddwch yn dilyn cyn lleied neu gymaint o hyfforddiant ag sydd ei angen arnoch

Mae'r cynllun beicwyr gwell ar gyfer beicwyr â thrwydded beic modur lawn.

Mae'r cynllun beicwyr gwell yn ddelfrydol os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych newydd lwyddo yn eich prawf
  • rydych wedi dychwelyd i feicio ar ôl cyfnod o beidio
  • rydych wedi newid i yrru beic modur mwy

Gan fod yr hyfforddiant yn cael ei deilwra i'ch anghenion, byddwch yn dilyn cyn lleied neu gymaint o hyfforddiant ag sydd ei angen arnoch.

Sefyll prawf beicio uwch

Prawf beicio uwch

Os ydych am wella eich sgiliau beicio ymhellach, gallwch sefyll prawf beicio uwch

Os ydych am wella eich sgiliau beicio ymhellach, gallwch sefyll prawf beicio uwch.

Sefydliad Modurwyr Uwch / Institute of Advanced Motorists

510 Chiswick High Road
London
W4 5RG
Ffôn: 020 8996 9600

Gyrwyr a Beicwyr Uwch RoSPA / RoSPA Advanced Drivers and Riders

RoSPA Advanced Drivers and Riders
28 Calthorpe Road
Edgbaston
Birmingham
B15 1RP
Ffôn: 0121 248 2099

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Arbed tanwydd – lleihau allyriadau

Cael gwybod sut y gall gweithredoedd fel gyrru’n esmwyth arbed tanwydd i chi a lleihau allyriadau

Allweddumynediad llywodraeth y DU