Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau, bydd rhaid i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ganslo prawf gyrru ar fyr rybudd. Os caiff eich prawf chi ei ganslo ar fyr rybudd, efallai y byddwch yn gallu hawlio unrhyw fân-dreuliau y bu’n rhaid i chi eu talu. Yma, cewch wybod a gewch chi hawlio, a sut mae gwneud hynny.
Nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn talu treuliau os fydd eich prawf yn cael ei ganslo oherwydd tywydd garw
Gallwch lwytho ffurflen hawlio i wneud cais am fân-dreuliau os gwnaeth DSA ganslo eich prawf gyrru ar 'fyr rybudd'.
Mae ‘byr rybudd’ yn golygu rhoi llai na thri diwrnod gwaith clir o rybudd i chi bod eich prawf gyrru wedi’i ganslo. Mae diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, ond nid gwyliau cyhoeddus.
Bydd DSA yn ad-dalu rhai treuliau penodol y bu’n rhaid i chi eu talu ar ddiwrnod y prawf os gwnaethant ganslo eich prawf ar fyr rybudd. Fodd bynnag, ni fydd DSA yn talu treuliau os canslwyd eich prawf oherwydd y canlynol:
Dylech anfon eich ffurflen hawlio ac unrhyw ddogfennau cefnogol i:
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes