Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Profion gyrru: profion sydd wedi'u canslo neu eu stopio a thywydd garw

Weithiau bydd yn rhaid i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ganslo neu stopio profion gyrru a beicio am resymau fel tywydd garw neu broblemau gyda cherbyd. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd os caiff eich prawf ei ganslo neu ei stopio, a beth mae angen i chi ei wneud pan fydd tywydd garw.

Tywydd garw a phrofion gyrru

Profion sy’n cael eu canslo

Os caiff eich prawf ei ganslo oherwydd tywydd garw, caiff un arall ei drefnu'n awtomatig heb unrhyw dâl ychwanegol

Ni chynhelir profion gyrru ymarferol mewn tywydd gwael, er enghraifft pan fydd y ffyrdd wedi rhewi. Mae hyn er diogelwch yr unigolyn sy'n sefyll y prawf a'r arholwr.

Pan fyddwch yn sefyll eich prawf ymarferol, dilynwch y cyngor a geir yn eich neges e-bost neu lythyr apwyntiad. Dim ond os oes eira neu rew yn eich ardal leol ar ddiwrnod eich prawf y dylech gysylltu â'ch canolfan prawf.

Pryd i ffonio eich canolfan prawf

Os yw eich prawf yn gynnar yn y bore, ffoniwch cyn gynted ag y gallwch ar y diwrnod. Os byddwch yn ffonio y diwrnod cynt, ni fydd y ganolfan prawf yn gallu dweud wrthych a fydd eich prawf yn cael ei gynnal.

Os yw eich prawf yn y prynhawn, ffoniwch y ganolfan prawf yn hwyrach yn y bore. Mae'r ganolfan prawf yn fwy tebygol o wybod a fydd y ffyrdd yn addas ar gyfer eich prawf.

Treuliau

Nid yw DSA yn talu unrhyw dreuliau os caiff eich prawf ei ganslo oherwydd tywydd garw

Beth i'w wneud os na fydd y ganolfan prawf yn ateb y ffôn

Os na fydd unrhyw un yn ateb y ffôn, ac nad yw'r amodau yn eich ardal yn rhy wael, mae'n debygol bod yr arholwyr gyrru:

  • yn edrych ar y ffyrdd lleol i weld a ellir cynnal profion gyrru
  • yn cynnal profion gyrru am fod yr amodau'n addas

Fodd bynnag, nid yw hyn yn arwydd pendant y bydd eich prawf yn cael ei gynnal. Ffoniwch y ganolfan prawf eto neu ewch yno erbyn amser eich prawf.

Os na ellir cynnal eich prawf

Os caiff eich prawf gyrru ymarferol ei ganslo oherwydd tywydd garw, caiff apwyntiad arall ei drefnu'n awtomatig heb unrhyw dâl ychwanegol. Fodd bynnag, nid yw DSA yn talu unrhyw fân dreuliau.

Fel arfer, caiff dyddiad apwyntiad newydd ei anfon o fewn tri diwrnod gwaith. Gall hyn gymryd hyd at saith diwrnod os oes cyfnod estynedig o dywydd garw.

Amseroedd aros ar gyfer profion gyrru ymarferol

Yn ogystal ag achosi i brofion gael eu canslo, gall tywydd garw arwain at amseroedd aros hwy mewn rhai ardaloedd. Mae DSA yn ceisio sicrhau bod amseroedd aros mor fyr â phosibl.

Os bydd DSA yn canslo eich prawf gyrru neu feicio

Os bydd DSA yn canslo eich prawf

Os bydd DSA yn canslo eich prawf ar fyr rybudd, efallai y byddwch yn gallu hawlio mân dreuliau

Os bydd DSA yn canslo eich prawf gyrru neu feicio ar fyr rybudd, efallai y byddwch yn gallu hawlio am unrhyw fân dreuliau. Fodd bynnag, nid yw DSA yn talu treuliau os caiff eich prawf ei ganslo oherwydd:

  • tywydd garw
  • problemau gyda cherbyd
  • problemau o ran y gyrrwr neu'r beiciwr

Mynnwch wybod a allwch eu hawlio a sut mae gwneud hynny drwy ddilyn y ddolen isod.

Problemau gyda chi neu’ch cerbyd

Bydd yn rhaid i chi sefyll prawf arall, a thalu amdano, os na ellir cwblhau'r prawf oherwydd problem gyda:

  • chi - er enghraifft, os byddwch yn teimlo'n sâl tra'n sefyll eich prawf
  • eich cerbyd - er enghraifft, os bydd yn torri i lawr yn ystod y prawf neu os na fydd yn addas ar gyfer y prawf

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU