Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru'n annibynnol fel rhan o'ch prawf gyrru ymarferol

Bydd eich prawf gyrru ymarferol yn cynnwys tua deng munud o yrru’n annibynnol. Nid prawf o'ch gallu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas ydyw. Yma cewch wybod beth yw gyrru'n annibynnol a sut y byddwch yn cael eich asesu yn ystod y prawf gyrru ymarferol.

Ym mha brofion y mae angen gyrru'n annibynnol

Gwylio fideo ynghylch gyrru'n annibynnol

Mae’r adran gyrru'n annibynnol yn dod yn rhan o'r profion gyrru ymarferol hyn:

  • car
  • beic modur - modiwl dau
  • cerbyd nwyddau mawr (LGV)
  • cerbyd cludo teithwyr (PCV)
  • hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI) - gallu i yrru (a elwir weithiau'n 'rhan dau')
  • tacsi

Beth yw gyrru'n annibynnol

Cofiwch

Nid prawf o'ch gallu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yw gyrru’n annibynnol

Bydd eich prawf gyrru ymarferol yn cynnwys tua deng munud o yrru’n annibynnol.

Yn ystod eich prawf, bydd yn rhaid i chi yrru'n annibynnol naill ai drwy ddilyn:

  • arwyddion traffig
  • cyfres o gyfarwyddiadau
  • cyfuniad o’r ddau

Er mwyn eich helpu i ddeall lle rydych chi'n mynd wrth ddilyn cyfarwyddiadau a roddir ar lafar, bydd yr arholwr yn dangos diagram i chi.

Beth sy’n digwydd os byddwch chi’n anghofio’r cyfarwyddiadau

Nid yw'n gwneud gwahaniaeth os nad ydych chi'n cofio pob cyfarwyddyd, neu os byddwch chi'n mynd y ffordd anghywir – gall ddigwydd i'r gyrwyr mwyaf profiadol.

Nid prawf o'ch gallu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yw'r adran gyrru'n annibynnol. Mae gyrru’n annibynnol yn golygu gwneud eich penderfyniadau eich hun – mae hyn yn cynnwys penderfynu pryd mae'n ddiogel ac yn briodol i chi ofyn am gadarnhad ynghylch ble rydych chi’n mynd.

Y llwybr ar gyfer gyrru'n annibynnol

Os byddwch chi'n gofyn am gael eich atgoffa pa ffordd i fynd, bydd yr arholwr yn ailadrodd y cyfarwyddiadau i chi.

Beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n dilyn y lwybr cywir

Os nad ydych chi'n dilyn y llwybr cywir wrth yrru'n annibynnol, ni fydd hyn yn effeithio ar eich prawf oni bai eich bod wedi gwneud camgymeriad wrth yrru.

Os byddwch yn mynd i'r cyfeiriad anghywir neu'n cymryd troad anghywir, bydd yr arholwr yn eich helpu i fynd yn ôl ar y llwybr cywir. Yna gallwch barhau â'r adran gyrru'n annibynnol.

Beth sy’n digwydd os yw’r arwyddion traffig mewn cyflwr gwael

Os yw'r arwyddion traffig mewn cyflwr gwael neu'n aneglur, bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi nes gallwch weld yr arwydd traffig nesaf. Nid yw'n angenrheidiol bod gennych wybodaeth fanwl am yr ardal.

Pam na allwch ddefnyddio ‘sat-nav’

Chewch chi ddim defnyddio 'sat-nav' ar gyfer gyrru'n annibynnol gan y byddai hwnnw'n rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam i ynglŷn â ble i droi. Mae profion gyrru'n annibynnol yn profi'r modd rydych chi'n gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Anghenion arbennig a’r adran gyrru'n annibynnol

Mae gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru drefn ar gyfer nodi anghenion arbennig ac anableddau pan fydd profion yn cael eu harchebu ar-lein neu dros y ffôn. O ganlyniad, bydd yr arholwr yn gwybod pa fath o anghenion arbennig sydd gennych ac yn gallu gwneud addasiadau rhesymol.

Ar gyfer yr adran gyrru'n annibynnol, gallai hyn olygu gofyn i chi pa ddull yw'r gorau gennych:

  • dilyn arwyddion traffig
  • dilyn gyfres o gyfarwyddiadau (uchafswm o dri), sy'n cael eu hategu gan ddiagram

Mewn rhai achosion, gellir rhoi dim ond dau gyfarwyddyd i chi.

Os nad ydych yn gallu siarad llawer o Saesneg, neu nad ydych yn gallu ei siarad o gwbl

Mae gan arholwyr gyrru lawer iawn o brofiad wrth ymdrin ag ymgeiswyr nad ydynt yn gallu siarad llawer o Saesneg, neu'r rheini nad ydynt yn gallu siarad Saesneg o gwbl. Er enghraifft, weithiau byddant yn ysgrifennu enwau llefydd er mwyn ei gwneud yn glir i ble rydych chi i fod i fynd.

Gellir dod â chyfieithydd i'r prawf hefyd os dymunwch. Gall eich hyfforddwr gyrru cymeradwy fod yn gyfieithydd i chi.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU