Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diffygion ar gerbydau y mae angen edrych arnynt cyn prawf gyrru

Mae angen edrych ar rai cerbydau, a’u trwsio o bosib, cyn y gellir eu defnyddio ar gyfer prawf gyrru os yw gwneuthurwyr y cerbydau wedi eu galw’n ôl. Cael gwybod a oes hysbysiad diogelwch neu alw’n ôl wedi’i roi ar gyfer eich cerbyd chi, a beth fydd angen i chi ei wneud.

Gyrru eich cerbyd eich hun yn y prawf gyrru ymarferol

Dod â thystiolaeth

Os na fyddwch yn dod â thystiolaeth:

  • bydd eich prawf yn cael ei ganslo
  • ni fydd treuliau’n cael eu talu
  • mae’n bosib y byddwch yn colli ffi eich prawf

Ni chewch ddefnyddio cerbyd sydd wedi'i alw'n ôl ar gyfer eich prawf oni bai y gallwch ddangos dogfennau sy'n profi i'r arholwr fod y canlynol yn wir:

  • mae’r gwaith y galwyd y cerbyd yn ôl ar ei gyfer wedi cael ei gwblhau
  • mae’r cerbyd wedi cael ei archwilio a does dim angen gwneud gwaith arno
  • mae’r cerbyd wedi’i eithrio rhag y gwaith y galwyd ef yn ôl ar ei gyfer

Gall unrhyw un o’r canlynol fod yn dystiolaeth bod y cerbyd wedi cael ei drwsio:

  • y llythyr hysbysiad galw'n ôl neu'r hysbysiad diogelwch ei hun sydd wedi cael ei stampio gan y gwneuthurwr neu’r gwerthwr ceir
  • tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr neu’r gwerthwr ceir (ar bapur pennawd neu swyddogol)

Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth, bydd eich prawf yn cael ei ganslo, ni fydd dim treuliau yn cael eu talu ac mae’n bosib y byddwch yn colli ffi eich prawf.

Ford

Fiesta

Rheswm Cerbydau yr effeithir arnynt Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl Rhif cyfeirnod y DSA

Nam ar y system gwregys diogelwch

Modelau 1989 – 1990 18 Mawrth 1996
Nam ar y pibellau brêc Modelau a adeiladwyd rhwng mis Gorffennaf 1995 a mis Mehefin 1996 sydd â’r codau adeiladu canlynol: SS, ST, SJ, SU, SM, SP, TB, TR, TA, TG, TC neu TK 12 Chwefror 2008 COB 8/98, 10/98, 11/98, 14/98
Mae’n bosib nad yw’r styd(iau) sy’n dal yr injan ar yr ochr dde wedi’u gosod yn iawn. Pe bai’r tri styd yn torri, gallai olygu colli gyriant yn yr olwynion. Injan DV6 1.6 litr gyda rhifau adnabod cerbyd yn yr ystod:

WF0CXXGAJ6A23666 – WF0UXXGAJU7Y23813

18 Tachwedd 2008 COB 37/2008


Fusion

Rheswm Cerbydau yr effeithir arnynt Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl Rhif cyfeirnod y DSA
Mae’n bosib nad yw’r styd(iau) sy’n dal yr injan ar yr ochr dde wedi’u gosod yn iawn Pe bai’r tri styd yn torri, gallai olygu colli gyriant yn yr olwynion. Injan DV6 1.6 litr gyda rhifau adnabod cerbyd yn yr ystod:

WF0CXXGAJ6A23666 – WF0UXXGAJU7Y23813

18 Tachwedd 2008 COB 37/2008


Mazda

121

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl Rhif cyfeirnod y DSA
Nam ar y pibellau brêc Modelau 1998 â'r codau adeiladu canlynol: SP, TB, TR, TA, TG, TC, TK neu TD 13 Chwefror 1998 COB 9/98, 14/98


Peugeot

107

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl Rhif cyfeirnod y DSA
Gallai pedal y sbardun fethu mynd yn ôl i’w le segur Modelau a gofrestrwyd rhwng mis Chwefror 2005 a mis Awst 2009 03 Chwefror 2010 COB 04/2010


206

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl Rhif cyfeirnod y DSA
Nam ar y cysylltiad brêc Modelau (ac eithrio Station Wagon (SW)) sydd â dyddiadau adeiladu rhwng mis Medi 1998 a mis Chwefror 2002. Mae hyn yn effeithio ar yr holl geir â phlât cofrestru 'S' hyd at, ac yn cynnwys, '51'. 11 Rhagfyr 2003 COB 30/03


Renault

Clio ll (marc dau) a Campus

Mae tystysgrif MOT gyfredol yn dystiolaeth dderbyniol ay gyfer y Renault Clio ll (marc dau) a Campus yn unig.

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad diogelwch Rhif cyfeirnod y DSA
Nam ar glicied y boned Pob model 03 Mai 2007 COB 46/07


Toyota

Yaris

Pob cerbyd gyda rhif cofrestru o 55 ymlaen a'r ystod ganlynol o rifau cofrestru cerbyd (VIN).

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl

Rhif cyfeirnod y DSA

Nam ar y gorffwysyddion pen a/neu system y bag aer ochr

VNKKG9#3#0A001018 - VNKKG9#3#0A032844

VNKJC9#3#0A008629 - VNKJC9#3#0A046881

VNKJG9#3#0A002425 -VNKJG9#3#0A032787

VNKJL9#3#0A013738 -VNKJL9#3#0A090052

VNKKL9#3#0A001022 –
VNKKL9#3#0A090056
VNKKC9#3#0A001024 –
VNKKC9#3#0A046882
Mae’r rhif adnabod cerbyd ar waelod y ffenestr flaen ar ochr y teithiwr

02 Chwefror 2007

COB 47/2007

Auris, Avensis, Aygo (MMT neu VSC), Verso a Yaris

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl

Rhif cyfeirnod y DSA

Gallai pedal y sbardun fethu mynd yn ôl i’w le segur

Gyda dyddiadau adeiladu rhwng 02 Ionawr 2009 a 01 Mai 2010

03 Chwefror 2010

COB 04/2010

Vauxhall

Corsa, Combo a Tigra

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl

Rhif cyfeirnod y DSA

Nam ar system cloi gwregys diogelwch y gyrrwr a’r teithiwr blaen

Cerbydau gyda'r rhifau siasi canlynol:
X4 208640 hyd at X4 290484
X4 357817 hyd at Y4 304137
X6 087167 hyd at X6 109757
X6 136077 hyd at Y6 122518
X3 031006 hyd at X3 040514
X3 050118 hyd at Y3 041161

10 Ionawr 2005

COB 11/01, 15/01, 03/05

Corsa D

Rheswm

Cerbydau yr effeithir arnynt

Dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad galw'n ôl

Rhif cyfeirnod y DSA

Problem bosibl gyda’r system llywio

Modelau o fis Hydref 2006 ymlaen (rhif cofrestru 56) gyda’r rhifau adnabod cerbyd canlynol

7 4 029534 – 704 233663

7 6 021542 – 7 6 087940

03 Ionawr 2008

COB 02/2008

Nam bosib ar gebl y brêc llaw, neu gallai’r brêc llaw fod wedi'i osod yn ddiffygiol

Pob cerbyd sydd â phlât cofrestru gyda dangosydd oedran ‘59’ neu ‘10’

27 Gorffennaf 2010

COB 20/2010

Ceir nad ydynt yn addas ar gyfer prawf gyrru ymarferol

Mewn ambell gerbyd, efallai na fydd yr arholwr yn gallu gweld o’i gwmpas yn llawn. Mae cerbydau o’r fath yn anaddas ar gyfer prawf gyrru ymarferol. Mae cerbydau na allwch eu defnyddio ar gyfer eich prawf yn cynnwys:

  • BMW Mini â tho meddal
  • Ford KA â tho meddal
  • Toyota iQ
  • VW Beetle â tho meddal

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU