Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Anghenion arbennig a’r prawf gyrru ymarferol

Os oes gennych chi unrhyw anghenion arbennig neu anableddau, dylech roi gwybod amdanynt pan fyddwch yn trefnu eich prawf gyrru ymarferol. Os byddwch yn gwneud hyn, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) addasu eich prawf yn rhesymol. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi roi gwybod amdano i DSA os oes gennych chi anghenion arbennig.

Sefyll eich prawf gyrru ymarferol os oes gennych chi anghenion arbennig

Mae DSA yn darparu nifer o gyfleusterau i chi os oes gennych anghenion arbennig neu anableddau corfforol. Gallwch ddarllen rhagor am y cyfleusterau hyn ar y dudalen hon.

Ni waeth pa mor ddifrifol yw'ch anabledd, bydd rhaid i chi sefyll yr un prawf gyrru â phawb arall.

Cyflyrau iechyd a allai effeithio ar eich gallu i yrru

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr a allai effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Yn yr erthygl ganlynol, cewch wybod a oes angen i chi roi gwybod i DVLA am eich cyflwr meddygol.

Beth i’w wneud pan fyddwch yn trefnu eich prawf gyrru ymarferol

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf gyrru ymarferol, gofynnir i chi a fyddwch yn dod â dehonglwr neu gyfieithydd gyda chi.

Gofynnir a oes gennych chi:

  • unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar eich gallu i symud
  • unrhyw aelodau o’r corff ar goll
  • unrhyw anghenion dysgu arbennig
  • arthritis
  • dyslecsia
  • epilepsi
  • paraplegia
  • unrhyw anghenion arbennig eraill

Gofynnir hefyd a ydych chi:

  • yn fyddar – naill ai’n hollol fyddar neu fel arall
  • yn agos at ddiwedd cyfnod beichiogrwydd

Sefyll prawf lle caniateir mwy o amser i chi

Efallai y caniateir mwy o amser i chi ar gyfer eich prawf os oes gennych chi anghenion arbennig penodol. Bydd hyn yn rhoi amser i'r arholwr siarad â chi am eich anabledd ac am unrhyw addasiadau i'ch cerbyd.

Does dim rhaid i chi gael bathodyn drwy’r Cynllun Bathodyn Glas er mwyn sefyll prawf lle caniateir mwy o amser i chi.

Sefyll y prawf gyrru ymarferol os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf

Defnyddio cyfieithydd

Bydd angen i chi drefnu cyfieithydd eich hun, a thalu unrhyw ffioedd y mae’n ei godi

Gallwch ddod â’ch cyfieithydd eich hun ar eich prawf gyrru ymarferol. Rhaid iddo fod yn 16 mlwydd oed o leiaf. Gall eich hyfforddwr gyrru cymeradwy fod yn gyfieithydd i chi.

Bydd angen i chi drefnu cyfieithydd eich hun, a thalu unrhyw ffioedd y mae’n ei godi.

Mae gan arholwyr gyrru lawer o brofiad o ddelio ag ymgeiswyr sydd ddim ond yn siarad ychydig o Saesneg, neu sydd ddim yn siarad Saesneg o gwbl.

Sefyll y prawf gyrru ymarferol os oes gennych chi anawsterau clyw

Os ydych chi’n fyddar, neu os oes gennych chi anawsterau clyw, bydd yr arholwr yn cyfathrebu â chi drwy ba bynnag ffordd sydd orau ar eich cyfer chi.

Ar ddechrau’r prawf, bydd yr arholwr yn dweud wrthych chi beth fydd yn digwydd drwy ddefnyddio nodiadau ysgrifenedig. Bydd hefyd yn edrych arnoch er mwyn eich helpu i ddarllen ei wefusau, os byddai hynny'n ddefnyddiol i chi.

Fel arfer, bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi drwy ddefnyddio arwyddion llaw. Bydd y rhain yn cael eu hegluro i chi a’u dangos i chi gan ddefnyddio cardiau ysgrifenedig cyn i’ch prawf ddechrau.

Mynd â dehonglwr gyda chi ar eich prawf gyrru ymarferol

Gallwch ddod â’ch dehonglwr eich hun ar eich prawf gyrru ymarferol os ydych chi’n defnyddio iaith arwyddion. Rhaid iddo fod yn 16 mlwydd oed o leiaf. Gall eich hyfforddwr gyrru cymeradwy fod yn ddehonglwr i chi.

Bydd angen i chi drefnu dehonglwr eich hun, a thalu unrhyw ffioedd y mae’n ei godi.

Sefyll y prawf gyrru ymarferol os ydych chi’n feichiog

Gallwch sefyll prawf gyrru unrhyw bryd yn ystod cyfnod eich beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid eich bod yn gallu stopio ar frys, ac yn fodlon gwneud hynny.

Sefyll y prawf golwg os oes gennych chi anawsterau darllen

Ar ddechrau’r prawf gyrru ymarferol, bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd wedi parcio.

Os oes gennych chi anableddau dysgu neu os nad ydych chi’n siarad Saesneg, cewch ysgrifennu siapiau'r hyn a welwch ar y plât rhif.

Bydd angen i chi ddarllen y plât rhif o 20 medr i ffwrdd gyda'r steil newydd o blât, ac o 20.5 medr i ffwrdd gyda’r hen steil o blât.

Anghenion arbennig ac adran gyrru’n annibynnol y prawf

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf, rhowch wybod i DSA am eich anghenion arbennig. O wneud hynny, bydd eich arholwr yn gwybod pa fath o anghenion arbennig sydd gennych chi, felly gellir gwneud addasiadau rhesymol yn ystod yr adran gyrru'n annibynnol.

Gall hyn fod drwy ofyn i chi pa ffordd sy'n well gennych chi:

  • dilyn arwyddion traffig
  • dilyn cyfres o gyfarwyddiadau (mwyafrif o dri), sy'n cael eu cefnogi gan ddiagram

Mewn rhai achosion, gellir lleihau hyn i ddim ond dau gyfarwyddyd.

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU