Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prawf gyrru ymarferol car ac ôl-gerbyd neu garafán

Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car ar 1 Ionawr 1997 neu ar ôl hynny a'ch bod bellach am dynnu carafán neu ôl-gerbydau penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi sefyll prawf gyrru arall. Mynnwch wybod am y rhannau gwahanol o'ch prawf gyrru.

Y rheolau ynghylch pwy sy'n gorfod sefyll y prawf

Gallwch ganfod a allwch dynnu ôl-gerbyd neu garafán gyda'ch trwydded gyfredol drwy ddilyn y ddolen isod. Os na allwch dynnu gyda'ch trwydded gyfredol, bydd angen i chi sefyll y prawf.

Sut i drefnu a rheoli eich prawf

Nid oes angen i chi sefyll prawf theori gan y byddwch eisoes wedi pasio prawf theori car. Gallwch drefnu a rheoli eich prawf ymarferol ar-lein. Dim ond mewn canolfannau prawf ar gyfer lorïau a bysiau lle mae ardal bwrpasol ar gael y gellir cynnal y prawf.

Beth sydd angen i chi ddod ag ef gyda chi i'ch prawf

Mynnwch wybod pa ddogfennau y mae angen i chi ddod â nhw gyda chi drwy ddilyn y ddolen isod.

Rheolau ar gyfer y car y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf

Rhaid i'r car y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich prawf fodloni rheolau penodol. Gallwch ddarllen y rheolau hyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Drychau

Rhaid bod drychau wedi'u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan i'r arholwr eu defnyddio

Rheolau ychwanegol ar gyfer y cyfuniad o gar ac ôl-gerbyd neu garafán

Rhaid bod y canlynol yn gymwys ar gyfer y cyfuniad o gar ac ôl-gerbyd neu garafán:

  • car nad yw'n cludo unrhyw nwyddau na llwyth
  • ôl-gerbyd neu garafán nad yw'n cludo unrhyw nwyddau na llwyth, gydag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o un dunnell o leiaf

Efallai y bydd yr arholwr yn gofyn am dystiolaeth o uchafswm más awdurdodedig yr ôl-gerbyd - er enghraifft, rhif y gwneuthurwr.

Beth sy'n rhaid ei osod ar y cerbyd

Rhaid bod y canlynol wedi'u gosod ar y cerbyd:

  • drychau sydd wedi'u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan i'r arholwr neu unrhyw un sy'n goruchwylio'r prawf eu defnyddio
  • dyfais sy'n dangos bod cyfeirwyr yr ôl-gerbyd yn gweithio'n iawn - gall hwn fod yn rhywbeth y gallwch ei weld neu ei glywed

Brêcs a chyplu

Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau:

  • fod â brêcs priodol
  • defnyddio trefniant cyplu sy'n addas ar gyfer y pwysau

Adran cargo'r ôl-gerbyd

Rhaid bod adran cargo'r ôl-gerbyd:

  • yn cynnwys blwch caeëdig
  • mor llydan ac uchel â'r cerbyd sy'n tynnu, o leiaf

Gall lled yr ôl-gerbyd fod ychydig yn llai na'r cerbyd sy'n tynnu. Fodd bynnag, dim ond gan ddefnyddio drychau cefn allanol y cerbyd sy'n tynnu y dylai fod y bosibl gweld y cefn.

Cyn i chi ddechrau'r rhan o'ch prawf sy'n ymwneud â'ch gallu i yrru

Cyn i chi ddechrau'r rhan o'ch prawf sy'n ymwneud â'ch gallu i yrru, byddwch yn cael prawf golwg a bydd gofyn i chi ateb pum cwestiwn yn ymwneud â diogelwch cerbydau.

Y prawf golwg

Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen rhif cerbyd sydd wedi'i barcio er mwyn profi eich golwg. Gallwch ganfod sut mae'r prawf golwg yn gweithio drwy ddilyn y ddolen isod.

Cwestiynau'n ymwneud â diogelwch cerbydau: 'dangoswch i mi, dywedwch wrthyf'

Bydd gofyn i chi ateb pum cwestiwn yn ymwneud â diogelwch cerbydau - byddant yn gymysgedd o:

  • gwestiynau 'dangoswch i mi', lle bydd yn rhaid i chi ddangos sut y byddech yn cynnal archwiliad diogelwch cerbyd
  • cwestiynau 'dywedwch wrthyf', lle bydd yn rhaid i chi egluro sut y byddech yn cynnal yr archwiliad

Bydd camgymeriad gyrru yn cael ei gofnodi ar gyfer pob ateb anghywir hyd at uchafswm o bedwar camgymeriad gyrru. Os byddwch yn ateb y pum cwestiwn yn anghywir, caiff camgymeriad difrifol ei gofnodi.

Y rhan o'ch prawf sy'n ymwneud â'ch gallu i yrru

Eich prawf

Bydd eich prawf yn cynnwys:

  • yr ymarfer bacio'n ôl
  • y gallu cyffredinol i yrru
  • gyrru'n annibynnol
  • stop wedi'i reoli
  • dadgyplu ac ailgyplu

Mae'r prawf wedi'i lunio er mwyn i chi brofi i'r arholwr eich bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i dynnu ôl-gerbyd neu garafán yn ddiogel.

Yr ymarfer bacio'n ôl

Fel arfer, cynhelir yr ymarfer bacio'n ôl cyn i chi adael y ganolfan prawf. Bydd yn rhaid i chi ddangos y gallwch symud eich car a'ch ôl-gerbyd mewn lle cyfyngedig a stopio mewn man penodol.

Eich gallu cyffredinol i yrru

Yn ystod eich prawf, bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau y dylech eu dilyn. Byddwch yn gyrru o dan amrywiaeth o amodau o ran ffyrdd a thraffig. Bydd hyn yn cynnwys, lle bo hynny'n bosibl:

  • ffyrdd deuol
  • systemau un ffordd
  • traffyrdd

Ni fydd gofyn i chi:

  • wneud stop brys
  • bacio'n ôl o amgylch cornel
  • bacio'n ôl i barcio
  • gwneud tro ar y ffordd

Y rhan o'r prawf gyrru sy'n ymwneud â gyrru'n annibynnol

Bydd eich prawf gyrru'n cynnwys gyrru'n annibynnol am tua deng munud.

Dadgyplu ac ailgyplu

Fel arfer bydd gofyn i chi ddadgyplu ac ailgyplu eich car a'ch ôl-gerbyd yn y ganolfan prawf ar ddiwedd y prawf.

Bydd yr arholwr yn gofyn i chi:

  • stopio mewn lle diogel a gwastad
  • dadgyplu eich car o'r ôl-gerbyd neu'r garafán
  • parcio'r car wrth ochr yr ôl-gerbyd neu'r garafán
  • adlinio'r car gyda'r ôl-gerbyd neu'r garafán a'u hailgyplu

Canlyniad eich prawf gyrru

Eich canlyniad

Byddwch yn pasio eich prawf:

  • os byddwch yn gwneud 15 neu lai o gamgymeriadau gyrru
  • os na fyddwch yn gwneud unrhyw gamgymeriadau difrifol na pheryglus

Pan fydd y prawf gyrru yn dod i ben, bydd yr arholwr:

  • yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ai peidio
  • yn egluro sut aeth y prawf

Y mathau gwahanol o gamgymeriadau y gellir eu marcio

Mae tri math o gamgymeriadau y gellir eu marcio:

  • camgymeriad peryglus - sy'n golygu perygl gwirioneddol i chi, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo
  • camgymeriad difrifol - a allai fod yn beryglus
  • camgymeriad gyrru - nad yw'n beryglus, ond pe byddech yn gwneud yr un camgymeriad drwy gydol y prawf, gallai fod yn gamgymeriad difrifol

Y marc ar gyfer pasio'r prawf gyrru

Gallwch wneud hyd at 15 o gamgymeriadau gyrru a phasio'r prawf o hyd. Os byddwch yn gwneud 16 neu fwy o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio'ch prawf.

Os byddwch yn gwneud un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio eich prawf.

Sefyll prawf arall os na fyddwch yn pasio

Os na fyddwch yn pasio eich prawf, gallwch sefyll un arall ar ôl deg diwrnod gwaith. Mae diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn.

Pan gaiff profion gyrru eu canslo neu eu stopio

Weithiau bydd yn rhaid i DSA ganslo neu stopio profion gyrru am resymau fel tywydd garw neu broblemau gyda cherbyd. Mynnwch wybod beth fydd yn digwydd os caiff eich prawf ei ganslo neu ei stopio, a beth y mae angen i chi ei wneud pan fydd tywydd garw.

Additional links

Ydy’ch cerbyd oddi ar y ffordd?

Cadwch eich cerbyd wedi’i yswirio, neu gwnewch ddatganiad HOS gyda DVLA - neu gallech wynebu cosb

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU