Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y drwydded yrru sydd ei hangen arnoch i dynnu carafán neu ôl-gerbyd

Mae'ch hawl i dynnu carafán neu ôl-gerbyd yn dibynnu ar y drwydded yrru sydd gennych. Bydd yr hawl categori ar eich trwydded yrru yn penderfynu pa fath o ôl-gerbyd gewch chi ei dynnu.

Newidiadau i reolau trwyddedau gyrru ar gyfer tynnu ôl-gerbydau a charafannau

O 19 Ionawr 2013, bydd rheolau trwyddedau gyrru yn newid ar gyfer tynnu ôl-gerbydau a charafannau. I gael gwybod mwy am y newidiadau, dilynwch y ddolen isod.

Uchafswm màs awdurdodedig (MAM)

Yn yr erthygl hon, ceir cyfeiriad at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) cerbydau ac ôl-gerbydau. Ystyr hyn yw'r pwysau mwyaf a ganiatéir, sy'n cael ei adnabod hefyd fel pwysau gros y cerbyd.

Trwyddedau ceir a gyhoeddwyd cyn 1 Ionawr 1997

Mae pob gyrrwr sydd wedi pasio prawf cerbyd cyn 1 Ionawr 1997 yn cadw'u hawl presennol i dynnu ôl-gerbydau hyd nes bydd eu trwydded yn dod i ben. Mae hyn yn golygu, fel rheol, fod ganddynt hawl i yrru cerbyd ac ôl-gerbyd sydd gyda'i gilydd â MAM o hyd at 8.25 tunnell. Mae ganddynt hefyd hawl i yrru bws mini gydag ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg.

Os oes gan yrwyr hawl i is-gategori C1+E - sy'n gyfyngedig i MAM o 8.25 tunnell, gallant wneud cais i gael hawl dros dro am yr is-gategori C1+E newydd, er mwyn sefyll a phasio'r prawf i gael cerbyd ac ôl-gerbyd sydd â MAM gyda'i gilydd o 12 tunnell. Does dim angen cael hawl i is-gategori C1 cynt, ond mae'n rhaid i yrwyr fodloni safonau meddygol uwch, a phasio prawf theori categori C a phrawf ymarferol is-gategori C1+E.

Trwyddedau cerbydau nwyddau mawr a cherbydau cludo teithwyr ers cyn 1 Ionawr 1997

Ers 1 Ionawr 1997, mae pob gyrrwr sydd â hawl i gategori C neu D wedi'i gyfyngu i ôl-gerbydau sydd â MAM o hyd at 750kg; rhaid cael hawl i Gategori C+E neu D+E er mwyn tynnu ôl-gerbydau sy'n fwy na hyn.

Trwydded gyrru car a gafwyd am y tro cyntaf ar ôl 1 Ionawr 1997

Bydd angen i yrwyr a basiodd eu prawf cerbyd ar 1 Ionawr 1997 neu wedi hynny basio prawf gyrru ychwanegol er mwyn cael hawl i gategori B+E a phob cerbyd mwy. Ynghyd â'r profion gyrru newydd, mae angen i yrwyr cerbydau sydd o fewn is-gategorïau C1, C1+E, D1 a D1+E fodloni safonau meddygol uwch.

Uwchraddio hawl ar gyfer ôl-gerbydau

Yn gyffredinol, bydd angen pasio prawf gyrru ychwanegol i gael hawl i yrru ym mhob categori neu is-gategori. Ond mae rhai eithriadau i hyn pan fydd gyrwyr eisoes wedi pasio un prawf sy'n rhoi hawl i dynnu ôl-gerbydau ar gyfer cerbyd mwy neu o'r un maint.

Mae hyn yn golygu bod pasio prawf ar gyfer is-gategori C1+E neu D1+E yn uwchraddio hawl categori B i B+E. Mae pasio prawf ar gyfer is-gategori C1+E yn uwchraddio is-gategori D1, os oes gennych hwnnw, i D1+E. Ond nid yw pasio prawf ar gyfer is-gategori D1+E yn uwchraddio is-gategori C1 i C1+E am fod maint yr ôl gerbyd ar gyfer prawf is-gategori D1+E yn llai na hwnnw ar gyfer prawf is-gategori C1+E.

Mae pasio prawf ar gyfer categori C+E yn uwchraddio hawl categori B i B+E ac yn rhoi hawl hefyd i is-gategorïau C1 ac C1+E, ac os oes gennych hawl i gategori D neu is-gategori D1, caiff y rhain eu huwchraddio i gategori D+E neu is-gategori D1+E. Bydd pasio prawf ar gyfer categori D+E yn uwchraddio categori B ac is-gategori D1 i gategori B+E ac is-gategori D1+E yn y drefn honno. Ond nid yw hyn yn uwchraddio hawliau categori C neu is-gategori C1 am fod maint yr ôl-gerbyd ar gyfer prawf categori D+E yn llai na hwnnw ar gyfer profion categori C+E neu is-gategori C1+E.

Hawl dros dro i dynnu ôl-gerbydau

Ers 1 Ionawr 1997, ni all gyrwyr bellach sefyll prawf ar gyfer cyfuniad o gerbyd trwm/ôl-gerbyd (e.e. categori C+E neu D+E) os nad ydynt wedi pasio prawf a chael trwydded lawn eisoes ar gyfer y cerbyd un-darn cyfatebol (e.e. categori C neu D).

Mae hyn yn golygu, er bod gyrwyr efallai wedi bod yn gyrru cyfuniad o gerbyd ac ôl-gerbyd yn gyfreithlon, gyda phlatiau 'L' neu 'D', nid oes ganddynt hawl i sefyll prawf ôl-gerbyd ar gyfer cyfuniad o'r fath hyd nes bod prawf wedi'i basio mewn cerbyd undarn a thrwydded lawn wedi'i chael ar gyfer y categori hwnnw.

* Nodwch os gwelwch yn dda – ni all deiliaid trwyddedau dros dro categori B dynnu ôl-gerbyd (naill ai gyda neu heb lwyth) nes eu bod wedi pasio’r prawf priodol.

Ni fwriedir i'r wybodaeth hon fod yn ddatganiad cyfreithiol terfynol.

Adeiladwaith a defnydd

Mae'r erthygl hon yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr yn unig. Am fanylion ynghylch y gofynion o ran adeiladwaith a defnyddio sy'n ymwneud â phwysau a dimensiynau ôl-gerbydau, cysylltwch â:

Transport, Technology and Standards, Yr Adran Drafnidiaeth, Zone 2/01, Great Minster House, 76 Marsham Street, Llundain, SW1P 4DR

E-bost: tts.enquiries@dft.gsi.gov.uk

Additional links

Ydy’ch cerbyd oddi ar y ffordd?

Cadwch eich cerbyd wedi’i yswirio, neu gwnewch ddatganiad HOS gyda DVLA - neu gallech wynebu cosb

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU