Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd rheolau newydd yn dod i rym ar 19 Ionawr 2013 ar gyfer trwyddedau i yrru ceir a cherbydau bach (categori B a BE) sy'n tynnu ôl-gerbydau. Bydd y rheolau newydd yn gymwys os byddwch yn pasio eich prawf ar ôl y dyddiad hwnnw. Mynnwch wybod sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch.
Os oes eisoes gennych drwydded i yrru car neu gerbyd bach (categori B a BE), byddwch yn cadw eich hawl i dynnu ôl-gerbydau. Bydd eich hawl i dynnu ôl-gerbydau yn aros fel ag yr oedd pan wnaethoch basio eich prawf gyrru.
Er mwyn tynnu ôl-gerbydau trymach ar ôl 19 Ionawr 2013, bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer gyrwyr newydd isod.
Categori B
Nid oes newid i hawl categori B i dynnu ôl-gerbydau.
Categori BE
Os bydd eich ôl-gerbyd yn pwyso mwy na 750kg a bod yr ôl-gerbyd a'r cerbyd sy'n tynnu yn pwyso mwy na 3,500kg gyda'i gilydd, bydd angen i chi basio prawf arall. Ni all yr ôl-gerbyd y byddwch yn ei dynnu fod yn drymach na 3,500kg. Nodir y prawf ar eich trwydded yrru fel categori BE.
Categori C1E
Er mwyn tynnu ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 3,500kg gan ddefnyddio car neu gerbyd bach (categori B), bydd angen i chi basio prawf ar gyfer categori C1E.