Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau newydd ar gyfer cerbydau y gallwch eu gyrru a'r isafswm oedrannau

Bydd rheolau newydd ynglŷn â chyfyngiadau oedran ar gyfer gyrru yn dod i rym ar 19 Ionawr 2013. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys pryd y gallwch yrru cerbydau penodol a'r math o gerbydau y gallwch eu gyrru mewn rhai categorïau. Mynnwch wybod sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnoch.

Pobl sydd eisoes â thrwydded yrru

Os oes eisoes gennych drwydded yrru, byddwch yn cadw eich hawliau i yrru'r mathau gwahanol o gerbydau a nodir ar eich trwydded yrru.

Os byddwch am yrru cerbydau ychwanegol neu basio prawf i wneud hynny ar neu ar ôl 19 Ionawr 2013, bydd y rheolau newydd yn gymwys.

Gyrwyr newydd o 19 Ionawr 2013

Bydd yn rhaid i yrwyr newydd fodloni'r isafswm oedran newydd ar gyfer gyrru cerbydau. Bydd y disgrifiadau categori newydd yn gymwys i chi os byddwch yn dysgu sut i yrru neu'n pasio prawf gyrru ar neu ar ôl 19 Ionawr 2013.

Dim ond i bobl nad ydynt yn yrwyr proffesiynol y mae'r isafswm oedran ar gyfer gyrru cerbydau nwyddau canolig a mawr a/neu gerbydau sy'n cludo teithwyr (categorïau C1, C1E, C, CE, D1, D1E, D, a DE) yn gymwys.

Ar gyfer gyrwyr proffesiynol, gellir gyrru rhai o'r cerbydau hyn yn gynt os bydd gan y gyrrwr gymhwyster Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC).

Ni fydd y cyfyngiadau oedran ar gyfer gyrru ceir a cheir sy'n tynnu ôl-gerbydau yn newid.

Mae'r tablau isod yn dangos beth y gallwch ei yrru a'r gofynion oedran o dan y rheolau newydd o 19 Ionawr 2013.

Mopedau a beiciau pedair olwyn ysgafn

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
P* Cerbydau modur â llai na phedair olwyn gyda chyflymder uchaf sy'n fwy na 45km/h ond nad yw'n fwy na 50km/h, a gaiff eu gyrru gan injan hylosgi mewnol ac nad yw maint y silindr yn fwy na 50cc 16
Q*,** Cerbydau modur â llai na phedair olwyn a gaiff eu gyrru gan injan hylosgi mewnol, lle nad yw maint y silindr yn fwy na 50cc ac, os nad ydynt yn gerbydau a gaiff eu gyrru drwy ddefnyddio pedalau, nad yw eu cyflymder uchaf yn fwy na 25km/h 16
AM** Cerbydau dwy olwyn neu dair olwyn nad yw eu cyflymder uchaf yn fwy na 45km/h 16
AM** Cerbydau nad yw eu màs heb lwyth yn fwy na 350kg, heb gynnwys màs y batris yn achos cerbydau trydan, ac nad yw eu cyflymder uchaf yn fwy na 45km/h 16

* Categori cenedlaethol yn unig.

** Categori newydd.

Beiciau modur a threisiclau

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
A1* Beic modur â maint silindr nad yw'n fwy na 125cc, nad yw ei allbwn pŵer yn fwy nag 11kW ac nad yw ei gymhareb pŵer i bwysau yn fwy na 0.1kW fesul kg 17
A1* Treisicl modur nad yw ei allbwn pŵer yn fwy na 15kW 17
A2** Beic modur nad yw ei allbwn pŵer yn fwy na 35kW, gyda chymhareb pŵer i bwysau nad yw'n fwy na 0.2kW fesul kg ac nad yw'n tarddu o gerbyd â mwy na dwywaith ei allbwn pŵer 19
A* Beic modur nad yw ei allbwn pŵer yn fwy na 35kW, neu gyda chymhareb pŵer i bwysau nad yw'n fwy na 0.2kW fesul kg 24***
A* Treisicl modur ag allbwn pŵer sy'n fwy na 15kW 24

*Disgrifiad categori newydd.

** Categori newydd.

*** 21 oed os oes gennych dwy flynedd o brofiad ar feic modur A2 ac rydych yn pasio prawf ymarferol pellach.

Cerbydau pedair olwyn ysgafn

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
B1 Cerbydau modur â phedair olwyn sy'n pwyso hyd at 550kg heb lwyth a cherbydau i bobl anabl 17*

* 16 oed os ydych yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (lwfans symudedd) ar y gyfradd uwch.

Ceir

Ystyr y term uchafswm màs awdurdodedig (MAM) yw cyfanswm pwysau’r cerbyd yn ogystal â’r llwyth mwyaf y gall ei gario'n ddiogel.

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
B Cerbydau modur â MAM nad yw'n fwy na 3,500kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso hyd at 750kg 17*
B Cerbydau modur â MAM nad yw'n fwy na 3,500kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 750kg, lle nad yw cyfanswm MAM y cerbyd a’r ôl-gerbyd yn fwy na 4,250kg 17**
B+E Cyfuniadau o gerbydau yn cynnwys cerbyd o gategori B ac ôl-gerbyd, lle na chaiff y cyfuniad ei gwmpasu gan gategori B, a lle nad yw MAM yr ôl-gerbyd neu'r ôl-gerbyd rhannol yn fwy na 3,500kg 17*

*16 oed os ydych yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (lwfans symudedd) ar y gyfradd uwch.

**Elfen newydd o gategori B (ni fydd y DU yn rhoi'r elfen hon ar waith. Er mwyn gyrru cerbydau a gwmpesir gan y diffiniad hwn, bydd angen cael hawl B+E).

Cerbydau maint canolig gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
C1** Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso hyd at 750kg 18*
C1+E** Cerbydau rhwng 3,500kg a 7,500kg gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 750kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 750kg - lle nad yw pwysau'r cerbyd a'r ôl-gerbyd gyda'i gilydd yn fwy na 12,000kg 21*

*18 oed os bydd pwysau'r cerbyd a'r ôl-gerbyd gyda'i gilydd yn llai na 7,500kg.

**Os gwnaethoch basio eich prawf ar gyfer categori B neu B awtomatig cyn 1 Ionawr 1997, bydd eich trwydded eisoes yn nodi hawl i yrru cerbydau C1, C1E (8.25 tunnell), D1 a D1E (heb fod ar gael i'w llogi nac am dâl).

Cerbydau nwyddau mawr gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categorïau Disgrifiad Isafswm oedran
C Cerbydau sy'n pwyso mwy na 3,500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso hyd at 750kg 21*
C+E Cerbydau sy'n pwyso mwy na 3,500kg, y maent wedi'u cynllunio a'u hadeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 750kg 21*

*Gallwch yrru pan fyddwch yn 17 oed os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog.

**Gallwch yrru pan fyddwch yn 18 oed os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych wedi pasio eich prawf gyrru a Chymhwyster Cychwynnol y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr
  • rydych yn dysgu sut i yrru neu'n sefyll prawf gyrru ar gyfer y categori hwn neu Gymhwyster Cychwynnol y CPC i Yrwyr
  • rydych yn dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol cenedlaethol er mwyn cael Cymhwyster Cychwynnol y CPC i Yrwyr
  • gwnaethoch gael eich trwydded yrru cyn 10 Medi 2009, bydd yn rhaid i chi gymryd yr hyfforddiant CPC cyfnodol o fewn pum mlynedd i'r dyddiad hwn

Bysiau mini gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
D1 Cerbydau ag 16 o seddi i deithwyr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, nad ydynt yn fwy nag wyth metr o ran hyd 21*,**,***,****
D1+E Cerbydau ag 16 o seddi i deithwyr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, nad ydynt yn fwy nag wyth metr o ran hyd, ar yr amod nad yw MAM y cyfuniad o gerbydau a ffurfir yn fwy na 12,000kg, ac nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na màs y cerbyd sy'n tynnu heb lwyth 21*,**,***,****

*Disgrifiad categori newydd

**Gallwch yrru pan fyddwch yn 17 oed os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog.

***Gallwch yrru'r cerbydau hyn pan fyddwch yn 18 oed os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

1) Rydych yn dysgu sut i yrru neu'n sefyll prawf cerbyd cludo teithwyr (PCV) neu gymhwyster cychwynnol y CPC i Yrwyr

2) Ar ôl pasio prawf gyrru PCV a chymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr, gallwch yrru o dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • rydych yn gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn fwy na 50km
  • nid ydych yn cludo teithwyr
  • rydych yn gyrru cerbyd sy'n perthyn i is-gategori D1

3) Os byddwch wedi pasio prawf PCV cyn 10 Medi 2008 gallwch yrru o dan drwydded cwmni bysiau, trwydded bws mini, neu drwydded bws cymunedol, ac o dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • rydych yn gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn fwy na 50km
  • nid ydych yn cludo teithwyr
  • rydych yn gyrru cerbyd sy'n perthyn i is-gategori D1

****20 oed ar ôl pasio prawf gyrru PCV a chymhwyster cychwynnol y CPC i Yrwyr.

Am ragor o gyngor, gallwch gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ffonio 0300 200 1122.

Bysiau gydag ôl-gerbydau neu heb ôl-gerbydau

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
D Unrhyw fws sydd wedi'i gynllunio a'i adeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso hyd at 750kg
24*,**,***,****,*****
D+E Unrhyw fws sydd wedi'i gynllunio a'i adeiladu i gario wyth teithiwr ar y mwyaf, yn ogystal â'r gyrrwr, gydag ôl-gerbyd sy'n pwyso mwy na 750kg 24*,**,***,****,*****

*Isafswm oedran newydd

**Disgrifiad categori newydd

***Gallwch yrru pan fyddwch yn 17 oed os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog.

****Gallwch yrru'r cerbydau hyn pan fyddwch yn 18 oed os bydd un o'r canlynol yn gymwys:

1) Rydych yn dysgu sut i yrru neu'n sefyll prawf cerbyd cludo teithwyr (PCV) neu gymhwyster cychwynnol y CPC i Yrwyr

2) Ar ôl pasio prawf gyrru PCV a chymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr, gallwch yrru o dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • rydych yn gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn fwy na 50km
  • nid ydych yn cludo teithwyr
  • rydych yn gyrru cerbyd sy'n perthyn i is-gategori D1

3) Os byddwch wedi pasio prawf PCV cyn 10 Medi 2008 gallwch yrru o dan drwydded cwmni bysiau, trwydded bws mini, neu drwydded bws cymunedol, ac o dan unrhyw un o'r amodau canlynol:

  • rydych yn gyrru ar wasanaeth rheolaidd lle nad yw’r daith yn fwy na 50km
  • nid ydych yn cludo teithwyr
  • rydych yn gyrru cerbyd sy'n perthyn i is-gategori D1

*****20 oed ar ôl pasio prawf gyrru PCV a chymhwyster cychwynnol y CPC i Yrwyr.

Am ragor o gyngor, gallwch gysylltu â'r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy ffonio 0300 200 1122.

Categorïau eraill

Categori Disgrifiad Isafswm oedran
F Tractorau amaethyddol 17*
G Rholeri ffordd 21**
H Cerbydau trac 21***,****
K Peiriannau torri gwair neu gerbydau a reolir gan rywun ar droed 16

*Pan fyddwch yn 16 oed, gallwch yrru tractorau sy'n llai na 2.45m o led. Ni ellir tynnu ôl-gerbydau oni fyddant yn llai na 2.45m o led, gyda dwy olwyn neu bedair olwyn clos cwpledig.

**Pan fyddwch yn 17 oed, gallwch yrru rholeri ffordd bach gyda rholeri metel neu roleri caled. Ni chaniateir iddynt gael eu pweru gan ager, ni chaniateir iddynt bwyso mwy nag 11.69 tunnell na bod wedi'u cynllunio i gario llwythi.

***Gallwch yrru pan fyddwch yn 17 oed os na fydd uchafswm màs awdurdodedig (MAM) y cerbyd trac yn fwy na 3,500kg.

****Gallwch yrru pan fyddwch yn 17 oed os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog.

Additional links

Arbedwch amser drwy ei wneud ar-lein

Mynnwch wybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU